Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
Diweddarwyd y dudalen ar: 06/02/2025
Mae Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin (Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin gynt) yn cynnwys mudiadau megis y Cyngor, llywodraeth a chyrff bywyd gwyllt heb fod yn rhai llywodraeth, elusennau bywyd gwyllt a grwpiau gwirfoddol - oll yn gweithio gyda’i gilydd i ofalu am a chyfoethogi bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin.
Mae’r grŵp yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn a chaiff ei drefnu gan Swyddog Bioamrywiaeth y Cyngor. Mae gwaith y partneriaid yn canolbwyntio ar weithredu sy’n ceisio gofalu am a chyfoethogi bioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin, naill ai trwy reoli tir neu gamau i helpu rhywogaethau penodol. Maent oll yn codi ymwybyddiaeth am rywogaethau a chynefinoedd y sir a’r materion sy’n effeithio bioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin. Trwy rannu profiad, gwybodaeth ac arfer gorau, mae prosiectau partner yn datblygu o’r cyfarfodydd hyn. Ceisir defnyddio’r wybodaeth a’r arbenigedd yn y grŵp er mwyn cyfrannu at y gwaith o weithredu deddfwriaeth a pholisi cenedlaethol ar lefel leol. Cynhyrchir adroddiad blynyddol bob blwyddyn i amlygu gwaith y partneriaid.
Cynhyrchodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Adferiad Natur sy’n esbonio sut fydd Cymru’n cyflawni ymrwymiadau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Biolegol a Strategaeth Bioamrywiaeth yr Undeb Ewropeaidd er mwyn atal y dirywiad yn ein bioamrywiaeth ac yna gwrthdroi’r dirywiad hwnnw.
Yn Sir Gaerfyrddin bwriedir datblygu Cynllun Adferiad Natur Sir Gaerfyrddin yn seiliedig ar amcanion y cynllun cenedlaethol sy’n mynd i’r afael â materion sy’n bennaf gyfrifol am y dirywiad mewn bioamrywiaeth, ac i gefnogi adferiad:
- Ymgysylltu a chefnogi cyfranogiad er mwyn gwreiddio bioamrywiaeth ymhob agwedd ar wneud penderfyniadau ar bob lefel;
- Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd o’r pwys mwyaf a gwella eu rheolaeth;
- Cryfhau cydnerthedd ein hamgylchedd naturiol trwy adfer cynefinoedd dirywiedig a chreu cynefinoedd newydd;
- Mynd i’r afael â’r pwysau mwyaf ar rywogaethau a chynefinoedd;
- Gwella ein tystiolaeth, dealltwriaeth a monitro; a
- Threfnu fframwaith llywodraethant a chefnogi cyflawni ar waith
Bydd y cynllun hwn yn elwa o, a gobeithio’n cyfrannu at, y Datganiad Ardal lleol a gynhyrchir gan Gyfoeth Naturiol Cymru i greu pecyn gwaith fydd yn cyflwyno’r dystiolaeth dros, a disgrifio sut, fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn helpu sicrhau adnoddau naturiol a reolir yn gynaliadwy ar lefel leol.
Bydd Cynllun Adferiad Natur Sir Gaerfyrddin yn disodli’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol blaenorol.
- Cyngor Sir Gâr
- Cymdeithas Fotanegol Prydain ac Iwerddon
- Gwarchod Glöynnod Byw
- Buglife
- Bumblebee Conservation Trust
- Carbon Community
- Clwb Adar Sir Gaerfyrddin
- Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru
- Foodplain Meadows Partnership
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Menter ar Gyfer Cadwraeth Natur Cymru
- Naturiaethwyr Llanelli
- Partneriaeth Wiwer Coch
- MOD
- Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
- Grwp Dolydd Sir Gaerfyrddin
- Project Seagrass
- RSPB
- Asiant Cefnffyrdd De Cymru
- Vincent Wildlife Trust
- Yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod
- West Wales Rivers Trust
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Canolfan Wybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru
- Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir
- Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru
- Chadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid
- Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur