Colli cyfleustodau

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/06/2020

Fel arfer mae colli cyflenwad trydan a cholli cyfleustodau eraill yn digwydd yn sydyn heb fawr o rybudd. Er bod gan gwmnïau cyfleustodau yng Nghymru gynlluniau sydd wedi profi'n drylwyr i ddelio â hyn, gallwn ni i gyd gymryd camau syml er mwyn sicrhau ein bod yn fwy parod am gyfnod byr heb drydan, nwy neu'r prif gyflenwadau dŵr. 

  • Bydd pecyn argyfwng sydd wedi'i stocio'n dda yn y cartref yn eich helpu chi hyd nes y bydd pethau'n dod yn ôl i drefn.
  • Bydd radio batris yn eich helpu chi i gadw mewn cysylltiad â'r newyddion yn dilyn colli cyflenwad trydan.
  • Cadwch ffonau symudol, cyfrifiaduron côl neu lechi wedi'u gwefru'n llawn er mwyn i chi o leiaf gael pŵer batri am gyfnod byr mewn achos o golli cyflenwad pŵer. 
  • Bydd ffôn llinell dir sydd heb fod yn gysylltiedig â'r prif gyflenwad trydan yn eich helpu chi i gadw mewn cysylltiad yn ystod unrhyw darfu i'ch cyflenwad pŵer.
  • Gwnewch restr o'r holl rifau ffôn a allai fod eu hangen arnoch a chadwch nhw wrth law.

Mae'r cwmnïau cyfleustodau yn gweithio'n agos gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn ystod unrhyw darfu o ran gwasanaeth arferol. Dylech roi gwybod i'ch cyflenwr os oes gennych anabledd neu os oes gennych salwch cronig neu os ydych yn dibynnu ar gyflenwad di-dor o bŵer ar gyfer offer meddygol neu offer symudedd megis lifftiau grisiau a theclynnau codi. 

Yn ogystal, dylech gysylltu â'ch cyflenwr os ydych â nam ar y golwg neu os ydych yn cael anawsterau clywed neu os ydych wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth neu os oes gennych ofynion penodol eraill. Os oes gennych berthnasau neu gymdogion oedrannus a allai fod angen cymorth mewn achos o golli pŵer, cofiwch fynd i weld eu bod yn ymdopi. Mae rhagor o gymorth a chyngor ar gael gan eich cyflenwyr nwy, trydan, dŵr a gwasanaethau cyfathrebu