Ganolfannau Ailgylchu - Cwestiynau cyffredin

Diweddarwyd y dudalen ar: 09/08/2019

Dylai'r cwestiynau cyffredin canlynol ateb unrhyw gwestiynau posibl sydd gennych ynglŷn â defnyddio ein canolfannau ailgylchu. Cysylltwch drwy'r tab "Gofyn cwestiwn" os oes unrhyw beth y mae angen gwybodaeth ychwanegol arnoch amdano.

Ar gyfartaledd mae bron hanner cynnwys bagiau du yn Sir Gaerfyrddin yn gallu cael ei ailgylchu. Rydym yn gobeithio cynyddu ein cyfradd ailgylchu gyffredinol drwy wahanu'r deunyddiau hyn sy'n gallu cael eu hailgylchu, a fydd yn helpu Sir Gaerfyrddin i gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 64% erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon ac osgoi dirwy sylweddol.

Rydym yn argymell eich bod yn didoli eich bagiau du gartref cyn dod i'r ganolfan ailgylchu. Gwahanwch eitemau sy'n gallu cael eu rhoi mewn biniau unigol yn y ganolfan ailgylchu megis gwydr, papur / cardbord, dillad ac esgidiau, gwastraff gardd ac ati.

Mae modd ailgylchu nifer o eitemau'r cartref hefyd, un ai yn eich bag glas neu yn eich bin bwyd gwyrdd.

Gallwch wirio pa eitemau y gallwch eu hailgylchu yn ein rhestr A-Y ailgylchu.

Rydym yn argymell eich bod yn didoli deunyddiau y gellir eu hailgylchu oddi wrth y deunyddiau na ellir eu hailgylchu cyn dod i'r ganolfan ailgylchu. Mae modd ailgylchu nifer o eitemau'r cartref, un ai yn eich bag glas neu yn eich bin gwastraff bwyd.

Mae modd ailgylchu eitemau eraill megis gwydr, dillad ac eitemau trydanol bach yn y ganolfan ailgylchu neu mewn banciau ailgylchu llai.

Edrychwch ar y A-Y o Ailgylchu i gael gwybod beth y gellir ei ailgylchu.

Os byddwch yn dod â bagiau du i'r ganolfan ailgylchu, bydd angen i chi eu sortio nhw yn ein mannau didoli pwrpasol. Byddwch yn cael menig, ffedogau, gefeiliau a chwistrell gwrthfacteria a bydd biniau wedi'u labelu ar gael er mwyn i chi roi eich deunyddiau ailgylchadwy ynddynt. Bydd arwyddion yn y mannau didoli yn egluro'r hyn y mae angen i chi ei wneud, ond os ydych yn ansicr, bydd staff wrth law i helpu.

Os oes eitemau yn eich bag du nad ydynt yn gallu cael eu hailgylchu ac os nad ydych yn gyfforddus ag agor y bag yn y ganolfan ailgylchu, rhowch y bag allan i'w gasglu wrth ymyl y ffordd.

Bydd yn rhaid agor unrhyw fagiau du yr ydych yn dod â nhw i'r ganolfan ailgylchu.

Mae man penodedig ym mhob un o'n canolfannau ailgylchu. Gallwch chi rhoi eich eitemau i'w hailgylchu yn y biniau sydd wedi'u labelu yn y mannau hyn. Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, mae ein staff wrth law i'ch helpu.

Rydym yn argymell eich bod yn didoli eich bagiau du gartref cyn dod i'r ganolfan ailgylchu. Mae modd ailgylchu nifer o eitemau'r cartref, naill ai yn eich bag glas neu yn eich bin gwastraff bwyd.

Mae modd ailgylchu eitemau eraill megis gwydr a dillad yn y ganolfan ailgylchu neu mewn banciau ailgylchu llai. Cofiwch wahanu'r rhain cyn dod fel eu bod yn barod i'w rhoi yn y man/bin cywir.

Gallwch wirio pa eitemau y gallwch eu hailgylchu yn ein rhestr A-Y ailgylchu.

