Gwneud cais am le mewn Ysgol Gynradd
Cyn gwneud cais rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’r ysgol yr hoffech i'ch plentyn ei mynychu. Mae Cysylltu â'r ysgol a siarad â'r athrawon yn ffordd wych o wybod a ydych yn gwneud y dewis iawn i chi a'ch plentyn. Cofiwch, hyd yn oed os ydych wedi siarad ag ysgol a’i bod wedi dweud bod lleoedd ar gael, nes i chi wneud cais a chael cadarnhad gennym fod eich plentyn wedi’i dderbyn, ni all ddechrau’r ysgol.
Dim ond ceisiadau ar gyfer ysgolion yn Sir Gaerfyrddin rydyn ni’n eu derbyn ac os ydych yn gwneud cais am ysgol ffydd neu ysgol mewn sir arall gofynnir i chi gysylltu â nhw'n uniongyrchol.
Yn 4 oed mae gan eich plentyn hawl i fynd i ysgol gynradd yn llawn amser. Does dim rhaid ichi anfon eich plant i’r ysgol nes byddan nhw’n 5 oed ond mae llawer o rieni’n teimlo bod cychwyn yn gynnar yn fuddiol.
Pryd i wneud cais
Os cafodd eich plentyn ei eni rhwng: 1af Medi 2016 – 31ain Awst 2017 gallai ddechrau’r ysgol ym mis Medi 2020 neu fis Ionawr/Ebrill 2021. Y dyddiad cau i geisiadau oedd 31ain Ionawr 2020.
Os cafodd eich plentyn ei eni rhwng: 1af Medi 2017 – 31ain Awst 2018 gallai ddechrau’r ysgol ym mis Medi 2021 neu fis Ionawr/Ebrill 2022. Y dyddiad cau i geisiadau yw 31ain Ionawr 2021.
Does dim mantais mewn gwneud cais cynnar, ond mae hi’n bwysig eich bod yn gwneud cais mewn pryd! Os yw’r dyddiad cau wedi pasio, gallwch wneud cais hwyr ond efallai y bydd yn effeithio ar eich siawns o gael lle.
Sut mae gwneud cais
Dim ond ceisiadau ar gyfer ysgolion Sir Gaerfyrddin rydyn ni’n eu derbyn a dim ond ar-lein y gallwch wneud cais. Bydd angen ichi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:
- Enw a chyfeiriad y rhiant/gwarcheidwad* and address
- E-bost y rhiant/gwarcheidwad**
- Enw’r plentyn, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni
- Eich dewis ysgol – gallwch ddewis hyd at dair ysgol, mewn trefn blaenoriaeth
* Rhaid i unrhyw un â chyfrifoldeb rhiant gytuno â’r cais hwn cyn ichi ei gyflwyno.
** Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost ni allwch wneud cais ar-lein. Ewch i’ch ysgol leol a byddan nhw’n eich helpu gyda’ch cais.
Beth sy’n digwydd nesaf
Byddwch yn cael cydnabyddiaeth dros yr e-bost lle gallwch hefyd argraffu copi o’ch cais. Bydd unrhyw ohebiaeth am eich cais yn cael ei hanfon dros yr e-bost.
Os oedd eich cais o fewn y terfyn amser cewch eich hysbysu ar 16eg Ebrill neu’r diwrnod gwaith nesaf e.e. O ran y tymor yn cychwyn ym mis Medi 2021 cewch eich hysbysu ar 16eg Ebrill 2021.
Os oedd eich cais yn hwyr mae gennych lai o siawns o gael lle ac ni allwn warantu y bydd eich plentyn yn cychwyn ar ddechrau’r tymor. Byddwn yn eich hysbysu cyn gynted â phosib ond mae’r broses ymgeisio yn gallu cymryd hyd at chwe wythnos.
Os cynigir lle ichi rhaid ichi dderbyn neu gwrthod y lle a gynigiwyd erbyn y dyddiad nodir yn yr e-bost. Os na wnewch chi hynny efallai y caiff y lle ei gymryd oddi arnoch. Unwaith yr ydych wedi derbyn lle eich plentyn, RHAID ichi gysylltu â’r ysgol i gytuno ar ddyddiad cychwyn.
Dim ond os yw’r flwyddyn rydych yn gwneud cais amdani yn llawn y byddwn yn gwrthod lle mewn ysgol. Fodd bynnag, os gwrthodir lle i’ch plentyn yn unrhyw un o’r ysgolion Cynradd rydych wedi gwneud cais amdanynt, mae yna hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Mi fydd yn rhaid i chi hefyd ein hysbysu yn ysgrifenedig os ydych am i enw'ch plentyn gael ei gadw ar restr aros tan 30 Medi ac, os daw lle ar gael, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Gallwch wneud cais hwyr am ysgolion eraill.
Addysg ac Ysgolion
Covid-19 - Cwestiynau Cyffredin Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion / Newid ysgol
- Gwneud cais am le mewn ysgol: plant 3 oed
- Gwneud cais am le mewn ysgol gynradd
- Symud i ysgol uwchradd
- Newid ysgol
- Dyfarnu lleoedd ysgol: Meini prawf
- Dalgylchoedd
- Apêl: Os gwrthodir lle mewn ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Asesiad Statudol o Anghenion Addysgol
- Seicoleg Addysg a Phlant
- Darpariaethau arbenigol
- Y gallu i ddysgu
- Darllen ac ysgrifennu
- Rhif neu fathemateg
- Sgiliau echddygol
- Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu
- Anawsterau Dysgu Difrifol
- Colled Clyw
- Nam ar y golwg
- Problemau corfforol a/neu feddygol
- Awtistiaeth
- Saesneg/Cymraeg fel ail iaith
- Anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol
- Canolbwyntio
- Sipsiwn a theithwyr
- Partneriaeth â Rhieni
- Llais y plentyn / person ifanc
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
- Prydau ysgol gynradd
- Prydau ysgol uwchradd
- Prydau ysgol am ddim
- Brecwast / llaeth ysgol am ddim
- Alergenau, anoddefiadau a deietau arbennig
- Sut rydym yn cael hyd i’n cynnyrch
- Cwestiynau cyffredin
- Safonau maeth ar gyfer prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
- Gwobr Dug Caeredin
- Coleg i ddisgyblion blwyddyn 11
- Heb fod mewn addysg na chyflogaeth?
- Cynnydd
- Cam Nesa
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Mwy ynghylch Addysg ac Ysgolion