Herio
Mae Herio yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr ac Addysg Oedolion Cymru i uwchsgilio oedolion mewn hyder a rhifedd. Rydym yn cael ein hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Ein nod yw gweithio gydag oedolion 19+ oed i wella eu hyder gyda rhifau.
Mae Herio yn gweithio yn eich ardal i gynnig sesiynau hwyliog, ymarferol y gellir eu haddasu i chi neu'ch grŵp. Nod ein sesiynau yw cyflwyno cysyniadau rhifedd p'un ai trwy weithdai traddodiadol, neu drwy goginio, crefftau a gweithgareddau ymarferol eraill.
Rydym yn darparu sesiynau anffurfiol, a chyrsiau achrededig, i gyd am ddim i unrhyw un dros 19 oed nad oes ganddo gymhwyster mathemateg lefel 2, neu sy'n teimlo bod angen iddynt wella eu sgiliau mathemateg.