Cyngor ecoleg
Rydym yn cydnabod y cyfraniad pwysig y gall cynllunio ei wneud i gynnal a gwella bioamrywiaeth yn y Sir, gan gynnwys cynefinoedd a rhywogaethau o bwysigrwydd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a bod gan gadwraeth a gwelliant bioamrywiaeth rôl annatod o ran datblygu cynaliadwy ac mae'n hanfodol i lesiant cymdeithasol ac economaidd preswylwyr Sir Gaerfyrddin.
Gall datblygu ein hardaloedd trefol a gwledig gael effeithiau arwyddocaol gan arwain at ddirywiad mewn bioamrywiaeth. Fodd bynnag, gall datblygu hefyd gael effaith gadarnhaol ar achosion lle caiff nodweddion rheoli, adfer a gwella o ran cynefinoedd a rhywogaethau eu cynnwys yn y cynlluniau.
Mae'r gwasanaeth ecoleg cynllunio yn ceisio sicrhau bod darpariaethau deddfwriaethau a pholisïau cenedlaethol a'r Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu darparu ar lefel leol a bod ceisiadau cynllunio yn cynnwys y wybodaeth gywir sy'n dilyn canllawiau o ran arferion gorau. Nid yw'r angen am wybodaeth ynghylch bioamrywiaeth yn gyfyngedig i geisiadau cynllunio. Gall gynnwys ceisiadau ar gyfer Caniatâd Adeilad Rhestredig, Caniatâd Gorchymyn Gwarchod Coed, Caniatâd Ardal Gadwraeth a Hysbysiadau Dymchwel er enghraifft.
Bydd y wybodaeth ar ein gwefan yn helpu ymgeiswyr a datblygwyr i glustnodi'r potensial ar gyfer prosiectau a chynigion o ran effaith ar fioamrywiaeth. Yn ogystal bydd yn rhoi gwybod i swyddogion cynllunio ac ecolegwyr am lefel y wybodaeth sydd ei hangen i asesu'n ddigonol effeithiau cynnig datblygiad ar fuddiannau bioamrywiaeth.
Cyngor Ecolegol i bawb sy'n cyflwyno ceisiadau cynllunio: Ystlumod ac Adar yn Nythu
Pam y gallai fod angen arolygon ystlumod ac adar nythu ar eich cais cynllunio
Cyngor Ecolegol i bawb sy'n cyflwyno ceisiadau cynllunio: Gwelliannau Bioamrywiaeth
Gwelliannau bioamrywiaeth yw'r nodweddion ar brosiect neu gais cynllunio a fydd yn sicrhau manteision i fioamrywiaeth (rhywogaethau a chynefinoedd) o ganlyniad i'r prosiect arfaethedig sy'n cael ei gyflawni.
Er enghraifft, gallai gwelliant fod ar ffurf plannu ardal fechan o goetir fel rhan o ddatblygiad o 3 neu 4 o dai, neu gallai olygu cael gwared ar glymog Japan a phlannu llwyni brodorol megis coed cyll a drain duon yn ei le. Gall olygu darparu cynefin gwell ar gyfer ymlusgiaid, neu wella cynefin dyfrffosydd ac ardaloedd cyfagos ar gyfer bywyd gwyllt.
Mae deddfwriaeth a pholisi cynllunio sy'n gymwys yng Nghymru bellach yn mynnu na ddylai datblygiadau arwain at golli cynefinoedd neu rywogaethau, a bod yn rhaid iddynt ddarparu budd net i fioamrywiaeth. Mae Prif Swyddog Cynllunio Llywodraeth Cymru wedi datgan:
….”lle na chynigir gwella bioamrywiaeth fel rhan o gais, rhoddir pwysau sylweddol i'w absenoldeb, ac oni bai bod ystyriaethau perthnasol arwyddocaol eraill yn nodi fel arall bydd angen gwrthod caniatâd.”
Ecolegydd cymwys yw'r person i roi arweiniad i chi os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, ond efallai bod gennych eich syniadau eich hun. Bydd ecolegydd yn edrych ar eich cynigion, bydd yn rhoi cyngor ynglŷn â'r ffordd orau o leihau effaith y datblygiad a gynigir gennych ar fioamrywiaeth, a pha welliannau fyddai'n addas.
Ceisiadau cymharol fach e.e., estyniadau a datblygiadau annedd sengl:
Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw anodi un o'r lluniau yr ydych chi'n eu cyflwyno gyda'ch cais cynllunio, e.e. gall cynllun ddangos yr arwynebedd lle'r ydych yn bwriadu plannu coed a llwyni, neu gallech anodi cynllun o ochr adeilad i ddangos sut yr ydych chi'n dylunio bondo adeilad newydd i ddarparu ar gyfer adar sy'n nythu megis gwenoliaid, neu lle darperir blychau ystlumod gennych.
Dylech bob amser nodi mewn geiriau ychydig mwy o fanylion e.e. faint o flychau ystlumod, pa fath o goed a llwyni, faint o bob rhywogaeth a pha faint o blanhigion rydych chi'n eu defnyddio, a'r pellter cyfartalog rhwng y coed. Weithiau efallai y bydd angen i chi gynnwys datganiad dull gyda'ch cynlluniau a fydd yn esbonio sut yr ydych yn mynd i wneud rhywbeth a phryd y byddwch yn ei wneud, e.e. sut y byddwch yn trawsleoli gwrych, neu'n clirio cynefin i alluogi ymlusgiaid i'w adael pan fyddant yn symudol ar ddiwedd misoedd yr haf.
