Partneriaeth â Rhieni
Rydym yn mabwysiadu dull partneriaeth o weithio gyda theuluoedd disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae'r Gwasanaethau Partneriaeth â Rhieni yn rhoi cymorth a chyngor i rieni sydd â phlant ag ADY, drwy Swyddogion Cyswllt Teulu. Maent yn darparu gwybodaeth gywir a diduedd am yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael i rieni a gofalwyr, plant a phobl ifanc. Nid ydynt yn ‘cymryd ochr’. Maent yn helpu teuluoedd i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch addysg eu plentyn. Gellir gofyn am gymorth ar unrhyw adeg a gall barhau am gyfnod amhenododl yn ôl yr angen. Os yw'r rhieni'n dymuno, bydd y gwasanaeth yn darparu cefnogwr rhieni annibynnol.
Gall rhieni gyfrannu i'r bartneriaeth hon drwy:
- siarad â Phennaeth neu Gyd-gysylltydd ADY eu hysgol leol a fydd yn gallu rhoi manylion cyswllt y gwasanaeth partneriaeth â rhieni lleol.
- cysylltu â'r awdurdod lleol yn uniongyrchol - Swyddog Cyswllt Teulu ADY ar 01267 246466. Gallant ddarparu cyngor penodol i'r Blynyddoedd Cynnar hyd at addysg Ôl-16. Maent yn gweithio'n agos gyda Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar, Swyddog Arweiniol Ôl-16, athrawon ymgynghorol eraill a swyddogion cynhwysiant.
- neu, drwy gysylltu â SNAP Cymru - 01554 777566 0845 120 37 30 neu e-bost carm@snapcymru.org neu helpline@snapcymru.org.
Gall Swyddogion Cyswllt Teulu ADY ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau sy'n cael eu gwneud trwy Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).
Mae ein gwasanaethau ar gyfer Cynhwysiad (Addysg) ac Anabledd (Gofal Cymdeithasol) yn cydweithio i ddarparu gwell gwasanaethau i blant a'u teuluoedd. Rydym yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda theuluoedd fel y gallwn weithio mewn partneriaeth.
Os oes gan blant a phobl ifanc anhawster dysgu sylweddol ac anghenion cymhleth gall gweithiwr allweddol yn y Tîm Anableddau Plant eu cefnogi nhw a'u teulu. Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod pawb yn gwybod pa gymorth sydd ei angen, beth sy'n cael ei wneud a pha mor aml y mae angen adolygu hyn.
Addysg ac Ysgolion
Covid-19 - Cwestiynau Cyffredin Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion / Newid ysgol
- Gwneud cais am le mewn ysgol: plant 3 oed
- Gwneud cais am le mewn ysgol gynradd
- Symud i ysgol uwchradd
- Newid ysgol
- Dyfarnu lleoedd ysgol: Meini prawf
- Dalgylchoedd
- Apêl: Os gwrthodir lle mewn ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Asesiad Statudol o Anghenion Addysgol
- Seicoleg Addysg a Phlant
- Darpariaethau arbenigol
- Y gallu i ddysgu
- Darllen ac ysgrifennu
- Rhif neu fathemateg
- Sgiliau echddygol
- Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu
- Anawsterau Dysgu Difrifol
- Colled Clyw
- Nam ar y golwg
- Problemau corfforol a/neu feddygol
- Awtistiaeth
- Saesneg/Cymraeg fel ail iaith
- Anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol
- Canolbwyntio
- Sipsiwn a theithwyr
- Partneriaeth â Rhieni
- Llais y plentyn / person ifanc
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
- Prydau ysgol gynradd
- Prydau ysgol uwchradd
- Prydau ysgol am ddim
- Brecwast / llaeth ysgol am ddim
- Alergenau, anoddefiadau a deietau arbennig
- Sut rydym yn cael hyd i’n cynnyrch
- Cwestiynau cyffredin
- Safonau maeth ar gyfer prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
- Gwobr Dug Caeredin
- Coleg i ddisgyblion blwyddyn 11
- Heb fod mewn addysg na chyflogaeth?
- Cynnydd
- Cam Nesa
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Mwy ynghylch Addysg ac Ysgolion