Sut y gallai targedau ffosffad newydd effeithio ar eich datblygiad
Ym mis Ionawr 2021 cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dargedau newydd i leihau lefelau ffosffad mewn afonydd mewn ardaloedd cadwraeth arbennig (ACA) ledled Cymru.
Roedd yr adolygiad yn dilyn tystiolaeth newydd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur y gallai tywydd cynhesach a sychach, a ragwelir o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, leihau llif afonydd yn ystod yr haf ac felly cynyddu crynodiadau ffosffad. Mae hefyd yn seiliedig ar dystiolaeth newydd ynghylch effeithiau niweidiol ffosffadau ar rywogaethau ac ecosystemau dŵr.
Ar hyn o bryd, mae dros 60% o'r cyrff dŵr yng Nghymru yn methu'r targedau llymach, a gofynnir i awdurdodau cynllunio lleol Cymru gymryd mwy o gamau i atal yr amgylchedd rhag dirywio ymhellach. Mae'n golygu bod yn rhaid i unrhyw gynigion ar gyfer datblygu o fewn dalgylchoedd afonydd ACA - yn enwedig y rhai a fydd yn cynyddu cyfaint neu grynodiad y dŵr gwastraff - brofi bellach na fydd y dyluniad yn cyfrannu at gynyddu lefelau ffosffad.
Yn Sir Gaerfyrddin, mae Afon Teifi, Afon Tywi, Afon Gwy ac Afon Cleddau wedi'u dynodi'n ardaloedd cadwraeth arbennig afonol. Ar hyn o bryd mae Afon Teifi, Afon Gwy ac Afon Cleddau yn methu targedau Cyfoeth Naturiol Cymru. Er bod afon Tywi yn rhagori ar ei thargedau, prin yw'r hyblygrwydd. Mae modd gweld adroddiad Asesiad Cydymffurfiaeth CNC ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonydd Cymru yn erbyn yr adroddiad Targedau Ffosfforws yma. Bydd gan ddatblygiadau yn agos at yr afonydd hyn gapasiti cyfyngedig o bosib i gysylltu â'r system garthffosiaeth gyhoeddus a rhaid dod o hyd i atebion eraill a fydd yn bodloni'r targedau newydd, naill ai drwy fod yn niwtral o ran ffosffad neu wella lefelau ffosffad. Gallwch weld map o ddalgylchoedd yr afonydd yma.
Pa gamau ydym wedi eu cymryd?
Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlinellu ein pryderon am yr effaith ar ddatblygu ac wedi egluro ein bod am ddod o hyd i ateb cyn gynted â phosibl. Rydym hefyd wedi cymryd nifer o gamau rhagweithiol:
- Rydym wedi llunio canllawiau i helpu datblygwyr i ddeall yr hyn sy'n ofynnol
- Rydym wedi creu cyfrifiannell ffosffad i ddatblygwyr gyfrif faint o ffosffad fydd eu datblygiad yn ei gynhyrchu. Dyma'r unig gyfrifiannell ffosffad yng Nghymru, ac mae wedi'i modelu'n benodol â data ar gyfer Sir Gaerfyrddin.
- Rydym wedi llunio Canllaw Technegol – sy'n nodi'r holl gyfrifiadau a mewnbwn data a ddefnyddiwyd yn y gyfrifiannell.
- Rydym wedi llunio Canllawiau Lliniaru cynhwysfawr sy'n esbonio'r mathau mwyaf effeithiol o liniaru y gellid eu defnyddio yn Sir Gaerfyrddin.
- Rydym wedi sefydlu Bwrdd Rheoli Maetholion ar gyfer afon Tywi. Bydd y bwrdd hwn yn gyfrifol am gynhyrchu Cynllun i wella cyflwr yr afon ac i hwyluso datblygiad niwtral o ran maetholion. Bydd manylion pellach am y Bwrdd hwn, gan gynnwys tudalen we sy'n arddangos diweddariadau byw, yn cael eu postio ar y dudalen hon pan fyddant ar gael.
