Gwneud cais i gael gwared â gwrych
Yn ôl pob tebyg, mae gan Sir Gaerfyrddin un o’r rhwydweithiau mwyaf cymhleth o wrychoedd mewn unrhyw ran o Gymru, ac ar draws y sir mae ein perthi’n dal i gael eu cynnal a’u cadw at ddibenion amaethyddol. Fel nodweddion a sefydlwyd ers amser maith yn y dirwedd, yn aml yn darparu llwybr rhwng cynefinoedd eraill, maent wedi dod yn hynod gyfoethog o ran y bywyd gwyllt y maent yn ei gefnogi.
Mae yna reoliadau i amddiffyn gwrychoedd pwysig, yn enwedig perthi sydd dros 20 metr o hyd neu sy’n cysylltu â pherthi eraill yn y ddau ben. Dylid nodi nad yw hyn yn effeithio ar berthi mewn gerddi.
O dan Reoliadau Perthi 1997 (SI 1160) mae’n anghyfreithlon clirio’r mwyafrif o berthi yng nghefn gwlad (ac eithrio’r rhai sy’n creu ffiniau gerddi) heb ganiatâd. Gall y ffordd y mae'r Rheoliadau yn berthnasol i wrychoedd fod yn eithaf cymhleth, felly fe'ch cynghorir i drafod eich cynigion gyda ni yn gynnar.
Mae rhai coed gwrychoedd hefyd yn dod o dan Orchmynion Cadw Coed. Cyn gwneud unrhyw waith i'r coed hyn, bydd angen i chi gysylltu â ni i gael y caniatadau angenrheidiol.
I gael caniatâd i glirio perth, mae’n rhaid i chi ysgrifennu atom ni. Bydd angen i chi gyflwyno cais i gael gwared â gwrych a chynllun sy'n dangos y gwrych dan sylw. Fel arfer bydd eich cais yn cael ei benderfynu o fewn 42 diwrnod. Ni chodir tâl am y cais hwn.
Os byddwn ni’n penderfynu gwahardd clirio perth "bwysig”, mae’n rhaid i ni roi gwybod i chi o fewn 6 wythnos. Os byddwch yn gwaredu perth heb ganiatâd, p’un a ydyw’n bwysig neu beidio, gallech gael eich erlyn. Hefyd yn ôl pob tebyg bydd yn rhaid i chi osod perth newydd.
Mae angen caniatâd arnoch i glirio perth os ydyw mewn un o’r mannau canlynol:
- Tir amaethyddol
- Tir comin
- Tir coedwigaeth
- Padogau
- Gwarchodfa Natur Leol
- Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Nid oes angen caniatâd arnoch o dan y rheoliadau hyn o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Os yw’r berth yn eich gardd neu’n ffinio â’ch gardd.
- Os ydych yn ei chlirio i gael mynediad naill ai yn lle mynediad presennol, (dylid ailblannu’r berth cyn pen 8 mis ar ôl gwneud yr agoriad newydd), neu lle nad oes dull mynediad arall, neu lle nad oes modd sicrhau hynny ond am gost anghymesur
- I sicrhau mynediad dros dro i roi cymorth mewn argyfwng
- I gydymffurfio â rhybudd statudol i atal ymyrraeth â llinellau trydan
- Yng nghyswllt gwaith statudol ar gyfer draenio neu amddiffyn rhag llifogydd.
- I roi caniatâd cynllunio ar waith (ac eithrio yn achos hawliau datblygu a ganiateir)
OND mae’n rhaid i chi wirio nad oes unrhyw gyfamodau, caniatâd cynllunio neu amodau sy’n golygu bod rhaid cadw’r perthi.
Cynllunio
Chwilio am gais cynllunio
Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
Cyflwyno cais cynllunio
Caniatâd cynllunio i berchnogion tai
Gwasanaeth cyn cyflwyno cais
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Adeiladu tŷ newydd
Sut y gwneir penderfyniadau cynllunio
Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB)
Gorfodi cynllunio
Apeliadau cynllunio
Polisi Cynllunio
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Cyngor ecoleg
Adeiladau rhestredig
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
Enwi a rhifo strydoedd
Ynni Adnewyddadwy
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd a Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Adroddiad yr Arolygydd a Mabwysiadu'r Cynllun
- Cyflwyno'r Cynllun, ac Archwiliad Annibynnol
- Cynllun Adnau
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
Caniatâd cynllunio i ddatblygwyr
Canol Tref Llanelli Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Gwnewch gais am arian Adran 106
Cadwraeth a chefn gwlad
Gwastraff
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Cyfeirlyfr bioamrywiaeth
- Map o’r prosiectau bioamrywiaeth
Mwy ynghylch Cynllunio