Derbyn i Ysgolion 2023-2024- Gwybodaeth i Rieni

Sut mae gwneud cais

Ffeithiau:

Wedi i’r rhiant/gofalwr/rhiant corfforaethol benderfynu i ba ysgol y maent am anfon eu plentyn/plant mae'n rhaid iddynt gyflwyno cais i’r Awdurdod Derbyn priodol, gofynnir i'r rhiant/gofalwyr restru’r dewis o ysgol yn ôl y dewis 1af, yr 2il ddewis a’r 3ydd dewis.

Ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir gellir gwneud hyn:

  • Yn uniongyrchol ar-lein gan ddefnyddio gwefan yr Awdurdod Lleol; neu
  • Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor; neu
  • Trwy gysylltu â’r ysgol.

Ni all unrhyw Ysgol Gynradd Gymunedol nac Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir awdurdodi derbyn disgybl, gallant gynorthwyo gyda'r ffurflen gais drwy apwyntiad yn unig.

Ar gyfer Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir

 

Cwblhau'r Ffurflen Gais

Cyfrifoldeb Rhiant

Pan nodir cyfrifoldeb rhiant/gwarcheidwad yna mae'n ofynnol eich bod wedi ymgynghori â'r holl bartïon â chyfrifoldeb rhiant ac wedi cael eu cymeradwyaeth cyn gwneud cais.

Dewis Rhieni - Dewisiadau Ysgol

Bydd y rhieni yn gallu gwneud cais ar-lein am le mewn uchafswm o dair ysgol ar y ffurflen gais. Argymhellir bod rhieni/gwarcheidwaid yn gwneud cais am 3 ysgol i gynyddu'r siawns o sicrhau lle mewn ysgol a ddewisir.

Bydd rhaid i'r rhieni sy'n dewis gwneud cais am 2 neu 3 ysgol eu rhestru yn ôl blaenoriaeth (h.y. 1af, 2il a 3ydd dewis)

Yn y man cyntaf, bydd pob cais yn cael yr un ystyriaeth, ond os bydd lle'n cael ei gynnig yn yr ysgol sy'n ddewis 1af (neu'n unig ddewis), ni fydd lleoedd yn cael eu cynnig yn yr ysgol sy'n 2il ddewis neu'n 3ydd dewis.

Os caiff y dewis 1af ei wrthod, bydd eich 2il ddewis yn cael ei drin fel petai'n ddewis 1af. Bydd y broses hon yn parhau hyd nes y cynigir lle neu hyd nes y bydd y 3 dewis wedi'u hystyried.

Dylai rhieni/gwarcheidwaid anfon e-bost at derbyniadau@sirgar.gov.uk i drafod lle mewn ysgol arall os yw pob dewis wedi bod yn aflwyddiannus.

Os bydd nifer o geisiadau yn dod i law, cânt eu prosesu'n awtomatig yn y drefn y maent wedi dod i law. Os ydych yn cyflwyno cais newydd, y cais a ddaeth i law gyntaf fydd eich dewis 1af, 2il ddewis a 3ydd dewis o hyd, a bydd eich ail gais yn cael ei ychwanegu fel eich 4ydd, 5ed a 6ed dewis

Newid neu ganslo dewisiadau ysgol

Rhaid i rieni anfon e-bost at derbyniadau@sirgar.gov.uk i newid trefn eu dewisiadau ysgol. Efallai y gofynnir i rieni gyflwyno cais newydd. Bydd newidiadau a wneir ar ôl y dyddiadau cau a gyhoeddwyd yn cael eu hystyried fel ceisiadau hwyr.

Dewis Iaith - Ysgolion Dwyieithog a Dwy Ffrwd

Os gall ysgol gynnig mwy nag un ffrwd iaith (er enghraifft ysgol dwy ffrwd), gall rhieni fynegi dewis ar gyfer ffrwd benodol ar y ffurflen gais. Fodd bynnag, nid yw'r awdurdod derbyn yn cynnig lle mewn ffrwd iaith benodol, dim ond lle yn y grŵp blwyddyn perthnasol yn yr ysgol honno. Dylid trafod unrhyw ddewisiadau iaith gyda'r ysgol ar ôl i le gael ei gynnig.

Cyfeiriad Cartref

Bernir mai cyfeiriad cartref disgybl yw eiddo preswyl sy'n unig breswylfa neu'n brif breswylfa'r plentyn, preswylfa neu adeilad preswyl heb gynnwys unrhyw dir cysylltiedig. Mae'r dalgylch yn seiliedig ar leoliad y tŷ y mae'r disgybl yn byw ynddo ac nid ar unrhyw dir o amgylch y tŷ hwnnw a naill ai yn:

  • Eiddo i riant/rhieni’r plentyn neu i berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant cyfreithiol penodedig am y plentyn; neu
  • Wedi'i brydlesu neu ei rentu gan riant/rhieni y plentyn neu gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant yn unol â chytundeb rhent ysgrifenedig, ac wedi'i lofnodi gan y landlord a'r tenant, am gyfnod o chwe mis neu ragor.

