Creu cynllun argyfwng

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/11/2017

Er bod yr ymatebwyr brys yn cynllunio, hyfforddi ac ymarfer i ymateb i argyfyngau, mae’n bwysig eich bod chi’n cymryd camau i sicrhau eich bod chi a’ch teulu yn gwybod beth i’w wneud os bydd argyfwng. Ar ôl argyfwng mawr, efallai na fydd y gwasanaethau arferol rydym yn eu cymryd yn ganiataol, megis dŵr tap, cyfleusterau oeri bwyd a ffonau, ar gael ac felly dylech baratoi i fod yn hunangynhaliol hyd nes y bydd rhagor o gymorth yn cyrraedd. Gallai treulio ychydig o funudau yn meddwl amdano nawr wneud gwahaniaeth mawr o ran helpu i’ch cadw chi a’ch teulu yn ddiogel. Dylech sicrhau bod pawb yn eich cartref yn gwybod am y cynllun a beth i’w wneud os bydd argyfwng.

Mae cynllunio at argyfyngau yn sicrhau bod y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill sy’n ymateb yn cyfathrebu ac yn cydgysylltu eu hymdrechion yn well, gan wella rheolaeth yn y fan a’r lle a’r broses adfer ar ôl trychineb ar gyfer pobl Sir Gaerfyrddin.

Mae sawl ffordd y gallwch sicrhau eich bod chi a’ch teulu yn fwy parod ar gyfer argyfyngau. Os bydd argyfwng mawr yn digwydd, gall fod peth amser cyn bod cymorth yn cyrraedd. Mae’n bwysig iawn eich bod chi a’ch teulu yn dod at eich gilydd i baratoi. Lawrlwythwch a chwblhewch y templed ar gyfer cynllun argyfwng, gallwch gynnwys cyn lleied neu gymaint o wybodaeth ag y dymunwch. Os oes rhaid ichi adael eich cartref, ewch allan, arhoswch allan, ac ewch â phobl eraill gyda chi.

Lawrlwythwch dempled ar gyfer cynllun argyfwng (.pdf)