Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/07/2023

O gofal cymdeithasol i ysgolion i iaith Gymraeg, gael gwybod sut gwasanaethau'r cyngor yn cael eu harchwilio a'u hasesu.

Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn annibynnol ar y llywodraeth ac mae’n cael ei benodi gan Ei Mawrhydi y Frenhines. Mae’n arwain Swyddfa Archwilio Cymru ac mae’n atebol i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae archwilwyr penodedig yr Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am archwilio y rhan fwyaf o arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru yn flynyddol, gan gynnwys y £15 biliwn o gyllid a drosglwyddir i Gymru’n flynyddol gan Senedd San Steffan. Caiff bron i £5.5 biliwn o’r cyllid hwn ei drosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i lywodraeth leol ar ffurf grantiau cyffredinol a grantiau penodol. Mae llywodraeth leol yn codi £2.1 biliwn arall drwy dreth y cyngor a threthi busnes.

Yn ogystal ag ymgymryd ag archwilio ariannol, rôl yr Archwilydd Cyffredinol yw edrych ar sut mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus, gan gynnwys sicrhau gwerth am arian wrth gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus. Nod Swyddfa Archwilio Cymru yw gwneud i arian cyhoeddus gyfrif, drwy hyrwyddo gwelliant fel bod pobl yng Nghymru yn elwa o wasanaethau cyhoeddus sy’n atebol ac sy’n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymroddedig i gasglu a rhannu arfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Estyn yw swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n ariannu Estyn, ond maent yn annibynnol o’r Cynulliad. Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Maent yn gyfrifol am arolygu:

  • Ysgolion a lleoliadau meithrin
  • Ysgolion cynradd
  • Ysgolion uwchradd
  • Ysgolion arbennig
  • Unedau cyfeirio disgyblion
  • Ysgolion annibynnol
  • Addysg bellach
  • Colegau arbenigol annibynnol
  • Dysgu oedolion yn y gymuned
  • Gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc
  • Addysg a hyfforddiant athrawon
  • Dysgu yn y gwaith
  • Cwmnïau gyrfaoedd
  • Ac addysg i droseddwyr

Nhw yw'r rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Maent yn cofrestru, arolygu a gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru.

Nhw:

  • yn cyflawni swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru
  • yn penderfynu pwy all ddarparu gwasanaethau
  • yn arolygu ac yn gyrru gwelliant mewn gwasanaethau a reoleiddir a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol
  • yn cynnal adolygiadau thematig o wasanaethau gofal cymdeithasol
  • yn cymryd camau gweithredu er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n bodloni gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol
  • yn archwilio pryderon a leisir ynglŷn â gwasanaethau a reoleiddir

Prif nod Comisiynydd y Gymraeg, corff annibynnol a grëwyd yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Gwneir hyn drwy ddwyn sylw i’r ffaith bod statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru a thrwy osod safonau ar sefydliadau. Bydd hyn, yn ei dro, yn arwain at sefydlu hawliau i siaradwyr Cymraeg.

Bydd dwy egwyddor yn sail i’r gwaith:

  • Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru
  • Dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Mae swyddogaethau Comisiynydd y Gymraeg yn cynnwys:

  • Hybu defnyddio'r Gymraeg
  • Hwyluso defnyddio'r Gymraeg
  • Gweithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg drwy osod dyletswydd ar rai sefydliadau i gydymffurfio â safonau’n ymwneud â’r Gymraeg
  • Cynnal ymholiadau i faterion sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Comisiynydd
  • Ymchwilio i ymyrraeth â rhyddid unigolyn i ddefnyddio'r Gymraeg.

Cyngor a Democratiaeth