Taliad Costau Byw

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/03/2023

Taliad Costau Byw - Cynllun Disgresiynol

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i bob awdurdod lleol i'w galluogi nhw i ddarparu cymorth o dan gynllun disgresiynol, i helpu aelwydydd sy'n cael eu hystyried bod angen cymorth gyda'u costau byw arnynt.

Mae'r grwpiau canlynol wedi eu cymeradwyo i dderbyn taliadau disgresiynol o dan y Cynllun Costau Byw. Dyddiad cau : Mawrth 31,2023

 

1. Bydd taliad o £150 yn cael ei wneud i grwpiau bregus allweddol gafodd eu heithrio o'r prif gynllun, waeth pa fand mae'r aelwyd ynddo.

  1. Mae'r person sy'n atebol am y Dreth Gyngor yn byw yn yr eiddo fel ei brif breswylfa ar 15 Chwefror 2022 ac yn parhau i fod.
  2. Ddim yn gymwys am daliad gan y Prif Gynllun Costau Byw, a
  3. Yn cael eithriad o 100% ar y Dreth Gyngor am un o'r rhesymau canlynol:
  • Eithriad Dosbarth I - Derbyn Gofal - hynny yw, mae'r eiddo wedi cael ei adael yn wag oherwydd y ffaith bod y meddiannydd wedi gorfod gadael yr eiddo i dderbyn gofal, e.e. yn yr ysbyty yn y tymor hir neu gartref gofal neu hyd yn oed wedi symud i mewn gyda phlant i dderbyn gofal
  • Eithriad Dosbarth J – Darparu Gofal - mae'r eiddo wedi cael ei adael yn wag oherwydd bod y meddiannydd wedi gorfod gadael eu heiddo er mwyn darparu gofal i rywun arall mewn lleoliad arall e.e. wedi symud i mewn gyda rhieni/plant i ddarparu gofal
  • Eithriad Dosbarth U – Lle mae'r eiddo yn cael ei feddiannu'n unig gan unigolion sydd â Nam Meddyliol Difrifol (SMI)
  • Eithriad Dosbarth X - Pobl sy'n Gadael Gofal

Nodwch fod hyn yn berthnasol yn unig i eiddo a nodwyd ac yn gymwys ar gyfer Eithriad o'r Dreth Gyngor. Nid yw'r aelwydydd hynny sydd â Diystyriad Disgownt perthnasol yn gymwys.

N.B. Mae taliad y Dreth Gyngor yn seiliedig ar nifer y bobl sy’n byw mewn preswylfa. Os ydych wedi cael eich ‘diystyru’, mae’n golygu nad ydym yn eich cyfrif chi wrth i ni weithio allan y nifer o bobl sy’n byw yno.

Wrth gyfrif nifer y bobl sy’n byw mewn preswylfa, os oes un person yn unig yn byw yno, mae’n bosibl y bydd gostyngiad o 25% yn berthnasol. Os yw’r holl breswylwyr mewn preswylfa wedi cael eu ‘diystyru’, mae’n bosibl y bydd gostyngiad o 50% yn berthnasol.

 

2. Bydd taliad o £150 yn cael ei wneud i aelwydydd Dosbarth S a thaliad o £75 fesul aelwydydd Dosbarth K a N.

  1. Mae'r person sy'n atebol am y Dreth Gyngor yn byw yn yr eiddo fel ei brif breswylfa ar 15 Chwefror 2022 ac yn parhau i fod.
  2. Ddim yn gymwys am daliad gan y Prif Gynllun Costau Byw, ac
  3. Yn cael eithriad o 100% ar y Dreth Gyngor am un o'r rhesymau canlynol:
  • Eithriad Dosbarth K - Heb ei feddiannu gan Fyfyrwyr
  • Eithriad Dosbarth N - Wedi'i feddiannu gan Fyfyrwyr yn unig
  • Eithriad Dosbarth S - Wedi'i feddiannu gan bobl o dan 18 oed

Nodwch fod hyn yn berthnasol yn unig i eiddo a nodwyd ac yn gymwys ar gyfer Eithriad o'r Dreth Gyngor. Nid yw'r aelwydydd hynny sydd â Diystyriad Disgownt perthnasol yn gymwys.

N.B. Mae taliad y Dreth Gyngor yn seiliedig ar nifer y bobl sy’n byw mewn preswylfa. Os ydych wedi cael eich ‘diystyru’, mae’n golygu nad ydym yn eich cyfrif chi wrth i ni weithio allan y nifer o bobl sy’n byw yno.

Wrth gyfrif nifer y bobl sy’n byw mewn preswylfa, os oes un person yn unig yn byw yno, mae’n bosibl y bydd gostyngiad o 25% yn berthnasol. Os yw’r holl breswylwyr mewn preswylfa wedi cael eu ‘diystyru’, mae’n bosibl y bydd gostyngiad o 50% yn berthnasol.

 

3. Bydd taliad o £150 yn cael ei wneud i aelwyd ar Fand E, F, G, H ac I y Dreth Gyngor lle mae Gostyngiad yn y band oherwydd Anabledd wedi'i gymhwyso i leihau'r band a lle nad oedd yr aelwyd yn gymwys am daliad o dan y prif gynllun Costau Byw. Rhaid i chi fod yn derbyn y gostyngiad band ar 15 Chwefror.

 

4. Bydd taliad o £150 yn cael ei wneud i Ofalwyr Maeth (wedi'u nodi gan y Gwasanaethau Cymdeithasol).

Dull Prosesu

Bydd yr holl aelwydydd uchod yn cael eu nodi o System Bilio y Dreth Gyngor. Bydd pobl gymwys yn cael trosglwyddiad banc awtomatig lle rydym eisoes yn meddu ar fanylion eu cyfrif banc.

Os nad oes gennym fanylion cyfrif banc, cyhoeddir llythyrau yn cadarnhau eu cymhwysedd ynghyd â chyfarwyddiadau ynghylch sut i hawlio'r dyfarniad.

Bydd y llythyr yn cynnwys allwedd actifadu unigryw, a fydd, pan gaiff ei nodi ynghyd â rhif cyfeirnod y Dreth Gyngor a manylion personol, yn eich galluogi i hawlio ar-lein.

Rhaid eich bod yn byw yn yr eiddo ar 15 Chwefror.

 

5. Bydd taliad o £50 yn cael ei wneud i'r grwpiau canlynol.

  • Teuluoedd â 3 o blant neu fwy ar fudd-daliadau tai.
  • Y rheiny ar Gap Budd-daliadau.
  • Rhaid i chi fod yn derbyn y budd-dal ar 15 Chwefror

Bydd hyn yn cael ei dalu'n uniongyrchol drwy drosglwyddiad banc BACS, gan fod y manylion eisoes ar gael.

 

Gwneud cais am y taliad costau byw