Sut y gallai targedau ffosffad newydd effeithio ar eich datblygiad
Trosolwg
Ym mis Ionawr 2021 cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dargedau newydd i leihau crynodiad ffosfforws mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ledled Cymru.
Roedd y targedau diwygiedig yn dilyn tystiolaeth newydd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur y gallai tywydd cynhesach a sychach, a ragwelir o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, leihau llif afonydd yn ystod yr haf ac felly cynyddu crynodiadau ffosffad. Mae hefyd yn seiliedig ar dystiolaeth newydd ynghylch effeithiau niweidiol ffosffadau ar rywogaethau ac ecosystemau dŵr. Mae pwysigrwydd hyn yn cael ei gydnabod yn rhannol drwy ddatganiad Argyfwng Natur gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn 2022.
Mae Canllawiau CNC yn nodi bod Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am gynnal Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 trwy fonitro datblygiad o fewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.
Ar hyn o bryd, mae dros 60% o'r cyrff dŵr yng Nghymru yn methu'r targedau llymach, a gofynnir i Awdurdodau Cynllunio Lleol gymryd mwy o gamau i atal yr amgylchedd rhag dirywio ymhellach. Mae hyn yn golygu bydd yn rhaid i'r holl gynigion datblygu yn y dyfodol o fewn Dalgylchoedd Afonydd ACA a fydd yn cynyddu cyfaint dŵr gwastraff brofi bellach na fydd y datblygiad yn cyfrannu at gynyddu mewn lefelau ffosfforws.
Yn Sir Gaerfyrddin, mae Afon Teifi, Afon Tywi, Afon Gwy, Afon Wysg ac Afonydd Cleddau wedi'u dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol. Ar hyn o bryd, nid yw Afon Teifi, Afon Gwy, Afon Wysg, nac Afonydd Cleddau yn cyrraedd targedau CNC, ac er bod Afon Tywi yn rhagori ar ei thargedau, prin yw'r hyblygrwydd. Mae rhagor o fanylion am statws yn erbyn y targedau hyn i'w gweld yn adroddiad Asesiad Cydymffurfiaeth CNC o ACA Afonydd Cymru yn erbyn Targedau Ffosfforws.
Bydd gan ddatblygiadau yn agos at yr afonydd hyn gapasiti cyfyngedig o bosib i gysylltu â'r system garthffosiaeth gyhoeddus a rhaid dod o hyd i atebion eraill a fydd yn bodloni'r targedau newydd, naill ai drwy fod yn niwtral o ran ffosffad neu drwy wella yn hynny o beth.
Pa gamau ydym wedi eu cymryd?
Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlinellu ein pryderon am yr effaith ar ddatblygu a'r angen i gael ateb cyn gynted â phosibl. Rydym hefyd wedi cymryd y camau rhagweithiol canlynol:
- Rydym wedi sefydlu Bwrdd Rheoli Maetholion ar gyfer afon Tywi. Mae'r bwrdd hwn yn gyfrifol am gynhyrchu Cynllun Rheoli Maetholion i wella cyflwr yr afon ac i hwyluso datblygiad niwtral o ran maetholion. Bydd manylion pellach am y Bwrdd hwn, gan gynnwys tudalen we sy'n arddangos diweddariadau byw, yn cael eu postio ar y dudalen hon pan fyddant ar gael. Rydym hefyd wedi helpu i sefydlu Bwrdd Rheoli Maetholion Tywi a Bwrdd Rheoli Maetholion Cleddau.
- Rydym wedi creu Cyfrifiannell Gorllewin Cymru i helpu datblygwyr i gyfrif faint o faetholion fydd eu datblygiad yn eu cynhyrchu. Dyfeisiwyd y gyfrifiannell hon gan ddefnyddio data a gasglwyd yn Sir Gaerfyrddin. Yn ymarferol, bydd y defnydd o'r gyfrifiannell yn cwmpasu tair sir (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, a Cheredigion) a dalgylchoedd afonydd (Tywi, Cleddau a Teifi) dan oruchwyliaeth y Byrddau Rheoli Maetholion newydd.
- Rydym wedi llunio Canllawiau Lliniaru cynhwysfawr sy'n esbonio'r mathau mwyaf effeithiol o liniaru y gellid eu defnyddio yn Sir Gaerfyrddin.
