Rhestr wirio ar gyfer pecyn argyfwng
Pa un a oes rhaid ichi aros y tu mewn neu fynd allan, bydd creu pecyn argyfwng bach yn eich helpu i ddod drwy’r argyfwng. Dylech ei gadw mewn lle diogel yn eich cartref, lle gallwch ei gyrraedd yn hawdd. Dylech gadw eich pecyn mewn bag sy’n gwrthsefyll dŵr, a’r deg peth pwysicaf i’w cynnwys yw:
- Cynllun argyfwng eich cartref, gan gynnwys rhifau ffôn cyswllt mewn argyfwng
- Tortsh batris gyda batris sbâr, neu dortsh weindio
- Pecyn cymorth cyntaf
- Dogfennau pwysig fel tystysgrifau geni a pholisïau yswiriant
- Dŵr potel a bwyd sy’n barod i’w fwyta na fydd yn troi. Paciwch agorwr tuniau os oes angen.
- Allweddi sbâr eich cartref a’ch car
- Sbectol neu lensys cyffwrdd sbâr
- Nwyddau ymolchi a manylion am feddyginiaethau pwysig
- Pensel a phapur, cyllell boced, chwiban
- Cyflenwadau anifeiliaid anwes
Os oes rhaid ichi adael eich cartref, a bod amser i’w casglu’n ddiogel, dylech hefyd feddwl am fynd â’r canlynol:
- Meddyginiaethau hanfodol
- Ffôn symudol a gwefrydd
- Arian parod a chardiau credyd
- Dillad sbâr a blancedi
- Anifeiliaid anwes
- Gemau, llyfrau, tegan arbennig plentyn
Os yw’r argyfwng yn golygu nad yw’n ddiogel mynd allan, y cyngor fel arfer yw:
Mynd i mewn, aros i mewn, tiwno i mewn
Ewch i mewn a chau’r holl ffenestri a drysau a tiwnio i mewn i’r orsaf radio leol, y teledu neu’r rhyngrwyd, lle bydd gwybodaeth i’r cyhoedd a chyngor gan yr ymatebwyr brys yn cael ei darlledu.
Mwy ynghylch Argyfyngau a diogelwch cymunedol