Mae modd ailgylchu'r rhan fwyaf o eitemau'r cartref, un ai yn eich bag glas, yn eich bin gwastraff bwyd, yn y banciau ailgylchu neu yn ein canolfannau ailgylchu. Nid oes hawl i roi unrhyw beth sy'n gallu cael ei ailgylchu yn eich bagiau du.

Fodd bynnag, nid yw rhai eitemau yn gallu cael eu hailgylchu a dylech eu rhoi yn eich bag du. Mae hyn yn cynnwys pethau fel gwasarn cathod, hancesi papur, clytiau ystafell ymolchi / cegin a phecynnau bwyd anifeiliaid anwes.

Gallwch wirio pa eitemau y gallwch eu hailgylchu yn ein rhestr A-Y ailgylchu.

Haf (Ebrill i Medi) 8.30am – 6:00pm 

Gaeaf (Hydref i Mawrth) 8.30am – 4.00pm

Mae ein canolfannau ar gyfer trigolion Sir Gaerfyrddin yn unig; rydym wedi cyflwyno gwiriadau i sicrhau ein bod yn gwneud defnydd effeithlon o'n hadnoddau i ddarparu'r gwasanaeth gorau i'n trigolion. 

Bydd angen i chi gael un o'r canlynol gyda chi i ddangos i'r swyddog wrth fynedfa'r safle:

  • Trwydded yrru
  • Eich Bil y Dreth Gyngor gyfredol
  • Bil cyfleustod, (heb fod yn hŷn na 3 mis)

Mae ein canolfannau ailgylchu at ddefnydd trigolion Sir Gaerfyrddin er mwyn gwaredu gwastraff y cartref yn unig. Mae cyflwyno system hawlen am ddim wedi ein helpu i sicrhau nad yw busnesau yn defnyddio’r canolfannau ailgylchu yn anghyfreithlon i waredu gwastraff masnachol.

Yn dibynnu ar y math o gerbyd rydych yn ei ddefnyddio, efallai y bydd angen i chi wneud cais am hawlen am ddim i ddefnyddio'r canolfannau ailgylchu. Bydd yr hawlen yn caniatáu i chi gael mynediad i unrhyw ganolfan ailgylchu yn Sir Gaerfyrddin hyd at 12 gwaith y flwyddyn.

Bydd eich hawlen yn cael ei chofrestru ar gyfer y cerbyd rydych yn ei yrru. Pan fyddwch yn cyrraedd y ganolfan ailgylchu, bydd aelod o staff yn gofalu bod manylion eich hawlen yn cyfateb i rai eich cerbyd, ac yn tynnu un o'r 12 tab sydd ar yr hawlen i ddangos ei bod wedi ei defnyddio.)Mae pob ymweliad â chanolfan ailgylchu yn cael ei gyfrif ar wahân, hyd yn oed os byddwch yn mynd yno sawl gwaith ar yr un diwrnod.

Gwirio a oes angen hawlen arnoch

Mae’r cynllun hawlen am ddim yn weithredol yn ein holl ganolfannau ailgylchu. Y math o gerbyd yr ydych yn dod ag ef i'r ganolfan ailgylchu sy’n pennu p'un a oes angen hawlen arnoch ai peidio. Os oes angen hawlen arnoch, gallwch wneud cais ar-lein.

Gwirio a oes angen hawlen arnoch

Mae’r cynllun hawlen am ddim yn weithredol yn ein holl ganolfannau ailgylchu. Y math o gerbyd yr ydych yn dod ag ef i'r ganolfan ailgylchu sy’n pennu p'un a oes angen hawlen arnoch ai peidio. Os oes angen hawlen arnoch, gallwch wneud cais ar-lein.

Gwirio a oes angen hawlen arnoch

Ni fydd hawl gan gerbydau amaethyddol, cerbydau dros 3.5 tunnell gan gynnwys faniau bocs a faniau â phaneli, faniau ceffylau, lorïau codi, cerbydau â chawell a cherbydau llen ochr/ochr gwympedig fynd i mewn i'r canolfannau ailgylchu.