- I gydnabod yr arweinyddiaeth rydym wedi'i dangos yn Sir Gaerfyrddin, cawsom wahoddiad i'r Gynhadledd Trafod Llygredd Ffosffad a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2022 gan Brif Weinidog Cymru yn y Sioe Fawr. Ym mis Mawrth 2023, amlygwyd ymhellach yn yr ail Gynhadledd Trafod Llygredd Ffosffad, a fynychwyd eto gan gynrychiolwyr o'r Awdurdod Lleol, yr angen am Gynllun Gweithredu Llygredd Afon ac am ddatblygu atebion ar frys.
Cyfrifiannell Gorllewin Cymru
Mae Cyfrifiannell Gorllewin Cymru bellach ar fyw.
Datblygwyd Cyfrifiannell Cyfrifo Maetholion wreiddiol Sir Gaerfyrddin, yr un gyntaf yng Nghymru, i ffurfio Cyfrifiannell Cyfrifo Maetholion Gorllewin Cymru. Mae'r gyfrifiannell hon yn gweithio yn yr un ffordd â'r un flaenorol ond mae ganddi nodweddion ychwanegol ac mae wedi cael ei mireinio i ddarparu ar gyfer pob un o'r tri dalgylch ACA. Mae hwn yn gam cyntaf pwysig o ran galluogi datblygiad niwtral o ran maetholion i fynd rhagddo ym mhob dalgylch yng ngorllewin Cymru.
Adnodd am ddim yw hwn, sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer dalgylchoedd ACA Tywi, Teifi a Cleddau. Bydd yn eich cynorthwyo i ddeall effaith eich datblygiad drwy gadarnhau cyllideb ffosffad y datblygiad arfaethedig, gan eich galluogi i ystyried y gofynion lliniaru. Rydym wedi llunio dogfen Ganllaw ar gyfer y Gyfrifiannell i'ch helpu i ddefnyddio'r gyfrifiannell. Rydym hefyd wedi creu Dogfen Dechnegol sy'n esbonio o ble y casglwyd y data a sut mae’r cyfrifiadau wedi'u gwneud. Lluniwyd canllawiau lliniaru ar wahân ar gyfer pob dalgylch. Mae’r rhain i’w gweld yma:
Canllawiau Lliniaru Gorllewin Cymru
Er nad yw'n ofynnol i chi ddefnyddio'r gyfrifiannell hon, rydym yn eich annog yn gryf i wneud hynny. Bydd unrhyw geisiadau a gyflwynir gan ddefnyddio cyfrifianellau amgen yn destun craffu ychwanegol i benderfynu pa mor berthnasol ydynt i'r amodau yn y sir.
Os yw'r ateb yn gadarnhaol i'r cwestiynau canlynol:
- 1
- 2 a 3
- 2 a 4
bydd angen defnyddio cyfrifiannell cyfrifo maetholion i asesu a fydd y datblygiad yn cynyddu'r llwyth maetholion mewn safle Ewropeaidd ac a yw'r datblygiad o fewn dalgylch sy'n draenio i safle Ewropeaidd yr effeithir arno.
- A yw'r datblygiad o fewn dalgylch sy'n draenio i safle Ewropeaidd yr effeithir arno?
- A yw'r gwaith trin dŵr gwastraff sy'n derbyn y dŵr yn rhyddhau i safle Ewropeaidd yr effeithir arno.
- A fydd y datblygiad yn arwain at gynnydd mewn aros dros nos?
- A fydd y datblygiad yn arwain at gynnydd yn nifer y cwsmeriaid/defnyddwyr neu weithwyr sy'n dod i ddalgylch yr afon ACA o'r tu allan i'r dalgylch i weithio (yn y cyd-destun hwn, y diffiniad o ddefnyddiwr yw person a all ddefnyddio gwasanaeth neu gyfleusterau a ddarperir gan y datblygiad heb gael ei ystyried yn uniongyrchol yn gwsmer)?
Sut mae'n gweithio
Yn syml, ewch ati i fewnbynnu'r wybodaeth sy'n benodol i'ch datblygiad ac i'r safle i'r gyfrifiannell ac ewch drwy'r camau. Darparwyd cyfarwyddiadau i'ch helpu.