- Rydym wedi helpu i sefydlu Bwrdd Rheoli Maetholion Tywi a Bwrdd Rheoli Maetholion Cleddau, ac yn aelodau ohonynt. Rydym yn cynrychioli buddiannau Sir Gaerfyrddin yn y byrddau hyn.
- Ym mis Gorffennaf 2022, i gydnabod yr arweinyddiaeth rydym wedi'i dangos yn Sir Gaerfyrddin, cawsom wahoddiad i'r Gynhadledd Trafod Llygredd Ffosffad a gynhaliwyd gan Brif Weinidog Cymru yn y Sioe Fawr.
Y Camau Nesaf
- Rydym yn sefydlu Grŵp Cyngor Technegol i adolygu tystiolaeth ac i fodelu senarios a chynigion a gaiff eu cyflwyno i'r Byrddau Rheoli Maetholion i'w cymeradwyo.
- Rydym yn y broses o sefydlu Fforwm Rhanddeiliaid Afonydd. Mae aelodaeth o'r grŵp hwn yn agored, ac rydym yn croesawu pob cyfraniad i helpu i hwyluso newid adeiladol a pharhaol ar gyfer iechyd afonydd. Bydd manylion pellach, yn cynnwys gwybodaeth am ymuno, yn cael eu rhoi ar y dudalen hon pan fyddant ar gael.
- Mae'r heriau sydd ynghlwm wrth fynd i'r afael â llygredd ffosffad yn gymhleth, a does dim ateb hawdd. I gael atebion fydd yn para, bydd angen cydweithio ag Awdurdodau Lleol cyfagos, Dŵr Cymru, y sector ffermio, CNC, Llywodraeth Cymru a chyrff amgylcheddol. Mae CSC wrthi'n cydweithio a rhannu gwybodaeth â phob ochr yn rheolaidd drwy gyfarfodydd rhanbarthol a chyfarfodydd Cymru gyfan.
- Ymchwilir i raglen Liniaru Strategol sy'n sicrhau bod cymaint o liniaru ag sy'n bosibl yn digwydd ac sy'n darparu budd hynny drwy gyfnewidfa gredyd. Bydd hyn yn cael gwared ar lawer o'r rhwystrau lliniaru y mae datblygwyr yn gorfod mynd i'r afael â nhw.
Rydym yn cydnabod y bydd y sefyllfa hon yn rhwystredig i ddatblygwyr - rydym am weithio gyda chi i ddod o hyd i atebion sy'n gwella cyflwr ein hafonydd, sy'n ddichonadwy ac y gellir eu rhoi ar waith yn gyflym ac yn llwyddiannus. Rydym am ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl sy'n cynrychioli adeiladwyr tai, cyflogwyr, y gymuned ffermio, preswylwyr, grwpiau amgylcheddol a mwy i drafod y materion hyn.
Cyfrifiannell
Mae ein cyfrifiannell cyfrifo maetholion bellach ar waith.
Mae'n eich galluogi i gyfrifo lefel y ffosffadau y gallai datblygiad preswyl arfaethedig yn Sir Gaerfyrddin ei chynhyrchu. Mae hwn yn gam cyntaf pwysig ar gyfer caniatáu i ddatblygiad sy'n niwtral o ran maetholion fynd rhagddo, a dyma'r cyntaf o'i fath i gael ei lansio yng Nghymru.
Mae hwn yn adnodd am ddim, wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Bydd yn eich cynorthwyo i ddeall yr effaith y mae eich datblygiad yn ei chael a bydd yn eich galluogi i gadarnhau cyfrifiad ffosffad y datblygiad arfaethedig ac i ystyried mesurau lliniaru.
Er nad yw'n ofynnol ichi ddefnyddio'r gyfrifiannell hon, rydym yn eich annog yn gryf i wneud hynny. Bydd unrhyw geisiadau a gyflwynir gan ddefnyddio cyfrifianellau amgen yn destun craffu ychwanegol i benderfynu pa mor berthnasol ydynt i'r amodau yn Sir Gaerfyrddin.
Dogfen Ganllaw’r ar gyfer y Gyfrifiannell - Mae'r ddogfen hon wedi'i llunio fel canllaw cyfarwyddiadol i'ch helpu chi i ddefnyddio’r gyfrifiannell
Fideo fersiwn Cymraeg i dod cyn bo hir.
