Y gofrestr risgiau cymunedol

Diweddarwyd y dudalen ar: 20/02/2020

Mae'n ofyniad statudol o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004 i ystyried y tebygolrwydd y bydd amrywiaeth o beryglon yn digwydd yn ardal Heddlu Dyfed-Powys a'u heffeithiau. Yn amlwg, mae argyfyngau yn rhywbeth rydym i gyd yn gobeithio eu hosgoi ond petai argyfwng yn digwydd yn Sir Gaerfyrddin, rydym eisiau bod mor barod ag y gallwn ni fod. 

Er mwyn ein helpu ni i benderfynu ble ddylem ni ganolbwyntio'n hymdrechion o ran cynlluniau argyfwng, mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i asesu'r risgiau posibl i'n Sir. Caiff pwysigrwydd yr asesiadau risg ei bwysleisio gan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004. Fel rhan o'r Ddeddf Argyfyngau Sifil, mae'n ofyniad statudol i ystyried y tebygolrwydd y bydd amrywiaeth o beryglon yn digwydd yn ardal Heddlu Dyfed-Powys a'u heffeithiau. 

Mae'r gwaith hwn yn broses barhaus. Bydd yr asesiadau risg sydd wedi'u cynnwys ar y gofrestr ond yn cynnwys digwyddiadau sydd heb fod yn faleisus (h.y. peryglon) yn hytrach na bygythiadau (h.y. digwyddiadau'n ymwneud â therfysgwyr). 

Mae sefyllfaoedd peryglus posibl a thebygol sy'n cael eu hystyried yn cynnwys, er enghraifft: 

  • Damweiniau Trafnidiaeth 
  • Tywydd difrifol 
  • Llifogydd 
  • Damweiniau diwydiannol a llygredd amgylcheddol 
  • Iechyd Dynol 
  • Iechyd Anifeiliaid 
  • Methiant technegol diwydiannol 

Nid proses ddigyfnewid yw asesiad risg ac mae'n destun adolygiad parhaus. Trwy gynnwys peryglon neu senarios, nid yw'n golygu bod Fforwm Lleol Cymru Gydnerth yn credu y bydd y risg yn digwydd nac ychwaith petai yn digwydd y byddai ar y raddfa honno. Yn hytrach, rhagdybiaethau rhesymol am y sefyllfa waethaf posibl yw’r senarios risg ac mae’r asesiad risg yn seiliedig ar y rhain.