Bydd y gyfrifiannell yn cynhyrchu ffigwr ffosfforws mewn cilogramau fesul blwyddyn. Gellid defnyddio'r ffigwr terfynol i'ch helpu i ystyried eich opsiynau lliniaru o ran ffosfforws. Fodd bynnag, ni fydd y gyfrifiannell yn amcangyfrif faint o dir sydd ei angen ar gyfer unrhyw fath o liniaru oherwydd y newidynnau niferus mewn datrysiadau seiliedig ar natur a all amrywio yn dibynnu ar waith cynnal a chadw, aeddfedrwydd ac amodau safle-benodol arfaethedig.
Fideo fersiwn Cymraeg i dod cyn bo hir.
Ymwadiad
Nid yw'r Awdurdod Lleol yn derbyn atebolrwydd am unrhyw niwed, colled neu anghyfleustra uniongyrchol neu anuniongyrchol a achosir drwy lawrlwytho a/neu ddefnyddio'r Gyfrifiannell Cyfrifo Maetholion.
Bydd y gyfrifiannell yn cael ei hadolygu a'i diweddaru'n rheolaidd i sicrhau ei bod yn cael ei seilio ar y dystiolaeth orau posibl ac yn adlewyrchu'r amodau lleol yn gywir. Cyfeiriwch at y Canllaw Technegol i gael esboniad o'r setiau data a'r fethodoleg a ddefnyddir yn y gyfrifiannell. Os oes gennych unrhyw sylwadau, rhowch wybod inni drwy anfon neges e-bost at blaengynllunio@sirgar.gov.uk
Mesurau Lliniaru
Mae ein Canllaw Lliniaru yn amlinellu opsiynau posibl ar gyfer lliniaru ffosffad, ac mae'n cynnwys stribedi o Dir Clustog a Gwlyptiroedd. Bydd angen i fesurau o'r fath adlewyrchu amgylchiadau safle-benodol.
Mae'n rhaid i unrhyw fesurau lliniaru a fwriedir i osgoi neu liniaru effeithiau ffosfforws posibl ddangos eu bod yn seiliedig ar y 'dystiolaeth orau sydd ar gael', yn effeithiol 'y tu hwnt i amheuaeth resymol', wedi'u seilio ar amcangyfrifon 'rhagofalus', ac yn rhai y gellir eu sicrhau 'am byth' (80-125 mlynedd).
Rhaid i'r mesurau arfaethedig gael eu gorfodi'n gyfreithiol hefyd.
Ar gyfer pob mesur, mae angen i ni dderbyn gwybodaeth:
- sy'n nodi sut byddai'r mesur(au) yn osgoi neu'n lleihau effeithiau andwyol ar yr ACA (gan ystyried am ba hyd y rhagwelir bydd yr effeithiau'n para);
- sy'n dangos sut byddai'r mesur(au) yn cyflawni niwtraliaeth o ran maetholion;
- sy'n cadarnhau sut bydd y mesur(au) yn cael eu gweithredu, a chan bwy;
- sy'n nodi sut bydd y mesur yn cael ei gynnal a phwy fydd yn gyfrifol am waith cynnal a chadw;
- sy'n dangos sut y bydd y mesur yn cael ei fonitro i sicrhau ei fod yn effeithiol.
Mae rhagor o wybodaeth am fesurau lliniaru ar gael yng Nghyngor Cynllunio Ffosffad diweddaraf CNC.
Y Camau Nesaf
- Rydym yn sefydlu Grŵp Cyngor Technegol i adolygu tystiolaeth ac i fodelu senarios a chynigion a gaiff eu cyflwyno i'r Byrddau Rheoli Maetholion i'w cymeradwyo.
- Rydym yn y broses o sefydlu Grŵp Rhanddeiliaid Afonydd. Bydd yn gweithredu fel un grŵp traws-ranbarthol. Mae aelodaeth o'r grŵp hwn yn agored, ac rydym yn croesawu pob cyfraniad i helpu i hwyluso newid adeiladol a pharhaol ar gyfer iechyd afonydd. Bydd manylion pellach, yn cynnwys gwybodaeth am ymuno, yn cael eu rhoi ar y dudalen hon pan fyddant ar gael.
- Mae'r heriau sydd ynghlwm wrth fynd i'r afael â llygredd ffosffad yn gymhleth, a does dim ateb hawdd. I gael atebion fydd yn para, bydd angen cydweithio ag Awdurdodau Lleol cyfagos, Dŵr Cymru, y sector ffermio, CNC, Llywodraeth Cymru a chyrff amgylcheddol. Bydd cydweithio a rhannu gwybodaeth â phawb yn digwydd yn rheolaidd drwy gyfarfodydd rhanbarthol a chyfarfodydd Cymru gyfan.