Sut mae'n gweithio
Yn syml, ewch ati i fewnbynnu'r wybodaeth sy'n benodol i'ch datblygiad ac i'r safle i'r gyfrifiannell ac ewch drwy'r camau. Darparwyd cyfarwyddiadau i'ch helpu.
Bydd y gyfrifiannell yn cynhyrchu gwerth ffosfforws mewn cilogramau fesul blwyddyn. Gellid defnyddio'r gwerth terfynol i'ch helpu i ystyried eich opsiynau lliniaru o ran ffosffad. Ni fydd y gyfrifiannell yn amcangyfrif faint o dir sydd ei angen ar gyfer unrhyw fath o liniaru oherwydd y newidynnau niferus mewn datrysiadau seiliedig ar natur a all amrywio yn dibynnu ar waith cynnal a chadw, aeddfedrwydd ac amodau safle-benodol arfaethedig.
Bydd y canllawiau lliniaru yn eich cynorthwyo ymhellach wrth ddethol a gweithredu opsiynau lliniaru.
Ymwadiad
Nid yw'r Cyngor yn derbyn atebolrwydd am unrhyw niwed, colled neu anghyfleustra uniongyrchol neu anuniongyrchol a achosir drwy lawrlwytho a defnyddio'r gyfrifiannell ffosffad hon o wefan y Cyngor.
Cyfeiriwch at y Canllaw Technegol i gael esboniad o'r setiau data a'r cyfrifiadau a ddefnyddir yn y gyfrifiannell. Os oes gennych unrhyw sylwadau, rhowch wybod inni drwy anfon neges e-bost at cynllunio@sirgar.gov.uk. Bydd y gyfrifiannell yn cael ei hadolygu a'i diweddaru'n rheolaidd i sicrhau ei bod yn cael ei seilio ar y dystiolaeth orau posibl ac yn adlewyrchu'r amodau lleol yn gywir.
Mesurau Lliniaru
Mae angen i fesurau lliniaru adlewyrchu amgylchiadau safle-benodol, a chael dealltwriaeth o ffynhonnell y llygredd ffosffad hwnnw.
Mae Dŵr Cymru wrthi'n cynnal adolygiad o ffynonellau Ffosffad. Gwybodaeth, bydd y wybodaeth hon yn helpu i gael y lliniaru cywir yn y man cywir. Gallwch weld y data dosrannu ffynonellau yma.
Mae angen mwy o ymchwil i effeithiolrwydd gwahanol fathau o opsiynau lliniaru.
Mae'n rhaid i unrhyw fesurau lliniaru a fwriedir i osgoi neu liniaru effeithiau ffosfforws posibl ddangos eu bod yn seiliedig ar y 'dystiolaeth orau sydd ar gael', yn effeithiol 'y tu hwnt i amheuaeth resymol', wedi'u seilio ar amcangyfrifon 'rhagofalus', ac yn rhai y gellir eu sicrhau 'am byth' (80-125 mlynedd).
Rhaid i'r mesurau arfaethedig gael eu gorfodi'n gyfreithiol hefyd.
Ar gyfer pob mesur, mae angen i ni dderbyn gwybodaeth:
- sy'n nodi sut byddai'r mesur(au) yn osgoi neu'n lleihau effeithiau andwyol ar yr ACA (gan ystyried am ba hyd y rhagwelir bydd yr effeithiau'n para)
- sy'n dangos sut byddai'r mesur(au) yn cyflawni niwtraliaeth o ran maetholion
- sy'n cadarnhau sut bydd y mesur(au) yn cael eu gweithredu, a chan bwy
- sy'n nodi sut bydd y mesur yn cael ei gynnal a phwy fydd yn gyfrifol am waith cynnal a chadw.
- sy'n dangos sut y bydd y mesur yn cael ei fonitro i sicrhau ei fod yn effeithiol.
Mae rhagor o wybodaeth am fesurau lliniaru ar gael yng Nghyngor Cynllunio Ffosffad diweddaraf CNC.
