Ymgynghoriad ar yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARC)

  • Y cyfnod ymgynghori: 17/02/2023 ~ 09:00 - 14/04/2023 ~ 16:30
  • Cynulleidfa: Yr holl breswylwyr, fusnesau a mudiadau.
  • Ardal: Unrhyw Ward / Ardal.
  • Adran / gwasanaeth y Cyngor: Lle a Seilwaith, Y Gwasanaethau Cynllunio

Pam yr ydym yn ymgynghori

O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, mae'n ofynnol i'r cyngor asesu a yw'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig yn debygol o gael effaith sylweddol ar integredd unrhyw Safle Ewropeaidd ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau a phrosiectau eraill. Gelwir y broses orfodol hon yn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ac fe'i cynhelir drwy gydol y gwaith o baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig.

Mae'r ymgynghoriad diweddaraf hwn ar Adroddiad Ategol yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn ymateb i fater Ffosffadau, yn ogystal â sgrinio newidiadau a wnaed i'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig ers cyhoeddi Adroddiad yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

Mae ymgynghoriadau blaenorol wedi'u cynnal ar Adroddiad Sgrinio yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ac Adroddiad yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, fodd bynnag, fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, rydym yn parhau i groesawu ymatebion ar yr olaf.

Rydym yn awyddus i dderbyn adborth gan bawb sydd â diddordeb.

Sut i gymryd rhan

Gallwch gymryd rhan drwy gwblhau'r arolwg ar-lein hwn.

Arolwg ar-lein

Sylwch na ellir ymdrin â'ch sylwadau yn gyfrinachol a bydd yr holl sylwadau ar gael i'r cyhoedd eu gweld. Mae ein hysbysiad preifatrwydd  yn esbonio beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

Camau nesaf

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd yr adroddiad priodol yn cael ei adolygu yng ngoleuni'r ymatebion a gafwyd i lywio yn y modd gorau Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig a Fabwysiadwyd.

Cyngor a Democratiaeth