Ni chaniateir chwaith unrhyw gerbydau sy'n tynnu trelar fwy na 2.44 metr/8 troedfedd waeth faint o echelau sydd ganddynt  Ni chaniateir i faniau â phaneli 3.5 tunnell, na thryciau agored cab sengl dynnu unrhyw drelars yn y canolfannau ailgylchu.

Os oes angen hawlen ar eich cerbyd gallwch wneud cais ar-lein.

Bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  • Eich manylion
  • Manylion y cerbyd
  • Copï/sgan o'ch holl llyfr log V5CW eich cerbyd
  • Prawf o'r cyfeiriad - Dim ond un prawf o'r cyfeiriad sydd angen i chi ei anfon a gallai fod yn gopi o'ch bil y Dreth Gyngor, bil cyfleustodau (heb fod yn hŷn na 3 mis) neu drwydded yrru.

Gwirio a oes angen hawlen arnoch   GWNEUD CAIS AM HAWLEN

Bydd angen i chi ddarparu copi o'ch dogfen cofrestru cerbyd V5CW yn ogystal â dogfen fel prawf o'r cyfeiriad, sy'n cyfateb i'r cyfeiriad a gofrestrwyd ar eich ffurflen V5CW.

Fel prawf o'r cyfeiriad rydym yn derbyn y dogfennau canlynol:

  • Trwydded yrru
  • Eich Bil Dreth Gyngor
  • Bil cyfleustod, (heb fod yn hŷn na 3 mis)

Ar ôl i ffurflen gais wedi'i chwblhau a'r dogfennau atodol ddod i law a chael eu dilysu, bydd yr hawlenni'n cael eu cyflwyno o fewn 10 diwrnod gwaith.

Os ydych yn defnyddio'r cyfleusterau â fan rydych wedi'i llogi am gyfnod byr, dim ond gwastraff y cartref y bydd hawl gennych ei waredu. Ni all y canolfannau ailgylchu dderbyn gwastraff masnachol.

Bydd angen i chi ddarparu copi o'r cytundeb rhentu a phrawf preswylio i swyddog y safle. Rhaid i'r cytundeb llogi fod am 3 diwrnod neu llai 

Fel prawf preswylio rydym yn derbyn y dogfennau canlynol:

  • Trwydded yrru
  • Eich Bil y Dreth Gyngor
  • Bil cyfleustod, (heb fod yn hŷn na 3 mis)

Os byddwch yn gyrru car, 4x4, SUV neu gerbyd cludo pobl – gallwch ddefnyddio'r safle gan dynnu trelar un echel. Ni chaniateir trelars gydag unrhyw fath arall o gerbyd.

Ni chaniateir trelars sydd â mwy nag un echel gydag unrhyw fath o gerbyd gan gynnwys ceir.

Lawrlwytho canllaw cerbyd

Na, ni all ein canolfannau ailgylchu dderbyn gwastraff busnes. Rhaid cael gwared ar hwnnw gan ddefnyddio cyfleuster trwyddedig sy'n bodloni'r gofynion Dyletswydd Gofal. Mae gan Orsaf Drosglwyddo Nantycaws, Caerfyrddin, gyfleusterau ar gyfer gwastraff y cartref a gwastraff busnes a hefyd mae nifer o safleoedd trwyddedig preifat y gellir dod o hyd iddynt ar-lein drwy chwilio 'waste transfer stations in my area’.  Bydd y rhan fwyaf o'r cyfleusterau sy'n derbyn gwastraff masnachol yn codi tâl am ei waredu.

Mae gadael gwastraff masnachol mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn drosedd dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, a allai arwain at ddirwy diderfyn a hyd at 5 mlynedd yn y carchar.

Os credwch fod eich cerbyd a addaswyd yn perthyn i gategori'r drwydded, cysylltwch a ni cyn gwneud cais am drwydded.

Na, mae'r hawlen wedi ei chofrestru i'ch cerbyd chi, felly ni ellir ei throsglwyddo.

Mae eich hawlen yn dechrau o'r mis y cewch hi ac ni allwch ymweld fwy na 12 gwaith mewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Byddwch yn dal i allu defnyddio'r ganolfan ailgylchu gydag unrhyw gerbyd nad oes angen hawlen ar ei gyfer e.e. car, 4x4, SUV, cerbyd cludo pobl ac ati.