Mae ffosfforws yn faethyn y mae lefelau isel ohono'n digwydd yn naturiol ac sy'n angenrheidiol ar gyfer afonydd iach. Mae'n cael ei ryddhau'n araf ar lefelau isel o ffynonellau naturiol, yn sgil erydiad naturiol ar lannau afonydd, er enghraifft. Fodd bynnag, pan fydd lefelau uchel o ffosffad, hwn yw'r maetholyn mwyaf niweidiol mewn dŵr croyw a gall arwain at ewtroffigedd - lle mae gormod o faethynnau yn achosi tyfiant trwchus o blanhigion a marwolaeth anifeiliaid yn dilyn hynny oherwydd diffyg ocsigen.
Prif ffynonellau ffosfforws yw amaethyddiaeth (mae i'w gael mewn gwrteithiau a dŵr ffo o dail) a charthffosiaeth (o gartrefi a datblygiadau eraill sy'n cynhyrchu dŵr gwastraff sy'n cynnwys carthion, gwastraff bwyd a chynhyrchion glanhau).
Er bod tir amaeth yn gallu amsugno ffosfforws yn naturiol, mae llawer o'r tir yng Nghymru bellach wedi cyrraedd pwynt dirlawnder ac nid yw'n gallu amsugno'r symiau gormodol. Mae poblogaethau sy'n tyfu a mwy o dai wedi arwain at lefelau cynyddol o ffosfforws mewn dŵr gwastraff. Mae hyn yn achosi difrod i'r afonydd a'r ecosystemau y mae'n eu cynnal.
Mae'r mathau o ddatblygiadau y gellid effeithio arnynt yn cynnwys (nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth a gellid ei hadolygu):
- Unedau preswyl newydd gan gynnwys tai, safleoedd/lleiniau sipsiwn a theithwyr
- Atyniadau twristiaeth a datblygiadau masnachol lle darperir llety dros nos
- Datblygiadau masnachol neu ddiwydiannol mawr newydd lle bydd cwsmeriaid yn cael eu denu o'r tu allan i'r dalgylch megis safleoedd manwerthu mawr, cyfleusterau cynadledda, neu atyniadau twristaidd mawr
- Datblygiad amaethyddol, gan gynnwys hysbysiadau ymlaen llaw (datblygiad nad oes angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer, ond lle mae angen i'r awdurdod cynllunio lleol gadarnhau ei fod yn cael ei ganiatáu) gan gynnwys ysguboriau ychwanegol a storfeydd slyri sy'n debygol o arwain at gynnydd mewn anifeiliaid.
- Hysbysiadau ymlaen llaw am newid defnydd swyddfa yn gartref ac adeilad amaethyddol yn gartref
Mae canllawiau a chyngor pellach ar gael ar Dudalen Cyngor Cynllunio Ffosffad CNC.
Nid yw'r datblygiadau canlynol yn debygol o gael effaith sylweddol ar ardal gadwraeth arbennig afonol mewn perthynas â mewnbynnau ffosfforws, gan nad yw'n debygol y bydd ffynhonnell ffosfforws neu lwybr ychwanegol ar gyfer effeithiau:
- unrhyw ddatblygiad nad yw'n cynyddu cyfaint a chrynodiad ffosfforws dŵr gwastraff
- unrhyw ddatblygiad sy'n gwella gollyngiadau ansawdd dŵr presennol trwy leihau crynodiad ffosfforws dŵr gwastraff heb gynyddu cyfaint neu drwy leihau cyfaint dŵr gwastraff a gynhyrchir heb gynyddu crynodiad ffosfforws
- datblygiadau a fwriedir i ddarparu gwasanaethau, cyfleusterau, safleoedd masnachol, neu fannau cyflogaeth (e.e. adeiladau cymunedol, ysgolion ac ati) ar gyfer poblogaeth leol sydd eisoes yn cael ei gwasanaethu gan gysylltiadau preswyl i garthffosydd cyhoeddus neu breifat presennol sy'n gollwng o fewn dalgylch afon ACA
- unrhyw ddatblygiad sy'n lleihau amlder, neu gyfaint gollyngiadau ffosfforws afreolaidd o fewn dalgylch afon ACA megis codi adeiladau amaethyddol a chynlluniau draenio i wahanu dŵr glaw o dail a slyri trwy gwmpasu iardiau a storfeydd tail/slyri presennol. Sylwer na ddylai unrhyw ddatblygiad o'r fath fod yn gysylltiedig â chynnydd yn nifer y da byw na'r gallu i gynyddu nifer y da byw drwy ddarparu seilwaith ychwanegol
- systemau trin carthion preifat sy'n gollwng dŵr gwastraff domestig i'r ddaear, sydd wedi'u hadeiladu i'r Safon Brydeinig berthnasol(BS 6297:2007+A1:2008), mae'r gyfradd ollwng ddyddiol uchaf yn llai na 2 fetr ciwbig (m3) ac mae'r maes draenio wedi'i leoli mwy na 40m o unrhyw nodwedd dŵr wyneb megis afon, nant, ffos neu ddraen ac wedi'i leoli mwy na 50m o ffin ACA ac o leiaf 200m o unrhyw ollyngiad hysbys arall i'r ddaear.
