Derbyn i Ysgolion 2023-2024- Gwybodaeth i Rieni

Rhoi gwybod am Dderbyn i Ysgol

Bydd rhieni’n cael eu hysbysu trwy e-bost yn cadarnhau, neu fel arall, fod lle ar gael yn yr ysgol ac yn cynnig iddynt y cyfle i dderbyn y lle yn unol â'r trefniadau derbyn a nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn yn y ddogfen hon.

Rhaid i riant dderbyn yr e-bost cynnig i sicrhau lle yn yr ysgol. Os na fydd rhiant yn ymateb erbyn y dyddiad ar yr e-bost, mae'n bosibl y bydd y lle yn cael ei dynnu’n ôl ac yn cael ei gynnig i ddisgybl arall.

Bydd ceisiadau i dderbyn y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol yn cael eu hysbysu fel arfer o fewn 15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod calendr, pa un bynnag sydd gyntaf ar ôl derbyn y cais.

Rhestr Aros

Lle na fu'n bosibl derbyn disgybl i ysgol oherwydd goralw, rhaid i rieni roi gwybod i'r Awdurdod mewn neges e-bost neu lythyr os ydynt yn dymuno rhoi'r plentyn ar y rhestr aros a fydd yn cael ei chadw hyd 30 Medi 2023. Os daw lleoedd gwag ar gael cânt eu dyfarnu'n unol â'r meini prawf gor-alw a amlinellwyd yn hytrach nag ers pryd y bu'r cais ar y rhestr aros. Dylid nodi bod yn rhaid i geisiadau newydd gael eu cyflwyno ar ôl y dyddiad cau sydd ar 30 Medi.

Dim ond os bydd nifer y lleoedd sydd wedi'u dyrannu/ar y gofrestr yn y grŵp blwyddyn perthnasol yn gostwng islaw'r nifer derbyn ar gyfer yr ysgol y bydd disgyblion ar y rhestr aros yn cael eu hystyried. Os bydd lleoedd gwag ar gael, bydd yr holl geisiadau newydd a hwyr sydd wedi dod i law bryd hynny yn cael eu hystyried ar gyfer y lleoedd gwag ynghyd â'r rhai sydd ar y rhestr aros. Bydd unrhyw leoedd sydd ar gael yn cael eu dyrannu yn unol â'r meini prawf gor-alw.

Bydd ceisiadau ar y rhestr aros ar gyfer y trefniadau derbyn arferol yn cael eu hadolygu'n fisol tan 30 Medi ar ôl y dyddiad hysbysiad o benderfyniad fel y nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn yn y ddogfen hon.

Gall rhieni apelio yn erbyn penderfyniad tra byddant ar y rhestr aros ar gyfer nifer o ysgolion.

Tynnu Cynnig o Le yn Ôl

Tynnir cynnig o le mewn ysgol yn ôl os:

  1. darganfyddir yn ddiweddarach y cafodd cais twyllodrus neu fwriadol gamarweiniol ei gyflwyno (e.e. hawlio trwy dwyll fod ymgeisydd yn preswylio yn nalgylch yr ysgol); neu
  2. os nad yw’r lle a gynigir wedi cael ei dderbyn erbyn y dyddiadau a nodir yn yr e-bost/llythyr. Yna gallai'r Awdurdod dynnu’r cynnig yn ôl a rhoi’r lle i blentyn arall.
  3. Mae lle mewn ysgol arall wedi cael ei gadarnhau gan riant/warcheidwad.
  4. Os nad yw disgybl wedi dechrau mewn ysgol ar ddiwedd y tymor ysgol sef y tymor yr oedd i fod i ddechrau yn unol â pholisi'r cyngor.