Adran 106: Rhwymedigaethau Cynllunio

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Beth yw Rhwymedigaethau Cynllunio?

Fel rhan o’r broses gynllunio, gall fod yn ofynnol i ddatblygwr ymrwymo i gytundeb cyfreithiol lle nad yw’n bosibl cyflawni hyn trwy amodau cynllunio. Caiff y cytundebau hyn eu hadnabod hefyd fel Rhwymedigaethau Cynllunio neu Gytundebau Adran 106 a chânt eu sicrhau yn unol ag Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd).

Ar gyfer beth y’u defnyddir?

Gall Rhwymedigaethau Cynllunio ymwneud ag unrhyw fater perthnasol bron â bod, gan weithredu fel y prif offeryn ar gyfer gosod cyfyngiadau ar ddatblygwyr, sy’n aml yn ei gwneud yn ofynnol iddynt leihau i’r eithaf yr effaith ar y gymuned leol a chyflawni tasgau a fydd yn darparu manteision cymunedol, a gallant gynnwys talu symiau o arian.

Fe’u defnyddir yn fynych i gysoni datblygiadau ag amcanion datblygu cynaliadwy. Enghreifftiau o’r math o seilwaith neu wasanaethau y gall rhwymedigaethau cynllunio eu cynnwys yw

  • Gwelliannau i Briffyrdd
  • Darparu Tai Fforddiadwy
  • Cyfleusterau cymunedol gwell – e.e. Mannau agored cyhoeddus/ mannau chwarae, cyfleusterau addysgol
  • Mesurau penodol i leddfu’r effaith ar ardal leol – e.e. cyfyngiadau parcio, diogelu neu reoli cynefinoedd
  • Cyfyngiadau a rhwymedigaethau sy’n ymwneud â defnyddio tir

Nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr. Ymdrinnir â phob cais cynllunio yn unigol yn ôl ei rinweddau ac efallai y bydd angen cyfyngiadau a gofynion nad ydynt ar y rhestr hon hefyd.

Defnyddir Rhwymedigaethau Cynllunio fel arfer yng nghyd-destun ceisiadau cynllunio rhwng yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) a phobl â budd yn y tir (Cytundeb Adran 106).

Fodd bynnag, gall Rhwymedigaethau Cynllunio gael ei rhoi i’r Cyngor yn unochrog gan y bobl sydd â budd yn y tir; caiff y rhain eu hadnabod fel Ymgymeriadau Unochrog (UU).

Ymrwymiad a gynigir gan yr ymgeisydd i’r ACLl gyda’r bwriad o oresgyn unrhyw rwystrau a all godi sy’n atal caniatâd cynllunio rhag cael ei roi yw Ymgymeriad Unochrog ac i gyflymu’r broses gyfreithiol a’r broses o benderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio.

Rhwymedigaethau Cynllunio – Canllawiau Cynllunio Atodol

Caiff dull y Cyngor mewn perthynas â rhwymedigaethau cynllunio’i nodi ym Mholisi GP3 ‘Rhwymedigaethau Cynllunio’ yng Nghynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin. Darperir manylion pellach ynglŷn â gweithredu’r polisi hwn yn y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Rhwymedigaethau Cynllunio yn ogystal â’r CCA Tai Fforddiadwy, Canllawiau Cynllunio Atodol Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau’r Mynydd Mawr a’r Canllawiau Cynllunio Atodol Hamdden a Mannau Agored – Gofynion i Ddatblygiadau Newydd. Mae’r rhain ar gael ar y dudalen we Canllawiau Cynllunio Atodol.

Monitro

Bydd yr Awdurdod Lleol yn monitro rhwymedigaethau cynllunio i sicrhau bod y datblygwr a’r Cyngor yn cydymffurfio’n llawn â hwy. Dylid nodi mai cyfrifoldeb y datblygwr yw hysbysu’r Awdurdod pan fo’r gwaith datblygu’n dechrau a hefyd pan gyrhaeddir unrhyw sbardunau a nodir yn y cytundeb.

 

Cynllunio