Mae canllawiau a chyngor pellach ar gael ar Dudalen Cyngor Cynllunio Ffosffad CNC.
Os yw eich cais cynllunio o fewn dalgylch afon ACA, bydd angen i chi:
- Penderfynu a oes modd diystyru'r datblygiad yn un annhebygol o gael effaith sylweddol ar ACA afon mewn perthynas â mewnbynnau ffosfforws. Gelwir y cam hwn yn 'Prawf yr Effaith Arwyddocaol Debygol (TLSE)'. Cyfeiriwch at 'Pa fath o ddatblygiadau yr effeithir arnynt?' Os ydych yn teimlo na fydd eich cais yn cael effaith sylweddol, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth i ni i gefnogi hyn.
- Os na ellir diystyru'r datblygiad, bydd angen i chi gyfrifo'r llwyth ffosffad ychwanegol o'r datblygiad arfaethedig gan ddefnyddio'r Gyfrifiannell Cyfrifo Maetholion. Mae canllaw ysgrifenedig a fideo i'ch helpu i ddefnyddio'r gyfrifiannell.
- Yna bydd angen i chi gyflwyno Cynnig Lliniaru sy'n dangos sut bydd y ffosffad ychwanegol a gynhyrchir yn cael ei liniaru. Gweler y canllawiau Lliniaru i gael gwybodaeth fanwl am y mesurau mwyaf priodol y gellid eu defnyddio yn Sir Gaerfyrddin.
Gallech dynnu eich cais yn ôl ac aros am gynnydd pellach o ran atebion neu siarad â'ch swyddog cynllunio i gytuno ar estyniad i'ch cais.
Gallech hefyd arfer eich hawl i apelio os nad oes penderfyniad wedi'i wneud ar ôl wyth wythnos o'r adeg y cofrestrwyd/dilyswyd eich cais, ond bydd yr Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn ystyried effeithiau'r datblygiad ar lefelau ffosffad.
Rydym hefyd yn eich cynghori i gadw llygad ar gynnydd eich cais ar ein system a chofrestru i gael diweddariadau.
Gall estyniadau domestig ddarparu mwy o le byw mewn eiddo sy'n bodoli eisoes. Efallai na fyddant yn arwain at newid yn nifer y deiliaid, ac, yn ein barn ni, byddai'n ymddangos yn rhesymol i estyniadau domestig gael eu diystyru ym mhrawf yr effaith arwyddocaol debygol. Ein barn ni yw, oni bai y byddai'r cynnig yn arwain at greu llety byw'n annibynnol, uned gynllunio ar wahân a/neu newid mewn defnydd, lle na ellir dweud mwyach ei fod yn ategol i'r brif breswylfa, mae datblygiadau o'r fath yn annhebygol o arwain at effeithiau sylweddol ar ACA drwy newidiadau o ran gollwng dŵr gwastraff. Fodd bynnag, gall cynigion sy'n arwain at greu llety byw'n annibynnol fel uned gynllunio ar wahân arwain at gynnydd mewn deiliadaeth gan drigolion o'r tu allan i ddalgylch afon ACA, ac yn yr achosion hyn, mae angen asesu cynigion ymhellach.