12 mis ar ôl dyddiad cyflwyno'r hawlen, byddwch yn gallu gwneud cais arall am hawlen newydd.

Os yw eich hawlen ar goll neu wedi'i dwyn, rhowch wybod i ni. Pan fyddwn wedi gwirio eich gwybodaeth byddwn yn ailgyhoeddi nifer y tocynnau oedd gennych yn weddill. Cofiwch, os ydych eisoes wedi defnyddio pob un o'r 12 tocyn sy'n rhan o'ch hawlen,  ni fyddwch yn gallu ei hadnewyddu hyd nes 12 mis o'r dyddiad cyhoeddi gwreiddiol.

Rhoi gwybod am hawlen sydd ar goll/wedi'i dwyn

Nac oes, byddwch yn dal i allu ei defnyddio hyd nes y byddwch wedi ymweld 12 gwaith.

Na, darperir ein safleoedd ar gyfer trigolion Sir Gaerfyrddin yn unig ac rydym yn gwirio bod pawb sy’n eu defnyddio yn byw yn y Sir.  Os oes gennych fil treth Cyngor Sir Caerfyrddin, mae angen i chi ddod ag ef i brofi eich bod yn byw yn y Sir.

Oes, os yw eich cerbyd yn cludo gwastraff cartref, a'i fod yn fath o gerbyd sy'n cael ei ganiatáu fel yr hyn a esbonnir yn ein canllaw cerbyd.

GWIRIO A OES ANGEN HAWLEN ARNOCH

Gallwch wneud cais am hawlen os yw'r cerbyd wedi'i gofrestru i fusnes, cyhyd â bo gennych ganiatâd y cwmni i ddefnyddio'r cerbyd at ddibenion personol a'ch bod yn cludo gwastraff y cartref yn unig. Ynghyd â'ch ffurflen gais am hawlen, bydd angen i chi ddarparu'r canlynol:

  • Llythyr pennawd y cwmni gan eich cyflogwr sy'n datgan bod gennych ganiatâd i ddefnyddio'r cerbyd at ddibenion personol.
  • Copi/sgan o lyfr log V5C y cerbyd - sy'n dangos yr enw a'r cyfeiriad y mae'r cerbyd wedi'i gofrestru iddynt.
  • Prawf o'ch cyfeiriad - Dim ond un prawf o'ch cyfeiriad sydd angen i chi ei anfon a gallai fod yn gopi o'ch bil y Dreth Gyngor, bil cyfleustodau (heb fod yn hŷn na 3 mis) neu drwydded yrru.

Os nad yw eich cerbyd ar ein rhestr o gerbydau a waherddir, gallwch brynu bagiau o gompost yn unrhyw un o'n canolfannau ailgylchu.

Os ydych yn defnyddio cerbyd y mae angen hawlen i'w ddefnyddio neu gerbyd a waherddir rhag mynd i mewn i'n canolfannau ailgylchu, gallwch barhau i brynu compost o Nant-y-caws heb fynd i mewn i'r ganolfan ailgylchu.  Trowch i'r dde wrth fynd i mewn o'r ffordd fynediad ac ewch i swyddfa'r bont bwyso.

Lawrlwytho canllaw cerbyd

Os ydych yn byw mewn tŷ a rennir ag unigolion nad ydynt yn perthyn i chi, gan ffurfio mwy nag un aelwyd yn yr un eiddo, gallwch wneud cais am hawlen.  Ynghyd â'ch cais am hawlen, bydd angen i chi gyflwyno copi o'ch V5C a'ch bil y Dreth Gyngor. Os caiff eich bil y Dreth Gyngor ei roi i'ch landlord, gallwch wneud cais am hawlen, ond bydd angen i ni wneud gwiriadau pellach o ran eich cais. 

Gallwch, os ydych yn preswylio yn Sir Gaerfyrddin a'ch bod yn cludo gwastraff y cartref. 

Gall rheolwyr y safle hefyd wrthod mynediad os ydynt yn amau bod y cerbyd yn cael ei ddefnyddio i gario gwastraff masnachol.