Amddiffyn adar / tylluanod sy'n nythu
Mae pob aderyn yn cael ei ddiogelu gan y gyfraith yn ystod y tymor magu - ac mae hyd a lled y diogelwch cyfreithiol hwnnw yn dibynnu ar y rhywogaeth. Mae'r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth am y modd y mae'r gyfraith yn diogelu adar sydd yn nythu, ynghyd ag awgrymiadau ynghylch sut y gallwch chi osgoi tarfu arnynt yn sgil eich cais, a sut y gallwch ddiogelu mannau nythu yn eich gwaith. Mae r rhain oll yn gamau sydd yn gallu bod o fudd i rai o'n hadar sydd fwyaf dan fygythiad.
Mae holl adar Prydain, ynghyd â u nythod a u hwyau (mae rhai eithriadau cyfyngedig), yn cael eu diogelu gan y gyfraith yn unol ag Adran 1 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y i diwygiwyd). Mae'n drosedd i wneud y canlynol:
- lladd, niweidio neu gymryd aderyn gwyllt yn fwriadol,
- cymryd, difrodi neu ddinistrio'n fwriadol nyth unrhyw aderyn gwyllt tra bo r nyth yn cael ei ddefnyddio neu n cael ei adeiladu,
- cymryd neu ddinistrio wy unrhyw aderyn gwyllt yn fwriadol.
Mae hyn yn dibynnu ar y rhywogaeth ac ar ei lleoliad. Mae'r rhan fwyaf o adar yn dechrau nythu tua dechrau mis Mawrth - er y gall tylluanod gwynion ddechrau nythu cyn gynhared â mis Chwefror, ac nid yw gwenoliaid yn arfer cychwyn nythu tan fis Ebrill. Mae'n bosibl y bydd rhai mathau o adar yn cael mwy nag un nythaid bob blwyddyn. Bydd y cywion olaf yn gadael y nyth tua diwedd Awst.
Peidiwch â dechrau ar eich gwaith adeiladu yn ystod y tymor magu (Chwefror / Mawrth tan Awst). Os ydych yn gorfod cychwyn ar y gwaith pan fo r adar yn nythu, cadwch lygad barcud ar eich adar, ac fe ddylech fod yn gallu sylwi pryd mae'r cywion yn gadael y nyth. Mae'n bosibl y bydd rhai adar yn cael ail nythaid, ac mae rhai hyd yn oed yn cael trydedd nythaid, felly gofalwch nad oes adar yn defnyddio r nyth. Ar ôl i'r gwaith adeiladu ddechrau, dylai'r gwaith hwnnw fod yn ddigon i beidio ag annog adar rhag dechrau nythu eto tan y gwanwyn.
Mae'n fwy anodd o lawer i chi sylwi ar adar sydd yn nythu mewn perthi a choed. Er mwyn osgoi niweidio adar, ac efallai torri'r gyfraith, gofalwch eich bod yn gwneud gwaith megis cwympo a thocio coed a phlygu perthi y tu allan i'r prif dymor magu yn unig, hynny yw, nid yn ystod y misoedd rhwng Mawrth ac Awst. Os ydych yn gorfod gwneud gwaith brys am resymau diogelwch, mae'n bwysig eich bod yn archwilio'r safle yn gyntaf i weld a oes yno adar yn nythu.
Mae gwenoliaid y bondo, gwenoliaid duon, a gwenoliaid yn ymwelwyr cyfarwydd yn yr haf, ac maent yn defnyddio adeiladau ar gyfer nythu. Fel rheol mae gwenoliaid y bondo yn nythu o dan y bondo; mae'n well gan wenoliaid gael mynediad i r tu mewn i ysguboriau neu dai maes, er mwyn nythu ar silffoedd a thrawstiau. Mae gwenoliaid duon yn defnyddio y tu mewn i groglofftydd hefyd. Gwaetha'r modd mae arolygon diweddar wedi dangos bod dirywiad mawr wedi bod o ran niferoedd y tair rhywogaeth, ac un o r rhesymau dros y dirywiad hwnnw yw colli mannau nythu addas. Mater bach yw sicrhau bod y datblygiad yn cynnwys mynedfeydd i groglofftydd neu gyfleusterau nythu megis blychau nythu/nythod artiffisial, silffoedd neu lwyfannau pren; gellir cael rhagor o wybodaeth gan y cyrff sydd wedi eu rhestru uchod.
Rhoddir diogelwch ychwanegol o dan y gyfraith i r dylluan wen a rhai adar prin eraill – maent yn cael eu diogelu yn neilltuol o dan Atodlen 1 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Yn ogystal â r camau diogelwch safonol a restrwyd uchod, mae hefyd yn drosedd i chi darfu ar yr adar hyn yn fwriadol neu n fyrbwyll pan fônt ar eu nyth neu gerllaw nyth sydd yn cynnwys wyau neu gywion, neu darfu ar gywion sydd yn dibynnu arnynt. Mae tarfu yn gallu cynnwys gwneud mwy o swn, neu rywun yn gweithio ger y nyth, yn ogystal â rhywun yn agosáu n fwriadol at y nyth. Un o brif achosion y dirywiad a fu o ran niferoedd tylluanod gwynion yw colli mannau nythu, ac felly mae darparu mannau nythu artiffisial mewn ysguboriau neu dai maes eraill neu gerllaw iddynt yn gallu bod o gymorth mawr. Yn ogystal, ystyried gadael/creu ardal o borfa arw er mwyn darparu lle i r tylluanod hela. Argymhellir eich bod chi'n cynnal arolwg proffesiynol ar gyfer presenoldeb / arwyddion presenoldeb tylluanod.
Bydd ceisiadau perthnasol a gyflwynir heb arolwg ystlumod neu arolwg tylluanod ysgubor, yn debygol o ddenu argymhelliad ar gyfer gwrthod oherwydd diffyg gwybodaeth sylweddol ar ystyriaeth berthnasol.
Cynllunio
Chwilio am gais cynllunio
Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
Cyflwyno cais cynllunio
Caniatâd cynllunio i berchnogion tai
Gwasanaeth cyn cyflwyno cais
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Adeiladu tŷ newydd
Sut y gwneir penderfyniadau cynllunio
Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB)
Gorfodi cynllunio
Apeliadau cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Cyngor ecoleg
Adeiladau rhestredig
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
Enwi a rhifo strydoedd
Ynni Adnewyddadwy
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd a Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Adroddiad yr Arolygydd a Mabwysiadu'r Cynllun
- Cyflwyno'r Cynllun, ac Archwiliad Annibynnol
- Cynllun Adnau
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
Caniatâd cynllunio i ddatblygwyr
Canol Tref Llanelli Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Gwnewch gais am arian Adran 106
Cadwraeth a chefn gwlad
Gwastraff
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Cyfeirlyfr bioamrywiaeth
- Map o’r prosiectau bioamrywiaeth
- Clefyd coed ynn
Cwestiynau Cyffredin - Cynllunio
Mwy ynghylch Cynllunio