Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl) Canol Tref Llanelli
Mae'r Cyngor wedi sefydlu 'Tasglu' gyda'r nod o oruchwylio gwaith adfywio canol tref Llanelli. Un mater allweddol y mae'r Tasglu am fynd i'r afael ag ef yw nifer yr unedau manwerthu gwag a'r amrywiaeth o ddefnydd yng nghanol y dref, gan gynnwys y lloriau uwch. Yn hynny o beth, rhoddwyd ystyriaeth i rôl a chyfraniad y polisi cynllunio wrth fynd i'r afael â materion o'r fath ac wrth hwyluso buddsoddi a helpu i gymell datblygiad.
Mae'r Gorchymyn yn cydnabod rôl newidiol canol y dref yn gyrchfan a lleoliad byw yn ogystal â chanolfan fanwerthu. Mae'n cynnig cyflwyno trefn gynllunio ganiataol a fyddai'n caniatáu newidiadau penodol o ran defnydd sy'n golygu nad yw'r ymgeisydd yn gorfod cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio. Ar ôl cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, mabwysiadwyd y GDLl gan y Cyngor ym Medi 2018. Lansiwyd y GDLl ym mis Chwefror 2019.
Mae'r Gorchymyn Datblygu Lleol, ardal y Gorchymyn Datblygu Lleol a'r Datganiad Rhesymau o ran cyflwyno'r Gorchymyn Datblygu Lleol ar gael i'w gweld isod.
Proses sy'n cynnwys dau gam yw hon. Yn gyntaf, mae'n rhaid i ymgeiswyr gael Tystysgrif Cydymffurfiaeth ac yna Cymeradwyaeth Hysbysiad Cychwyn.
P'un ai i Dystysgrif Cydymffurfiaeth gael ei chyflwyno ai peidio, ni all cynigion ddechrau tan i Gymeradwyaeth Hysbysiad Cychwyn gael ei chyflwyno gennym ni. Anogir ymgeiswyr i gysylltu â ni cyn gwneud unrhyw gyflwyniadau.
Mae cyflwyno Tystysgrif Cydymffurfiaeth dim ond yn cadarnhau bod y cynnig yn cydymffurfio â'r agweddau cynllunio. Mae'n bosibl y bydd amodau mewn perthynas â rheoliadau eraill, er enghraifft rheoliadau adeiladu, yn cael eu cadw yn ôl a byddai angen bod yn fodlon ar y rhain cyn cyflwyno Cymeradwyaeth Hysbysiad Cychwyn.
Bydd angen i'r holl gyflwyniadau gael eu gwneud yn uniongyrchol i ni gan na all y rhain gael eu cyflwyno drwy'r Porth Cynllunio neu Gais Cynllunio Cymru.
Mae'r ffurflenni cais (fersiynau pdf y gellir eu newid) ar gael i'w lawrlwytho. Cyflwynwch eich cais wedi'i gwblhau at: regplanningregistrations@sirgar.gov.uk
- Y ffi ar gyfer cyflwyno cais am Dystysgrif Cydymffurfiaeth yw £90.00.
- Ni chodir tâl am gyflwyno cais am Gymeradwyaeth Hysbysiad Cychwyn.
Mae'n rhaid cyflwyno'r ffi gywir gyda'ch cais neu fel arall ni fydd yn ddilys ac ni chaiff unrhyw waith ei wneud o ran prosesu ac asesu eich cais.
I dalu bydd angen i chi ddarparu'r manylion canlynol:
- Math o gais e.e. cais cynllunio
- Cyfeirnod y cais (neu enw a lleoliad y cais os nad oes gennych gyfeirnod eto)
- Y ffi ymgeisio gywir (cysylltwch â ni os oes angen esboniad arnoch)
Dros y Ffôn
Rydym yn derbyn cardiau debyd Maestro, Solo neu Visa. Os hoffech siarad ag aelod o staff o'r tîm arianwyr, ffoniwch 01267 228686 yn ystod oriau swyddfa.
Trwy'r Post
Gwnewch eich siec yn daladwy i 'Cyngor Sir Caerfyrddin' a'i phostio i'r cyfeiriad yma: Y Gwasanaethau Cynllunio, Swyddfeydd y Cyngor, Heol Cilgant, Llandeilo SA19 6HW.
Yn Bersonol
Mae gennym 3 swyddfa dalu lle gellir talu drwy ddefnyddio arian parod, cerdyn credyd/debyd neu siec. Gellir gweld manylion ac oriau agor pob lleoliad:
- Yr Hwb - Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Rhydaman, 41 Stryd y Cei, Rhydaman SA18 3BS
- Y ddesg dalu yng Nghanolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin SA31 1LE
- Yr Hwb - Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Llanelli, 36 Stryd Stepney, Llanelli (hen 'Burtons')
Taliadau BACS
Anfonwch neges e-bost at planningregistrations@sirgar.gov.uk i gael rhagor o fanylion.
Ar ôl i ni dderbyn y wybodaeth angenrheidiol, byddwn ni'n ceisio cyflwyno penderfyniad ysgrifenedig ynghylch p'un ai cyflwyno Tystysgrif Cydymffurfiaeth o fewn 28 diwrnod. Cynghorir cyn cyflwyno'r cais hwn, i bartïon sydd â diddordeb gysylltu â'r Gwasanaethau Cynllunio i ganfod unrhyw ofynion a phroblemau posibl.
Mae'n rhaid i newid defnydd arfaethedig ddechrau o fewn 3 blynedd i gyflwyno Tystysgrif Cydymffurfiaeth. Bydd Tystysgrif Cydymffurfiaeth yn cynnwys gofyniad bod y cais am Gymeradwyaeth Hysbysiad Cychwyn yn cael ei dderbyn o fewn 2 flynedd i'r dyddiad cyflwyno.
Na, fodd bynnag bydd cyrff penodol yn cael gwybod am y cynnig.
Bydd pob cais am Orchymyn Datblygu Lleol yn ymddangos ar y rhestr wythnosol.
Sylwch nad yw cael y Dystysgrif Cydymffurfiaeth yn golygu y gallwch chi fynd ati i newid y defnydd. Cyfeiriwch at ‘Sut mae gwneud cais’ os gwelwch yn dda.
Cynllunio
Chwilio am gais cynllunio
Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
Cyflwyno cais cynllunio
Caniatâd cynllunio i berchnogion tai
Gwasanaeth cyn cyflwyno cais
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Adeiladu tŷ newydd
Sut y gwneir penderfyniadau cynllunio
Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB)
Gorfodi cynllunio
Apeliadau cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Cyngor ecoleg
Adeiladau rhestredig
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
Enwi a rhifo strydoedd
Ynni Adnewyddadwy
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd a Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Adroddiad yr Arolygydd a Mabwysiadu'r Cynllun
- Cyflwyno'r Cynllun, ac Archwiliad Annibynnol
- Cynllun Adnau
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
Caniatâd cynllunio i ddatblygwyr
Canol Tref Llanelli Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Gwnewch gais am arian Adran 106
Cadwraeth a chefn gwlad
Gwastraff
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Cyfeirlyfr bioamrywiaeth
- Map o’r prosiectau bioamrywiaeth
- Clefyd coed ynn
Cwestiynau Cyffredin - Cynllunio
Mwy ynghylch Cynllunio