Teithio Llesol Yng Nghaerfyrddin

  • Y cyfnod ymgynghori: 20/02/2023 ~ 09:00 - 02/04/2023 ~ 23:59
  • Cynulleidfa: Yr holl breswylwyr a/neu fusnesau [preifat]/mudiadau [trydydd sector]. ll residents and/or all [private] businesses / [third-sector] organisations
  • Ardal: Caerfyrddin
  • Adran / gwasanaeth y Cyngor: Lle a Seilwaith, Priffyrdd a thrafnidiaeth

Pam yr ydym yn ymgynghori

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio Teithio Llesol Caerfyrddin, ymgynghoriad ar lwybrau teithio llesol arfaethedig yng Nghaerfyrddin i ddatblygu ymhellach brif gynllun ar gyfer Teithio Llesol yn y dref ac o'i hamgylch. Bwriad y prif gynllun hwn yw sicrhau ei bod yn haws mynd o gwmpas Caerfyrddin, drwy gerdded, beicio a darparu opsiynau trafnidiaeth diogel, fforddiadwy. Bydd yr opsiynau trafnidiaeth hyn yn annog ymwelwyr i ddod i ganol y dref ac yn hyrwyddo cymuned iachach. Dyma'r cyfle i gymryd rhan.

Ceisir barn preswylwyr, cymudwyr a pherchnogion busnes er mwyn sicrhau bod yr ymarfer hwn mor fuddiol â phosibl i'r gymuned gyfan.

Sut i gymryd rhan

Dilynwch y ddolen i'r dudalen allanol i gael rhagor o wybodaeth

Ymgynghoriad Teithio Llesol Caerfyrddin

Camau nesaf

Bydd adborth o'r ymgynghoriad hwn yn cael ei ystyried trwy astudiaethau dichonoldeb penodol yn unol â Chanllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru.

Cyngor a Democratiaeth