TGAU Saesneg i oedolion

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/08/2022

Bydd angen mynychu sesiwn wythnosol tri awr o hyd gyda thiwtor ac astudio yn ystod amser personol yn unol â chyfarwyddyd y tiwtor. gallwch wneud y cwrs hwn dros flwyddyn neu 2 flynedd, yn dibynnu ar eich anghenion personol. Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu gan asesiad ffurfiannol parhaus gan diwtor a thrwy hunanfyfyrio. Dau bapur arholiad TGAU terfynol.

Bydd angen ichi gwblhau asesiad cychwynnol gyda ni er mwyn sicrhau bod y cwrs hwn yn addas ar eich cyfer - mae cymorth a chyngor yn rhan o'r broses. Yn ogystal mae angen ichi fod yn gallu mynychu'r sesiynau yn gyson a hefyd gwneud y gwaith angenrheidiol gartref - mae hwn yn gwrs cywasgedig iawn sy'n gofyn am ymrwymiad - yn enwedig y cwrs blwyddyn o hyd.

Mae'n bosibl y bydd angen ichi brynu llyfrau ar gyfer y cwrs. Bydd eich tiwtor yn esbonio beth sydd ei angen arnoch yn y sesiwn gyntaf.  Os hoffech ddilyn y cwrs TGAU, ond heb fod yn teimlo'n barod eto ar ei gyfer, gallwn ni eich helpu chi i wella eich sgiliau a'ch hyder.

Ffi y cwrs yw £60 ar gyfer TGAU Saesneg Iaith (CBAC) (Uned 1 Llafaredd ac Unedau 2 a 3 bapur arholiad).

Lleoliad Diwrnod / Amser Wythnosau
Canolfan Ddysgu Rhydaman @ Streets Dydd Llun, 09:30 - 12:30 31 wythnos - 1 flwyddyn
70 wythnos - 2 flynedd
(tymhorau ysgol, ac eithrio'r gwyliau)
Canolfan Ddysgu Caerfyrddin Dydd Iau, 12:30-14:30, ac 1 awr ar-lein 31 wythnos - 1 flwyddyn
70 wythnos - 2 flynedd
(tymhorau ysgol, ac eithrio'r gwyliau)
Canolfan Ddysgu Llanelli Dydd Iau, 09:30 – 12:30 31 wythnos - 1 flwyddyn
70 wythnos - 2 flynedd
(tymhorau ysgol, ac eithrio'r gwyliau)

Ein nod yw darparu pob cwrs a hysbysebwyd. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwn yn canslo neu'n newid cyrsiau os yw'r cofrestriadau'n rhy isel neu os bydd amgylchiadau annisgwyl. Ar ôl cofrestru, fel rheol ni roddir ad-daliad i'r dysgwyr hynny nad ydynt yn parhau â'u hastudiaethau. Caiff ad-daliadau eu rhoi fel y gwelwn orau; bydd unrhyw ad-daliadau'n cael eu rhoi 'pro rata' a hynny'n ôl nifer y sesiynau a fynychwyd.

Dyddiadau Tymor 2022/23 Dechrau Hanner Tymor Diwedd
Hydref 2022 05 Medi 31 Hydref - 04 Tachwedd 23 Rhagfyr
Gwanwyn 2023 09 Ionawr 20 Chwefror - 24 Chwefror 31 Mawrth
Haf 2023 17 Ebrill 29 Mai - 02 Mehefin 21 Gorffennaf

Nodwch y gallai manylion y calendr hwn newid o ganlyniad i benderfyniadau polisi'r Llywodraeth. Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw golledion yn sgil gorfod newid trefniadau gwyliau oherwydd newidiadau o'r fath.

Mae'r cwrs yma mewn partneriaeth a Choleg Sir Gâr.

Addysg ac Ysgolion