- Ymchwilir i raglen Liniaru Strategol sy'n sicrhau bod cymaint o liniaru ag sy'n bosibl yn digwydd ac sy'n darparu budd hynny drwy gyfnewidfa gredyd. Bydd hyn yn cael gwared ar lawer o'r rhwystrau lliniaru y mae datblygwyr yn gorfod mynd i'r afael â nhw.
Rydym yn cydnabod bod y sefyllfa hon yn rhwystredig i ddatblygwyr - rydym am weithio gyda chi i ddod o hyd i atebion sy'n gwella cyflwr ein hafonydd, sy'n ddichonadwy ac y gellir eu rhoi ar waith yn gyflym ac yn llwyddiannus. Rydym am ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl sy'n cynrychioli adeiladwyr tai, cyflogwyr, y gymuned ffermio, preswylwyr, grwpiau amgylcheddol a mwy i drafod y materion hyn.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio'n rhagweithiol i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl ac i ganfod ateb i'r broblem hon. Rydym yn flaenllaw wrth gynllunio'n strategol a chydnabod yr angen am weithredu'n gyflym ac effeithiol, gan osod esiampl i weddill Cymru.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dechrau cyhoeddi eu hadolygiad o drwyddedau gwaith trin dŵr gwastraff (GTDG). Mae cyfyngiad Ff yn cael ei gymhwyso i safleoedd nad oedd ganddynt unrhyw yn y gorffennol. Gellir gosod cyfyngiadau Ff tynnach ar drwyddedau GTDG lle mae cyfyngiad eisoes yn bresennol. Efallai na fydd unrhyw newid i cyfyngiadau Ff presennol mewn rhai safleoedd. Mae'r cyfyngiad newydd o 5mg/l yn berthnasol i safleoedd sydd â llif tywydd sych o <20m3/dydd.
Cwestiynau Cyffredin
Mae ffosfforws yn elfen ac yn digwydd yn naturiol fel ffosfforws anorganig ac organig sy'n cynnwys cyfansoddion. Mae ffosffad yn gyfansoddyn a dyma'r math mwyaf bioavailable o ffosfforws. Yn naturiol, mae'n digwydd mewn lefelau isel ac mae'n faethyn hanfodol ar gyfer pob bywyd organig.
Gall crynodiadau gormodol o ffosffad mewn afonydd ysgogi proses a elwir yn ewtroffigedd. Caiff y broses hon effaith ddinistriol ar iechyd afonydd ac ecosystemau dŵr. Gall maetholion gormodol, ar ffurf ffosffad, ysgogi blodau algaidd. Mae blodau algaidd yn atal golau'r haul rhag treiddio'r dŵr. Heb olau'r haul ni all planhigion dyfrol ffotosyntheseiddio, felly maent yn marw o ganlyniad ac mae microbau'n resbiradu ar y mater organig sy'n dadelfennu. Yn ystod ffotosynthesis, mae planhigion yn cynhyrchu ocsigen y mae bywyd dyfrol yn dibynnu arno i anadlu. Pan fydd microbau'n resbiradu ar blanhigion marw a charthffosiaeth, maent yn defnyddio ocsigen. Mae dyfroedd diocsigenedig yn achosi i organebau dyfrol fel pysgod farw trwy fogi. Mae ewtroffigedd yn chwalu ecosystemau cyfan, a'r canlyniad yw corff dŵr sy'n 'farw' yn y bôn.
Prif ffynonellau ffosfforws yw amaethyddiaeth (gwrteithiau a thail) a charthffosiaeth dŵr gwastraff (carthffosiaeth, gwastraff bwyd, glanedyddion). Mae Dŵr Cymru wrthi'n cynnal adolygiad o ffynonellau Ffosffad. Bydd hyn yn helpu i lywio ein dull gweithredu yn well a gwybod ble i osod strategaethau lliniaru penodol. Gallwch weld y data dosrannu ffynonellau yma.