Prawf o'ch Cyfeiriad

Mae’r Awdurdod yn cadw’r hawl i ofyn am brawf o gyfeiriad ar yr adeg y cynigir lle i’r plentyn. Er mwyn i’r cais gael ei ystyried fel rhan o’r cylch derbyn arferol, bydd angen ichi ddarparu prawf eich bod yn byw yn y cyfeiriad a nodwyd ar y ffurflen gais ar y dyddiad cau. Bydd yr Awdurdod yn ystyried unrhyw ddwy ddogfen o blith y canlynol yn gymorth ar gyfer penderfynu eich bod yn byw mewn cyfeiriad penodol:

  1. Bil y Dreth Gyngor neu Fudd-dal Tai gwreiddiol neu lythyr hysbysu nad yw’n fwy na 12 mis oed;
  2. Bil cyfleustodau gwreiddiol (nad yw’n fwy na 3 mis oed);
  3. Llythyr dyfarnu gwreiddiol ynghylch Budd-dal Plant neu Gredyd Treth Plant neu Gredyd Treth Gwaith (nad yw'r dyddiad arno'n fwy na thri mis yn ôl, a'i fod yn nodi enw/enwau y plentyn/plant);
  4. Cytundeb tenantiaeth/prydles wedi'i lofnodi a'i ddyddio, sy'n para am o leiaf chwe mis ond sydd â mis neu ragor ar ôl ar y cytundeb;
  5. Cyfriflen carden gredyd neu gyfrif banc wreiddiol sy'n dangos y cyfeiriad (heb fod yn fwy na dau fis oed);
  6. Cadarnhad ysgrifenedig gan Fanc neu Gymdeithas Adeiladu’r ymgeisydd yn cadarnhau manylion y newid cyfeiriad ac ar ba ddyddiad y digwyddodd y newid;
  7. Trwydded yrru llun adnabod gyfredol ddilys.

Fel rhan o'r broses dderbyn mae angen ichi ddarparu prawf o'ch cyfeiriad mewn cysylltiad â'ch cais. Bydd yr Awdurdod yn ceisio gwirio'r wybodaeth a ddarparwyd ac mae'n cadw'r hawl i fynnu bod ymgeisydd yn darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol yr ystyrir ei bod yn angenrheidiol i gadarnhau'r breswyliaeth neu i gymryd camau rhesymol i bennu a yw cais yn dwyllodrus ai peidio.

Os caiff lle ei gynnig mewn ysgol yn seiliedig ar gyfeiriad y canfyddir wedyn ei fod yn wahanol i gyfeiriad arferol a pharhaol y plentyn, yna mae'n bosibl y caiff y lle ei dynnu'n ôl. Os bydd rhiant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant cyfreithiol dros y plentyn yn rhoi datganiad anwir, gan wybod a chan fwriadu hynny, a fyddai'n effeithio ar lwyddiant eu cais, yna mae'n bosibl y caiff y lle ei dynnu'n ôl. Os na ddarperir prawf preswyliaeth yna ni fydd yr Awdurdod yn gallu prosesu'r cais ac mae'n bosibl y caiff y lle ei ddyfarnu i ddisgybl arall.

Symud Tŷ / Newid Cyfeiriad

Os ydych yn bwriadu symud tŷ ac yn cyflwyno cais am le mewn ysgol ar sail y cyfeiriad newydd, bydd yr Awdurdod yn cymryd camau i wirio'r trefniadau. Bydd yr Awdurdod hefyd yn derbyn llythyr cyfreithiwr yn datgan y cyfnewidiwyd contractau ac yn nodi'r dyddiad cwblhau neu gytundeb tenantiaeth wedi'i lofnodi a'i ddyddio fel y nodwyd yn (iv) uchod. Os na allwch ddarparu prawf o'ch cyfeiriad erbyn y dyddiad a roddir ar gyfer cael ceisiadau yna bydd eich cais yn cael ei seilio ar eich cyfeiriad cyfredol.

Rhannu Cyfrifoldeb

Lle mae y cyfrifoldeb am y plentyn yn cael ei rannu, a bod y plentyn yn byw gyda’r ddau riant, neu bersonau a chanddynt gyfrifoldeb i rhiant a cyfreithiol penodedig am y plentyn, am ran o’r wythnos, y brif breswylfa fydd y cyfeiriad y mae’r plentyn yn byw ynddo am y rhan fwyaf o’r wythnos ysgol neu lle rhennir y breswyliaeth 50/50, y brif breswylfa fydd y cyfeiriad lle mae'r rhiant sy'n derbyn Budd-dal Plant yn byw. Mae'n bosibl y gofynnir i'r rhieni ddarparu tystiolaeth ddogfennol a fydd yn ategu'r cyfeiriad a ddefnyddir pan gaiff lle ei gynnig.

Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Arbennig (ADY/AAA)

Rhaid i rieni nodi a oes gan ddisgybl unrhyw Anghenion Dysgu Ychwanegol neu Arbennig ar y ffurflen gais pan ofynnir iddynt wneud hynny. Bydd y wybodaeth hon yn helpu ysgolion i gynllunio ymlaen llaw i sicrhau bod darpariaeth ar waith ar gyfer disgyblion pe baent yn cael eu derbyn i'r ysgol. Gofynnir i'r adran ADY/AAA wirio'r ceisiadau hyn.

Plant Sipsiwn a Theithwyr

Mae'n rhaid i'r Awdurdod, yn statudol, sicrhau bod pob plentyn oed ysgol gorfodol yn derbyn addysg sy'n briodol i'w hoedran, eu galluoedd ac unrhyw anghenion addysgol arbennig, ac yn hybu safonau uchel wrth ddarparu addysg a lles plant. Mae'r rhwymedigaethau hyn yn berthnasol i bob plentyn boed yn breswylwyr parhaol yn yr ardal ai peidio. Bydd ceisiadau derbyn ar gyfer teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu trin gyda’r bwriad o roi’r plant hyn, mor gyflym ag y bo modd, yn yr ysgol agosaf a mwyaf addas sydd ar gael.