Adeiladu tŷ newydd

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Os caiff tŷ newydd ei greu, naill ai drwy adeiladu un o'r newydd neu drwy rannu adeilad sy'n bodoli eisoes – er enghraifft i greu fflatiau – yna bydd angen caniatâd cynllunio. Gallwch wneud cais am ganiatâd cynllunio llawn neu amlinellol.

Defnyddir caniatâd cynllunio amlinellol fel rheol i weld – yn gynnar yn y broses gynllunio – a fyddai'r cynnig yn debygol o gael ei dderbyn, heb fod yn rhaid mynd i gostau sylweddol. Nid oes angen cyflwyno cymaint o fanylion am y cynnig arfaethedig yn achos y math hwn o gais cynllunio. Nid yw caniatâd amlinellol yn ganiatâd i ddechrau gweithio ar y safle. Bydd yn rhaid ichi gyflwyno cais 'materion wedi'u cadw'n ôl' neu gais cynllunio llawn yn nes ymlaen. Gall materion a gedwir yn ôl gynnwys y canlynol:

  • ymddangosiad - agweddau ar adeilad neu le sy'n effeithio ar y ffordd y mae'n edrych, gan gynnwys y tu allan i'r datblygiad
  • mynediad - hygyrchedd pob llwybr i'r safle ac oddi yno, yn ogystal â'r ffordd y mae'n cysylltu â ffyrdd a llwybrau troed eraill y tu allan i'r safle
  • tirlunio - gwella neu ddiogelu amwynderau'r safle, yr ardal a'r ardal gyfagos, a allai gynnwys plannu coed neu wrychoedd fel sgrin
  • cynllun - yn cynnwys adeiladau, llwybrau a mannau agored o fewn y datblygiad a'r ffordd y maent wedi'u gosod allan mewn perthynas ag adeiladau a mannau y tu hwnt i'r datblygiad
  • graddfa - yn cynnwys gwybodaeth am faint y datblygiad, gan gynnwys uchder, lled a hyd pob adeilad arfaethedig

Er bod rhai ceisiadau yn ddigon syml a gellir gwneud penderfyniad yn eu cylch heb wybodaeth fanwl, efallai y bydd angen darparu rhagor o wybodaeth yn achos cynigion eraill. Byddwn yn gofyn ichi ddarparu rhagor o wybodaeth os oes angen. Mae'n syniad da ichi siarad â ni ynghylch faint o wybodaeth y byddai angen ei chynnwys cyn ichi gyflwyno'ch cais cynllunio.

Unwaith y bydd caniatâd amlinellol yn cael ei roi, rhaid gwneud cais ynghylch 'materion wedi'u cadw'n ôl' o fewn tair blynedd i’r caniatâd (neu o fewn cyfnod byrrach os nodir hynny mewn amod yn y caniatâd amlinellol gwreiddiol). Mae'r caniatâd yn para am ddwy flynedd o'r dyddiad diwethaf y cafodd y 'materion wedi'u cadw'n ôl' eu cymeradwyo, neu, am dair blynedd o'r dyddiad y cymeradwywyd y caniatâd cynllunio amlinellol – pa un bynnag sydd hwyraf. Bydd yr hysbysiad caniatáu yn nodi pa faterion sydd wedi'u cadw'n ôl ar gyfer eu cymeradwyo'n hwyrach. Pan fydd yr holl faterion sydd wedi'u cadw'n ôl wedi cael eu cymeradwyo, gellir dechrau gweithio ar y safle.

Wrth wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer adeiladau neu breswylfeydd amaethyddol, bydd angen ichi lawrlwytho a llenwi Holiadur Gwerthuso Cynllunio Amaethyddol.

Tystysgrifau perchnogaeth

Fel rhan o'ch cais, bydd angen i chi ddangos pwy sy'n berchen y tir/eiddo rydych chi am ei ddatblygu.Os oes perchenogaeth ar y cyd, bydd angen i chi hefyd lawrlwytho'r hysbysiad perthnasol.

Cyflwyno cais cynllunio

Cynllunio