Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023
Rydym wedi gweithio ochr yn ochr â Burrows-Hutchinson Ltd, sy'n ymgynghorwyr Cynllunio a Datblygu Trefi, mewn partneriaeth â Chynghorau eraill ledled y rhanbarth, i ddatblygu ac i sefydlu'r offeryn asesu Model Hyfywedd Datblygu.
Byddwn yn codi am yr holl heriau hyfywedd mewn perthynas â cheisiadau cynllunio.
Mae'r Model Hyfywedd Datblygu wedi'i greu fel model cynhwysfawr, hawdd ei ddefnyddio, at ddiben asesu hyfywedd ariannol cynnig datblygu. Defnyddir y model hwn i helpu i wneud penderfyniadau ynghylch rhai ceisiadau cynllunio neu ddyrannu safleoedd yn y Cynllun Datblygu Lleol.
Mae'r Model Hyfywedd Datblygu yn offeryn arfarnu sy'n benodol i'r safle. Bydd pob copi o'r model a ddarperir gennym yn ymwneud â safle datblygu penodol. Fodd bynnag, gall yr un copi o'r model gael ei ailddefnyddio i asesu mwy nag un senario arfaethedig ar gyfer datblygu ar y safle penodol hwnnw.
Gallwn roi copi o'r Model Hyfywedd Datblygu i ddatblygwyr, i hyrwyddwyr safleoedd, neu i unrhyw unigolyn/sefydliad arall, at ddibenion cynnal arfarniad hyfywedd ariannol o ddatblygiad arfaethedig.
Bydd y model yn cael ei ryddhau ar sail safle penodol (h.y. caiff ei 'gloi' i'w ddefnyddio ar y safle penodol hwnnw), ar yr amod ein bod yn cael taliad o ffi safonol.
Prif ddiben yr arfarniad hyfywedd ariannol yw dangos a yw cynnig datblygu a/neu safle arfaethedig i'w ddyrannu yn debygol o fod yn "hyfyw”. Lle y gallai fod naill ai'n angenrheidiol neu'n briodol rhyddhau gwybodaeth o arfarniad hyfywedd ariannol fel tystiolaeth, er enghraifft i gefnogi dyraniad safle penodol yn CDLl y Cyngor, byddwn yn trafod â hyrwyddwr y safle i ba raddau y gellir rhyddhau gwybodaeth o'r fath.
Bydd angen talu'r ffioedd Asesu Dyrannu'r Cynllun Datblygu Lleol a hynny yn achos cyflwyniadau'r Model Hyfywedd Datblygu i gefnogi Safleoedd Dyranedig y CDLl yn unig.
Gellir defnyddio'r Model Hyfywedd Datblygu hefyd fel offeryn i ddangos hyfywedd ariannol cynnig datblygu yn ystod y cam cais cynllunio. Gweler Ffioedd Asesiadau Ceisiadau Cynllunio.
- Safleoedd ag 1-9 uned: £245
- Safleoedd â 10-40 uned: £395
- Safleoedd â 41-100 uned: £545
- Safleoedd â mwy na 100 o unedau - £945 (cytunir ar y gost â'r Cyngor gan ddibynnu ar faint a chymhlethdod y cynnig)
Mae'r holl daliadau'n destun TAW a gall y taliadau newid
- Safleoedd â hyd at 9 uned: £745 (neu £550 os oes arfarniad lefel uchel eisoes wedi'i gynnal)
- Safleoedd â 10-40 uned: £1,245 (neu £900 os oes arfarniad lefel uchel wedi'i gynnal)
- Safleoedd â 41 uned neu fwy: darperir y gost ar gytundeb gan ddibynnu ar faint neu gymhlethdod
Mae'r holl daliadau'n destun TAW a gall y taliadau newid.
Mae'r ffioedd safonol sy'n berthnasol yn cynnwys ein hamser gweinyddol sydd ei angen i bersonoli ac i gyhoeddi'r model ar gyfer y safle penodol, yn ogystal ag amser swyddogion i gynnal adolygiad lefel uchel o'r arfarniad hyfywedd arianno a gyflwynwyd.
Efallai y bydd ffioedd ychwanegol yn berthnasol os bydd angen rhagor o amser swyddogion o ganlyniad i'r hyrwyddwr safle yn cynnal trafodaethau pellach â'r Cyngor sy'n ymwneud â'r arfarniad a gyflwynwyd, a/neu os bydd y dystiolaeth ategol a gyflwynwyd yn annigonol.
Bydd yr adolygiad lefel uchel y byddwn yn ei gynnal o gyflwyniad Model Hyfywedd Datblygu wedi'i gwblhau yn gwirio priodoldeb y wybodaeth a ddarperir gan hyrwyddwr y safle fel rhan o'r arfarniad. Bydd y broses hon hefyd yn sicrhau bod y celloedd yn nhaenlenni'r Model Hyfywedd Datblygu wedi'u cwblhau'n briodol.
