Amddiffyn ystlumod mewn adeiladau

Diweddarwyd y dudalen ar: 24/01/2020

Bydd ystlumod yn defnyddio unrhyw ysgubor, hen adeilad arall neu le mewn croglofft yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys adeiladau newydd mewn ardaloedd trefol. Efallai na fyddwch wedi sylwi bod yr ystlumod yn bresennol – yn fynych, maent yn clwydo mewn tyllau, craciau a holltau bychain mewn croglofftydd neu y tu cefn i estyll tywydd, wynebfyrddau a theils. Mae niferoedd rhai rhywogaethau o ystlumod wedi gostwng yn frawychus. Yn ogystal â cholli cynefinoedd bwydo, mae colli neu ddifrodi safleoedd clwydo yn ffactor pwysig yn eu dirywiad.

Mae dwy rywogaeth ar bymtheg o ystlumod yn y Deyrnas Unedig, ac mae o leiaf ddeg ohonynt yn Sir Gaerfyrddin. Mae ystlumod benyw yn esgor unwaith y flwyddyn, yn gynnar yn yr haf. Mae'r benywod yn tueddu i ymgrynhoi mewn safleoedd clwydo cymunedol, er mwyn esgor ar eu hepil ac er mwyn magu'r ystlumod bychain. Dyma'r adeg o'r flwyddyn pryd y maent yn fwyaf tebygol o gael eu gweld yn defnyddio adeiladau. Erbyn diwedd yr haf, byddant wedi gadael y safleoedd clwydo hyn. Yn y gaeaf, maent yn gaeafgysgu ac yn byw ar y braster a storiwyd yn eu cyrff yn ystod yr hydref.

Mae'r holl rywogaethau o ystlumod ym Mhrydain wedi eu gwarchod dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) ac wedi eu gwarchod dan gyfraith Ewrop gan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaeth 2010 (fel y'i diwygiwyd), sy'n rhoi Cyfarwyddeb Cynefinoedd y Comisiwn Ewropeaidd ar waith yn y Deyrnas Unedig. Mae cipio, niweidio neu ladd rhywogaeth a warchodir dan gyfraith Ewrop yn fwriadol, ynghyd â difrodi neu ddinistrio, yn fwriadol, safleoedd magu neu fannau clwydo anifail o'r fath neu ei rwystro rhag cael mynediad i adeilad yn drosedd. Mae safle clwydo yn cael ei ddiogelu boed ystlumod yno ai peidio ar y pryd. Byddai ‘difrod’ yn cynnwys pethau megis trin pren lle maent yn clwydo. Mae tarfu ar ystlum yn fwriadol mewn modd a allai effeithio'n sylweddol ar ei allu i oroesi neu ar niferoedd neu ddosbarthiad lleol y rhywogaeth honno yn drosedd hefyd.

Ystlumod a'r system gynllunio

Mae presenoldeb rhywogaeth a ddiogelir yn ystyriaeth o bwys pan fydd awdurdod cynllunio lleol yn ystyried cais datblygu a fyddai, o'i gyflawni, yn debygol o niweidio neu darfu ar y rhywogaeth neu ei chynefin. Mae'n ddyletswydd hefyd ar Awdurdodau Cynllunio Lleol i ystyried deddfwriaeth Ewropeaidd, sy’n golygu bod yn rhaid ystyried cyn gynted ag y bo modd yn y broses gynllunio unrhyw effeithiau ar ystlumod.

Cynnal arolwg ystlumod

Lle mae'n bosibl bod ystlumod yn bresennol, y cyngor yw ymchwilio i hynny cyn cyflwyno cais cynllunio. Bydd yn ofynnol cael y wybodaeth a ddeillia yn sgil arolwg er mwyn ei hystyried wrth ymdrin â chais a phennu pa fesurau lliniaru a allai fod yn angenrheidiol. Dylai'r arolwg gael ei gynnal gan rywun sydd wedi ei drwyddedu i weithio gydag ystlumod. Ni ddylech chi gynnal yr arolwg gan y gallech beidio â sylwi ar arwyddion o bresenoldeb ystlumod y byddai rhywun cymwys yn sylwi arnynt.

Ceir ystlumod yn aml yn y lleoliadau canlynol:

  • Ysguboriau ac adeiladau traddodiadol eraill gan gynnwys eglwysi, capeli
  • Adeiladau lle mae strwythur y to yn gymhleth beth bynnag fo'u hoed
  • Adeiladau rhestredig
  • Coed aeddfed neu goed a cheudyllau amlwg, rhisglo, rhwygiadau a chraciau neu holltau sydd wedi dod i'r amlwg
  • strwythurau tanddaearol e.e. twnelau, mwyngloddiau, seleri, tai iâ.
  • Bridges

Gall ystlumod fod yn bresennol mewn sefyllfaoedd ychwanegol i'r rhai a restrir uchod. Er enghraifft, bydd corystlumod (yr ystlumod lleiaf) yn bresennol mewn adeiladau modern ac adeiladwaith. Dylai preswylwyr, datblygwyr a'r rheiny sy'n gweithredu ar eu rhan, gofio ei bod yn drosedd tarfu ar unrhyw safleoedd clwydo neu niweidio ystlum(od).

Os yw'r cais yn un a fyddai'n effeithio ar ystlumod, efallai y bydd yn rhaid cael trwydded gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i wneud y gwaith. Peth prin ydyw i bresenoldeb ystlumod atal datblygiad ond bydd yn rhaid cymryd mesurau digonol i ofalu nad effeithir arnynt yn andwyol. Os canfyddir bod ystlumod yn bresennol ar ôl i'r gwaith datblygu ddechrau, mae'n rhaid rhoi'r gorau i'r gwaith a chysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddi-oed.

Cael gwybod am drwyddedau ystlumod (NRW)

Cynllunio