Fel arfer, nid ystyrir ei bod yn amgylcheddol dderbyniol gosod cyfleuster trin carthion preifat mewn ardaloedd lle mae prif garthffosydd oherwydd bod mwy o risg o fethu, a allai arwain at lygredd.
Mae canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru yn nodi, lle y bo'n bosibl, y dylid gollwng dŵr gwastraff brwnt datblygiad newydd i garthffos gyhoeddus.
Os oes modd dangos, oherwydd cost a/neu faterion ymarferol, nad yw cysylltu â charthffos gyhoeddus yn bosibl, yna gellid ystyried gwaith trin dŵr gwastraff preifat - neu system gwaredu carthion nad yw'n cysylltu â phrif garthffos.
Sylwch fod yn rhaid i chi gael trwydded amgylcheddol, neu gofrestru esemptiad gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, i weithredu system ddraenio breifat. Ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru fel arfer yn rhoi trwydded gollwng dŵr ar gyfer system trin carthion breifat lle mae'n rhesymol cysylltu â'r garthffos dŵr brwnt gyhoeddus.
I gael mwy o wybodaeth am ddefnyddio PTP's mewn perthynas â chael gwared â ffosffad, cyfeiriwch at Dudalen Cyngor Cynllunio Ffosffad CNC.
Pan fydd newid o ddefnydd masnachol presennol (neu ddefnydd tebyg arall) i ddefnydd preswyl, tybir y bydd hyn yn arwain at gynhyrchu mwy o ddŵr gwastraff ac felly bydd mwy o faethynnau yn cael eu gollwng i waith trin dŵr gwastraff.
Mae capasiti gan waith trin dŵr gwastraff o'r fath, a phan gyrhaeddir y capasiti hwn nid oes ffordd hawdd o greu mwy o le. Mae hyn yn creu mwy o risg o orlwytho a allai gynyddu faint o faethynnau sy'n cael eu gollwng i gyrsiau dŵr.
Felly, bydd angen cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a rhoi mesurau lliniaru ar waith ar gyfer y math hwn o newid defnydd.
Mae datblygiadau amaethyddol newydd sy'n cynnwys storio, rheoli a gwasgaru deunydd organig, ac sydd o fewn dalgylch Ardal Cadwraeth Arbennig afonol, yn gallu cyfrannu at faint o ffosfforws sy'n mynd i mewn i'r safle dynodedig. Mae'n debygol yr effeithir ar ddatblygiadau o'r fath a bydd angen rhoi mesurau lliniaru ar waith.
Mae mesurau rheoli maethynnau, tir, tail a chynefinoedd y gellir eu rhoi ar waith i leihau faint o ffosffad sy'n mynd i mewn i afonydd o ffynonellau gwasgaredig. Mae newidiadau y gellir eu gwneud ar unwaith hefyd, er enghraifft codi ffensys ar hyd glannau afonydd i atal anifeiliaid rhag mynd i mewn i'r afonydd.
Hoffem archwilio syniadau ynghylch rheoli dalgylchoedd gyda'r gymuned ffermio. Cysylltwch â ni.
Yn anffodus, bydd oedi o ran y broses CDLl wrth i ni ailasesu'r goblygiadau a dileu dyraniadau datblygu mewn dalgylchoedd sensitif i ffosffad.
Mae gwaith wedi cychwyn ar lunio ail CDLl Adneuo a fydd yn cynnwys Newidiadau Penodol y cytunwyd arnynt yn flaenorol (lle maent yn parhau'n berthnasol). Bydd hefyd yn adlewyrchu ac yn ymateb i adfer yn sgil Covid-19, yr agenda carbon sero net a datgarboneiddio, Nodyn Cyngor Technegol 15 / Mapiau Llifogydd Diwygiedig newydd, a Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040.
Rydym wedi ysgrifennu at y rhai sydd wedi gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y CDLl - os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr bostio hon, cofiwch gofrestru.
