Cynlluniau argyfwng cymunedol
Mae nifer o bobl a chymunedau eisoes yn datblygu gwytnwch cymunedol. Nid yw’n ymwneud â chreu neu adnabod rhwydwaith cymunedol newydd, neu ymateb i ddigwyddiad neu adfer ar ôl digwyddiad unwaith yn unig, ond yn hytrach mae’n broses barhaus o ddefnyddio a datblygu cysylltiadau presennol i sicrhau bod ardal yn fwy parod ar gyfer argyfwng.
Bydd gan rai grwpiau cymunedol lleol sy’n bodoli wybodaeth am sut i gymryd rhan neu sut y gallant gynnwys gwytnwch yn eu hagenda. Gallai’r rhain gynnwys cynghorau tref neu gymuned, sefydliadau ffydd, grwpiau Gwarchod Cymdogaeth, grwpiau Sgowtiaid, cymdeithasau trigolion a grwpiau ieuenctid.
Dylai cymunedau wybod beth all ymatebwyr brys lleol wneud drostynt mewn argyfwng, ac i’r gwrthwyneb – mae hyn yn golygu siarad â nhw cyn y bydd argyfwng yn digwydd.
Pum cam er mwyn cychwyn arni
Awgrymiadau yn unig yw’r camau a nodir isod, er mwyn cychwyn arni o ran datblygu gwytnwch yn eich cymuned. Mae sawl ffordd arall o ddatblygu gwytnwch ac efallai y byddwch am deilwra’r cynllun i ddiwallu anghenion penodol eich cymuned.
Cymunedau daearyddol (y bobl hynny sy’n byw’n agos ichi) yw’r dewis amlwg o ran gwytnwch cymunedol, a’r cymunedau hynny sy’n cael y budd mwyaf ohono.
Fodd bynnag, mae llawer o bobl nad ydynt yn cydnabod y bobl y maent yn byw yn agos iddynt yn gymuned. O’r herwydd, dylid ystyried cymunedau eraill (megis y rheiny sy’n rhannu diddordeb mewn pwnc neu gamp benodol) yn grwpiau dilys y gellir paratoi ar gyfer argyfyngau ynddynt.
Nid yw gwytnwch cymunedol yn ymwneud â chreu neu adnabod cymuned neu rwydwaith newydd; mae’n ymwneud ag ystyried yr hyn sydd eisoes yn bodoli o’ch amgylch, beth rydych eisoes yn ei wneud, pwy rydych eisoes yn siarad â nhw neu’n gweithio gyda nhw; a meddwl am sut y gallech gydweithio cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad neu argyfwng.
Mae nifer o grwpiau cymunedol eisoes yn gweithio i gefnogi a gwella bywyd yn ein cymunedau; e.e. wardeiniaid llifogydd, grwpiau Sgowtiaid, cynghorau tref neu gymuned, cymdeithasau trigolion a grwpiau Gwarchod Cymdogaeth. Meddyliwch am sut y gallech ddefnyddio eu sgiliau, adnoddau a’u harbenigedd i greu cymuned fwy gwydn.
Astudiaeth achos – Pwyllgor Ymateb Brys a Gweithredu ar Lifogydd Lechlade, Swydd Gaerloyw
“Sefydlodd y Cyngor Tref Bwyllgor Cynllunio at Argyfwng a datblygodd Gynllun Argyfwng drwy ymgynghori â’r gymuned leol. Ar ôl asesu’r risgiau, roedd yn amlwg mai’r flaenoriaeth ym mhob un o’r argyfyngau mwyaf tebygol fyddai sicrhau bod pobl yn gadael eu cartrefi i fynd i le diogel. Daeth cryfder y gymuned yn amlwg wrth i Ymddiriedolwyr y Neuadd Goffa a’r Maes Chwarae gynnig defnydd y neuadd gymunedol yn lle diogel, Sefydliad y Merched gymryd cyfrifoldeb am ei weithredu a Llewod Lechlade a’r Cylch gynnig cymorth ymarferol, megis help i sicrhau bod trigolion a effeithir yn gadael eu cartrefi.”
Mae’r bobl hyn yn cynrychioli eu cymuned leol drwy fod yn gyswllt rhwng y gymuned a’r cyrff statudol sy’n darparu gwasanaethau ymateb brys ar eu cyfer. Meddyliwch am bwy fyddai’n derbyn y rôl hon yn eich cymuned. Gallech ystyried gofyn i aelodau etholedig lleol gynrychioli’r gymuned a chydgysylltu’r gwaith hwn.
Mae Grwpiau Argyfwng Cymunedol wedi’u sefydlu eisoes mewn ardaloedd gwledig a threfol, lle mae pobl wedi cydnabod yr angen i ystyried beth allai fod ei angen ar eu cymuned mewn argyfwng, ac maent wedi mynd ati i’w helpu eu hunain i baratoi. Nid oes rhaid ichi sefydlu grŵp newydd. Yn hytrach, gallech fod am ddatblygu a defnyddio grwpiau cymunedol sy’n bodoli ac ystyried sut y gallent gynnwys datblygu gwytnwch cymunedol yn eu gweithgareddau.
Astudiaeth achos – Cyngor Bwrdeistref Chelmsford, Essex
“Aethom at y cynghorau plwyf lleol a’u hannog i benodi swyddog cyswllt ar gyfer cynllunio at argyfwng a sefydlu Grŵp Argyfwng Cymunedol o wirfoddolwyr lleol. Mae’r gwirfoddolwyr wedi helpu i lunio cynllun argyfwng plwyf, yn ogystal â chynorthwyo wrth gasglu gwybodaeth (e.e. nifer yr eiddo unllawr mewn parth llifogydd), sydd wedi’n helpu i sicrhau gwybodaeth o ansawdd gwell drwy wybodaeth pobl leol. Mae’r gwirfoddolwyr hefyd yn cynorthwyo â’r ymateb cyntaf i argyfwng wrth ddisgwyl i adnoddau’r Cyngor gyrraedd.”
Ystyriwch sut y gallai eich cymuned ddefnyddio’r templed Cynllun Argyfwng Cymunedol. Mae’r templed yn cynnwys eitemau fel ffurflen asesu risgiau lleol, dogfennau i gofnodi adnoddau allweddol a’r sgiliau sydd ar gael yn lleol, yn ogystal ag awgrymiadau ynghylch rhestrau manylion cyswllt ar gyfer pobl allweddol a choeden galw allan.
Mwy ynghylch Argyfyngau a diogelwch cymunedol