Amcan llesiant 9: Cefnogi pobl hŷn er mwyn iddynt heneiddio'n dda a chadw'u hurddas a'u hannibyniaeth wrth wneud hynny
Pam mae'r amcan hwn yn bwysig?
Mae gan Sir Gaerfyrddin gyfran uchel o drigolion dros 65 oed sy'n rhan hanfodol a bywiog o'r gymuned. Rydym am i'r sir fod yn lle i heneiddio'n dda.
Mae ymgyngoriadau wedi dangos mai'r hyn sy'n bwysig i bobl hŷn yw gallu bod mor annibynnol ac iach â phosibl am gyn hired â phosibl. 'Cael eich parchu fel person hŷn, heb gael eich ystyried yn faich ar y system iechyd a gofal cymdeithasol leol'.
Dengys ymchwil fod cael pobl hŷn i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a'u parchu ac i gyfrannu'n gymdeithasol, yn ffactor hanfodol o ran heneiddio'n iach.
Mae pobl hŷn yn cyfrannu at yr economi yn Sir Gaerfyrddin drwy ofalu am eu hwyrion a'u hwyresau neu aelodau eraill o'r teulu.
Gall gwasanaethau ehangach wneud cyfraniad pwysig i gefnogi a chynnal annibyniaeth pobl hŷn a lleihau'r galw ar Wasanaethau Cymdeithasol a Gofal Iechyd.
Mae rhagamcaniadau cyfredol yn awgrymu bod poblogaeth pobl dros 65 sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin yn tyfu ac erbyn 2030 bydd yn cynyddu 60%. Mae cynnydd sylweddol wedi bod, ac yn parhau i fod, yn y 'bobl hŷn hynaf' a chafwyd y cynnydd mwyaf yn y grŵp oedran dros 85 oed: twf rhagweladwy o 116%.
Yn ystadegol mae pobl hŷn yn fwy tebygol o gael cyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu bywydau, gyda 55% o'r boblogaeth dros 65 oed yn dweud bod ganddynt anabledd neu salwch hirdymor. Yn gyffredinol mae'r galw am wasanaethau ysbyty a chymunedol gan y rheiny sy'n 75 oed a hŷn dair gwaith yn fwy na chan y rheiny sydd rhwng 30 a 40 oed.
Er bod pobl Sir Gâr yn byw'n hwy, nid oes tuedd debyg o ran bod yn iach am fwy o flynyddoedd. Diffinnir hyn fel disgwyliad oes iach heb anabledd ac mae'n tyfu'n arafach na disgwyliad oes. Yn syml, mae hyn yn golygu bod pobl yn byw'n hwy gyda salwch ac anableddau. I ddynion yn yr ardal, 77.4 yw'r disgwyliad oes, a 59.4 yw'r oed a amcangyfrifir ar gyfer byw heb anabledd, a 64 ar gyfer bywyd iach. Ar gyfer menywod, 82 yw'r oedran, a 61.2 ar gyfer byw heb anabledd a 65.7 ar gyfer bywydau iach.
Mae'n hanfodol inni osod seiliau cadarn i ddiogelu at y dyfodol argaeledd gwasanaethau sy'n hybu ac yn cefnogi llesiant parhaus ac annibyniaeth ein poblogaeth hŷn sy'n fregus.
Mae pobl hŷn yn ased sylweddol i Gymru, ac yn werth mwy nag £1 biliwn i economi Cymru yn flynyddol. Mae'n rhaid i ni fabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar asedau sydd, yn hytrach na chanolbwyntio ar gostau darparu gwasanaethau i bobl hŷn, yn ystyried cost peidio â buddsoddi mewn pobl hŷn.
Pan ofynnwyd iddynt, dywedodd pobl hŷn wrthym eu bod am gymaint o gefnogaeth â phosibl i'w helpu i wneud y pethau maent yn eu mwynhau ac i ymdopi o ddydd i ddydd.