Mae afonydd iach yn cefnogi cadernid cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a'r gallu i addasu i newid. Rydym am gael atebion sy'n gwella amgylcheddau naturiol bioamrywiol ac yn hyrwyddo ecosystemau iach. Rydym am weithio gyda grwpiau amgylcheddol a grwpiau afonydd i ddod o hyd i atebion a byddem yn croesawu eich cyfranogiad. Cysylltwch â ni.
Oes, ac maent yn seiliedig ar natur yn bennaf. Gall y mater fod yn gymhleth ac mae angen archwilio amrywiaeth o fesurau megis cael gwared ar ffosffad yn y ffynhonnell, lliniaru a gwrthbwyso, yn ôl y dalgylch a'r safle penodol.
Ystyr lliniaru yw dod o hyd i ffordd o atal llygredd ffosffad rhag mynd i mewn i'r dŵr. Gall mesurau gynnwys rheoli ffynonellau llygryddion, adfer ecosystemau sydd wedi'u difrodi, rheoli dalgylchoedd, a nodweddion fel Systemau Draenio Cynaliadwy a chlustogfeydd afonydd y gellir eu defnyddio i hidlo dŵr ffo amaethyddol ac arwain at welliant. Mae mesurau lliniaru sydd agosaf at ffynhonnell llygredd ffosffad yn well.
Ystyr gwrthbwyso yw cymryd camau i leihau faint o ffosfforws sy'n cael ei gynhyrchu er mwyn gwneud iawn am lefelau uwch mewn mannau eraill.
Er enghraifft, ym myd amaeth cynhyrchir ffosffad drwy daenu gwrtaith ac wrth i anifeiliaid bori ar dir amaethyddol. Mae dŵr glaw yn cario'r ffosffadau hyn i gyrsiau dŵr, yn enwedig ar dir sydd ar oleddf. Gallai peidio â defnyddio darn o dir amaethyddol atal ffosffadau rhag cael eu hychwanegu gan greu mesur gwrthbwyso.
Byddai'r arwynebedd o dir sydd ei angen i wrthbwyso cartrefi newydd yn dibynnu ar ddaeareg a graddiant y tir, a pha mor ddwys y cafodd ei ffermio.
Mae rhai ardaloedd (a elwir yn safleoedd Ewropeaidd) yn cael eu diogelu gan gyfraith cadwraeth, sef Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 fel y'u diwygiwyd (a elwir yn Rheoliadau Cynefinoedd).
Mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA).
Os cynigir datblygiad mewn ardal o'r fath, rhaid i ni gynnal asesiad o dan y Rheoliadau Cynefinoedd, a elwir yn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, i brofi a allai'r cynnig niweidio nodweddion dynodedig y safle yn sylweddol.
Byddai'r 'asesiad priodol' yn ystyried effeithiau andwyol posibl cynllun neu brosiect (mewn cyfuniad â chynlluniau neu brosiectau eraill).
Mae'r ymadrodd hwn yn cyfeirio at waredu maetholion gan ddatblygwyr neu awdurdodau cynllunio lleol i greu gallu ar gyfer twf heb achosi dirywiad pellach mewn lefelau maeth.
Cynllunio
Cwestiynau Cyffredin - Cynllunio
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig
Chwilio am gais cynllunio
Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
Cyflwyno cais cynllunio
Gwasanaeth cyn cyflwyno cais
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Torri rheolau cynllunio
Brosiectau Cynllunio Mawr
Adeiladu tŷ newydd
Sut y gwneir penderfyniadau cynllunio
Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy
Apeliadau cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Cyngor ecoleg
Adeiladau rhestredig
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
Enwi a rhifo strydoedd
Ynni Adnewyddadwy
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Adroddiad yr Arolygydd a Mabwysiadu'r Cynllun
- Cyflwyno'r Cynllun, ac Archwiliad Annibynnol
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Cyntaf
Caniatâd cynllunio i ddatblygwyr
- Adran 106: Cartrefi Fforddiadwy
- Adran 106: Rhwymedigaethau Cynllunio
- Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Gwnewch gais am arian Adran 106
Cadwraeth a chefn gwlad
Gwastraff
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Clefyd coed ynn
- Bywyd Gwyllt yn eich Ward
Ardaloedd cadwraeth
Mwy ynghylch Cynllunio