Bydd yr adolygiad yn ystyried:
- a yw'r dystiolaeth a ddarparwyd i gefnogi'r costau a'r gwerthoedd a ddefnyddir yn yr arfarniad hyfywedd ariannol a gyflwynwyd yn ddigonol ac yn gymesur;
- a yw'r amserlen arfaethedig ar gyfer y datblygiad yn realistig; ac
- a yw'r arfarniad hyfywedd ariannol yn cyd-fynd â gofynion polisi'r Cyngor a chanllawiau a/neu ddatganiadau polisi eraill sy'n berthnasol i asesu Hyfywedd mewn cyd-destun Cynllunio.
Ar ôl cwblhau'r adolygiad lefel uchel, byddwn yn cyhoeddi datganiad syml i hyrwyddwr y safle i nodi i ba raddau y mae'n ystyried bod yr arfarniad hyfywedd ariannol a gyflwynwyd yn bodloni'r profion a amlinellir uchod.
Os bydd angen i chi gynnal Arfarniad Hyfywedd Datblygu ar gyfer eich datblygiad, dylech gysylltu â'r swyddog cynllunio perthnasol a fydd yn delio â'ch cais cynllunio neu ddyraniad y CDLl, danfonwch ebost i planninghwb@carmarthenshire.gov.uk . Bydd y swyddog yn rhoi manylion i chi ynghylch sut i dalu a'r prosesau o ran cyhoeddi'r model ar eich cyfer.
Rydym yn cydnabod y gallai hyrwyddwr y safle ystyried bod rhywfaint o'r wybodaeth sydd ei hangen i ddangos hyfywedd yn fasnachol sensitif. Fodd bynnag, fel y nodir yng Nghanllaw CDLl Llywodraeth Cymru, nid yw'r mater hwn o sensitifrwydd yn rheswm digonol i osgoi darparu'r dystiolaeth briodol (Canllaw CDLl, para. 5.96). Ni fydd pob arfarniad hyfywedd ariannol a gyflwynir ar gael i'r cyhoedd, a chaiff ei drin yn gyfrinachol rhwng y Cyngor a'r unigolyn neu'r sefydliad sydd wedi'i gyflwyno.
Mae pob copi o'r Model Hyfywedd Datblygu hefyd yn cynnwys 'Canllaw Cyflym', ar gyfer y rhai sy'n cynnal asesiad o safle datblygu preswyl o ddim mwy na 5 neu 6 erw. Cynghorir defnyddwyr hefyd fod 'Nodiadau Cymorth' yn rhan o'r model, yn y taflenni gwaith eu hunain, sy'n atgoffa'r defnyddiwr beth i'w wneud ar bob dalen.
Bydd rhai datblygwyr wedi buddsoddi mewn modelau hyfywedd amgen, a gellir eu defnyddio cyhyd â'u bod yn fodelau cydnabyddedig (Circle, Argus ac ati). Fodd bynnag, bydd y ffioedd uchod yn dal i fod yn daladwy.
Os na ddefnyddir model o gwbl – bydd y ffi priswyr o leiaf 50% yn fwy na'r uchod. Os nad yw'r wybodaeth a ddarperir yn hawdd ei darllen, neu os nad yw'n cyfieithu'n uniongyrchol i lenwi model Burrows Hutchinson yn hawdd, bydd ein priswyr yn cadw'r hawl i godi tâl sy'n fwy, neu wrthod y cyflwyniad.
Cynllunio
Cwestiynau Cyffredin - Cynllunio
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig
Chwilio am gais cynllunio
Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
Cyflwyno cais cynllunio
Gwasanaeth cyn cyflwyno cais
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Sut y gwneir penderfyniadau cynllunio
Systemau Draenio Cynaliadwy
Torri rheolau cynllunio
Adeiladu tŷ newydd
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Brosiectau Cynllunio Mawr
Apeliadau cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Cynllunio Ecoleg
- Canllaw i Ymgynghorwyr Ecolegol
- Budd Net i Fioamrywiaeth
- Rhywogaethau a chynefinoedd a warchodir
- Targedau ffosffad newydd
Adeiladau rhestredig
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
Enwi a rhifo strydoedd
Ynni Adnewyddadwy
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Adroddiad yr Arolygydd a Mabwysiadu'r Cynllun
- Cyflwyno'r Cynllun, ac Archwiliad Annibynnol
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Cyntaf
Caniatâd cynllunio i ddatblygwyr
- Adran 106: Cartrefi Fforddiadwy
- Adran 106: Rhwymedigaethau Cynllunio
- Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Gwnewch gais am arian Adran 106
Cadwraeth a chefn gwlad
Gwastraff
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Clefyd coed ynn
- Bywyd Gwyllt yn eich Ward
- Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Ardaloedd cadwraeth
Mwy ynghylch Cynllunio