Cydlyniant cymunedol
Sut fydd yr amcan llesiant yn cael ei ariannu?
Pan fyddwn yn gofyn i bobl 'Pa bethau sydd yn bwysig i chi mewn bywyd?', maent yn dweud wrthym fod eu hanwyliaid, perthnasau, ffrindiau, cymdogion a'u cymuned yn bwysig iddynt.
Yn y Gwasanaethau Plant mae ein hystod o wasanaethau cymorth i deuluoedd yn cyfrannu at yr amcan hwn ac mae'n anodd dadansoddi ei gostau ar wahân i gostau rhai o'n hamcanion eraill ynghylch rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant a gwella eu profiadau ar ddechrau bywyd.
Gwerir bron £24m i gyd ar draws Is-adran y Gwasanaethau Plant. Mae gwasanaethau i helpu gofalwyr a gwasanaethau cymorth cartref yn helpu pobl i barhau i fyw gartref, gyda'u teuluoedd ac yn eu cymunedau – Hefyd gweler Amcan 9. Yn ogystal rydym yn gweithio i sicrhau cydlynu ehangach â'r gymuned trwy ystod o fentrau.