Ceisiadau mwy o faint a mwy cymhleth:
Mae'n debygol y bydd y cynlluniau hyn yn gofyn am gyngor ecolegol proffesiynol ynghylch effaith y datblygiad ar gynefinoedd a rhywogaethau. Mae Cynllun Gwella Bioamrywiaeth, a all fod ar ffurf map i raddau helaeth, yn ffordd ddefnyddiol o nodi effaith y datblygiad a'ch cynigion ar gyfer mynd i'r afael â hyn. Bydd angen i chi fynd i'r afael â'r effaith ar yr hyn a gydnabyddir fel Cynefinoedd a Rhywogaethau â Blaenoriaeth yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a sut y byddwch yn cyflawni'r hyn a elwir ym mholisi Llywodraeth Cymru yn "Fudd Net Bioamrywiaeth”. Bydd ecolegwyr yn gyfarwydd â'r cysyniad hwn.
Gwnewch yn siŵr bod unrhyw welliannau bioamrywiaeth a gynigir gennych yn cael eu hintegreiddio ag unrhyw gynigion tirlunio neu ddraenio eraill.
Defnyddiwch Ganllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor ar gyfer Cadwraeth Natur a Bioamrywiaeth a chwblhewch y rhestrau gwirio y maent yn eu cynnwys.
Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Cadwraeth Natur
Cynefinoedd â Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
Biodiversity in New Housing Development: creating wildlife friendly communities. April 2021. NHBC and RSPB
Designing for Biodiversity: A technical guide for new and existing buildings 2019. RIBA and Bat Conservation Trust
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Pholisi Cynllunio Cymru - Rhifyn 11 (PCC 11) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol geisio gwella bioamrywiaeth drwy'r broses gynllunio; mae'r angen i nodi gwelliannau bioamrywiaeth wedi'i egluro yn y llythyr gan Lywodraeth Cymru at Benaethiaid Cynllunio Awdurdodau Cynllunio Cymru dyddiedig 23 Hydref 2019 sy'n nodi:
Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC 11) yn nodi bod "rhaid i awdurdodau cynllunio geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer eu swyddogaethau. Mae hynny’n golygu na ddylai datblygu arwain at gollediad mawr i gynefinoedd na phoblogaethau o rywogaeth, yn lleol nac yn genedlaethol, a rhaid iddo esgor ar fanteision net i fioamrywiaeth" (paragraff 6.4.5). Mae'r polisi hwn a'r polisïau dilynol ym Mhennod 6 o PCC 11 yn ymateb i Ddyletswydd Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
…..‘lle na chynigir gwella bioamrywiaeth fel rhan o gais, rhoddir pwysau sylweddol i'w absenoldeb, ac oni bai bod ystyriaethau perthnasol arwyddocaol eraill yn nodi fel arall bydd angen gwrthod caniatâd.
Mae'n bwysig bod ystyriaethau bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau yn cael eu hystyried yn gynnar wrth baratoi cynlluniau datblygu ac wrth gynnig neu ystyried cynigion datblygu. Dylai awdurdodau cynllunio fod yn rhagweithiol ac ymgorffori polisïau priodol mewn cynlluniau datblygu lleol i ddiogelu rhag colli bioamrywiaeth a sicrhau gwelliannau.
Dylid defnyddio priodoleddau cydnerthedd ecosystemau (mae PCC 11 paragraff 6.4.9 p.138 yn cyfeirio at hyn) i asesu cydnerthedd presennol safle, a rhaid cynnal a gwella hyn ar ôl datblygu. Os na ellir cyflawni hyn, dylid gwrthod caniatâd ar gyfer y datblygiad.
Mae sicrhau budd net i fioamrywiaeth yng nghyd-destun Polisi Cynllunio Cymru yn gofyn am ymateb pragmatig i amgylchiadau penodol y safle. Wrth weithio drwy'r dull fesul cam (PCC 11 paragraff 6.4.21), os na ellir osgoi colli bioamrywiaeth yn llwyr (h.y. cynnal bioamrywiaeth), a bod hyn wedi'i leihau gymaint â phosibl, mae'n ddefnyddiol meddwl am fudd net fel cysyniad i wneud iawn am golled ac i chwilio am gyfleoedd i wella a'u cyflawni. Gellir sicrhau budd net i fioamrywiaeth trwy greu cynefinoedd a/neu drefniadau rheoli hirdymor i wella cynefinoedd sy'n bodoli eisoes, i wella bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau. Nid yw sicrhau budd net i fioamrywiaeth o reidrwydd yn feichus; trwy ddeall y cyd-destun lleol, mae'n bosibl nodi cyfleoedd newydd i wella bioamrywiaeth.
Cynllunio
Cwestiynau Cyffredin - Cynllunio
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig
Chwilio am gais cynllunio
Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
Cyflwyno cais cynllunio
Gwasanaeth cyn cyflwyno cais
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Torri rheolau cynllunio
Brosiectau Cynllunio Mawr
Adeiladu tŷ newydd
Sut y gwneir penderfyniadau cynllunio
Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy
Apeliadau cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Cyngor ecoleg
Adeiladau rhestredig
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
Enwi a rhifo strydoedd
Ynni Adnewyddadwy
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Adroddiad yr Arolygydd a Mabwysiadu'r Cynllun
- Cyflwyno'r Cynllun, ac Archwiliad Annibynnol
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Cyntaf
Caniatâd cynllunio i ddatblygwyr
- Adran 106: Cartrefi Fforddiadwy
- Adran 106: Rhwymedigaethau Cynllunio
- Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Gwnewch gais am arian Adran 106
Cadwraeth a chefn gwlad
Gwastraff
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Clefyd coed ynn
- Bywyd Gwyllt yn eich Ward
Ardaloedd cadwraeth
Mwy ynghylch Cynllunio