Beth allwn ni ei gynnig
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Rhowch hwb i'ch sgiliau rhifedd i gael swydd well, cyflog gwell neu efallai i fod yn fwy hyderus wrth ddelio â chyllid eich cartref. Efallai eich bod am deimlo'n fwy cymwys i helpu'ch plentyn gyda'i waith cartref mathemateg neu i fod un cam ar y blaen pan fydd yn mynd ymlaen i'r ysgol uwchradd. Beth bynnag fo'r angen, bydd yna gwrs Herio gerllaw i'ch cefnogi chi.
Rydym yn defnyddio hybiau cymunedol ac ysgolion yn eich ardal fel bod mynychu'r sesiynau hyn yn gyfleus ac yn parhau'n lleol mewn lleoedd sy'n gyfarwydd i chi. Gallwn weithio ar y cyd â grwpiau cymunedol presennol fel Siedau Dynion, Cyn-filwyr Milwrol, SSIE ac Addysg Oedolion Cymru.
Rydym yn cynnig sesiynau a allai redeg dros nifer o wythnosau ac a all arwain at achrediad fel cyllidebu cartrefi yn ogystal â sesiynau unwaith yn unig sy'n canolbwyntio ar angen mwy penodol megis deall y wybodaeth ar eich slip cyflog.
Rydym hefyd yn cynnal sesiynau mwy ymarferol lle gallai'r fathemateg rydych chi'n ei defnyddio arwain at greu bocs atgofion, torch tymhorol, gwneud a phobi - cawl a bara neu ddefnyddio Scalextric i fodelu cyflymder a meintiau ceir rasio go iawn. Pan fydd yr haul yn disgleirio, cynllunnir sesiynau awyr agored megis defnyddio gwely uwch i fwydo teulu, nodi coed ac amcangyfrif eu taldra a'u pwysau.
Enghreifftiau o gyrsiau rydym yn eu cynnig:
Cyllid Teulu
- Gwerth am Arian
- Deall eich slip cyflog
- Rheoli beth rydych yn ei wario gyda chyllideb
- Bancio ac Yswiriant
Iechyd Teulu
- Cyfrifo a monitro eich BMR
Mathemateg Ymarferol
- Bocsys Crefftus
- Gwneud eich cynhyrchion glanhau eco eich hun
- Gwneud Barcud
- Torchau Tymhorol
Gwneud a phobi
- Cawl
- Sgons a phice ar y maen
- Bara fflat
Awyr Agored
- Hau hadau
- Garddio i hybu bywyd gwyllt
- Ar goll yn y goedwig – gweithdy'r cwmpawd
- Diodydd, balmau a thrwythau - ryseitiau chwyn
- Coginio tân gwersyll
- Trigoedometreg
- Cynllunio i gasglu sbwriel
Mathemateg ar gyfer y chwilfrydig
- Rasio Scalextric
- Dyn Fitrwfaidd
- Gemau Hapchwarae
Cefnogi eich Plant Oedran Ysgol
- Help gyda gwaith cartref
- Strategaethau adolygu ar gyfer TGAU
- Deall dulliau addysgu anghyfarwydd
- Ymdopi â phontio o'r ysgol Gynradd i Uwchradd o ran mathemateg
- Dealltwriaeth o rifau mewn addysg blynyddoedd cynnar
- Gwella eich gwybodaeth pwnc mewn pynciau fel Arwynebedd a Chyfaint, Algebra a Thrin Data
Os yw unrhyw un o'r sesiynau hyn o ddiddordeb i chi, neu os hoffech gael cymorth mewn agweddau eraill ar fathemateg neu rifedd, cysylltwch â herio@sirgar.gov.uk fel y gallwn wneud i bethau ddigwydd.
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Sir Gâr
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi