Ymgynghoriad ar yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI)

  • Y cyfnod ymgynghori: 17/02/2023 ~ 09:00 - 14/04/2023 ~ 16:30
  • Cynulleidfa: Yr holl breswylwyr, fusnesau, mudiadau.
  • Ardal: Unrhyw Ward / Ardal
  • Adran / gwasanaeth y Cyngor: Lle a Seilwaith, Y Gwasanaethau Cynllunio

Pam yr ydym yn ymgynghori

Mae Adroddiad yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig yn ystyried effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo.

Mae'n cynnwys sawl gofyniad statudol mewn un ddogfen sy'n galluogi asesiad mwy tryloyw a chyfannol o oblygiadau cynaliadwyedd y cynigion a geir yn y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig.

Mae'n cynnwys yr Adroddiad Arfarnu Cynaliadwyedd a'r Asesiad Amgylcheddol Strategol ar y cyd, ochr yn ochr ag Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg, Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, elfennau o Asesiad o'r Effaith ar Iechyd, Nodau Llesiant Lleol a Chenedlaethol, ac ystyriaethau eraill sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd, gan gynnwys Datganiad Ardal Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Ddyletswydd Adran 6 (i gynnal a gwella bioamrywiaeth, a hybu cydnerthedd ecosystemau).

Rydym yn awyddus i dderbyn adborth gan bawb sydd â diddordeb.

Sut i gymryd rhan

Gallwch gymryd rhan drwy gwblhau'r arolwg ar-lein hwn.

Online survey

Sylwch na ellir ymdrin â'ch sylwadau yn gyfrinachol a bydd yr holl sylwadau ar gael i'r cyhoedd eu gweld. Mae ein hysbysiad preifatrwydd  yn esbonio beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

Camau nesaf

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd Adroddiad yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig yn cael ei adolygu yn sgil yr ymatebion a dderbyniwyd i hysbysu Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig a Fabwysiadwyd.

Cyngor a Democratiaeth