Mae'r mathau o ddatblygiadau y gellid effeithio arnynt yn cynnwys (nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth a gellid ei hadolygu):
- Unedau preswyl newydd gan gynnwys tai, safleoedd/lleiniau sipsiwn a theithwyr;
- Atyniadau twristiaeth a datblygiadau masnachol lle darperir llety dros nos;
- Datblygiadau masnachol neu ddiwydiannol mawr newydd lle bydd cwsmeriaid yn cael eu denu o'r tu allan i'r dalgylch megis safleoedd manwerthu mawr, cyfleusterau cynadledda, neu atyniadau twristaidd mawr;
- Datblygiad amaethyddol, gan gynnwys hysbysiadau ymlaen llaw (datblygiad nad oes angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer, ond lle mae angen i'r awdurdod cynllunio lleol gadarnhau ei fod yn cael ei ganiatáu) gan gynnwys ysguboriau ychwanegol a storfeydd slyri sy'n debygol o arwain at gynnydd mewn anifeiliaid;
- Hysbysiadau ymlaen llaw am newid defnydd swyddfa yn gartref ac adeilad amaethyddol yn gartref.
Mae canllawiau a chyngor pellach ar gael ar Dudalen Cyngor Cynllunio Ffosffad CNC.
Os yw eich cais cynllunio o fewn dalgylch afon ACA, bydd angen i chi:
- Penderfynu a oes modd diystyru'r datblygiad yn un annhebygol o gael effaith sylweddol ar ACA afon mewn perthynas â mewnbynnau ffosfforws. Gelwir y cam hwn yn 'Prawf yr Effaith Arwyddocaol Debygol (TLSE)'. Cyfeiriwch at 'Pa fath o ddatblygiadau yr effeithir arnynt?' Os ydych yn teimlo na fydd eich cais yn cael effaith sylweddol, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth i ni i gefnogi hyn.
- Os na ellir diystyru'r datblygiad, bydd angen i chi gyfrifo'r llwyth ffosffad ychwanegol o'r datblygiad arfaethedig gan ddefnyddio'r Gyfrifiannell Cyfrifo Maetholion. Mae canllaw ysgrifenedig a fideo i'ch helpu i ddefnyddio'r gyfrifiannell.
- Yna bydd angen i chi gyflwyno Cynnig Lliniaru sy'n dangos sut bydd y ffosffad ychwanegol a gynhyrchir yn cael ei liniaru. Gweler y canllawiau Lliniaru i gael gwybodaeth fanwl am y mesurau mwyaf priodol y gellid eu defnyddio yn Sir Gaerfyrddin.
Gallech dynnu eich cais yn ôl ac aros am gynnydd pellach o ran atebion neu siarad â'ch swyddog cynllunio i gytuno ar estyniad i'ch cais.
Gallech hefyd arfer eich hawl i apelio os nad oes penderfyniad wedi'i wneud ar ôl wyth wythnos o'r adeg y cofrestrwyd/dilyswyd eich cais, ond bydd yr Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn ystyried effeithiau'r datblygiad ar lefelau ffosffad.
Rydym hefyd yn eich cynghori i gadw llygad ar gynnydd eich cais ar ein system a chofrestru i gael diweddariadau.
Gall estyniadau domestig ddarparu mwy o le byw mewn eiddo sy'n bodoli eisoes. Efallai na fyddant yn arwain at newid yn nifer y deiliaid, ac, yn ein barn ni, byddai'n ymddangos yn rhesymol i estyniadau domestig gael eu diystyru ym mhrawf yr effaith arwyddocaol debygol. Ein barn ni yw, oni bai y byddai'r cynnig yn arwain at greu llety byw'n annibynnol, uned gynllunio ar wahân a/neu newid mewn defnydd, lle na ellir dweud mwyach ei fod yn ategol i'r brif breswylfa, mae datblygiadau o'r fath yn annhebygol o arwain at effeithiau sylweddol ar ACA drwy newidiadau o ran gollwng dŵr gwastraff. Fodd bynnag, gall cynigion sy'n arwain at greu llety byw'n annibynnol fel uned gynllunio ar wahân arwain at gynnydd mewn deiliadaeth gan drigolion o'r tu allan i ddalgylch afon ACA, ac yn yr achosion hyn, mae angen asesu cynigion ymhellach.
Fel arfer, nid ystyrir ei bod yn amgylcheddol dderbyniol gosod cyfleuster trin carthion preifat mewn ardaloedd lle mae prif garthffosydd oherwydd bod mwy o risg o fethu, a allai arwain at lygredd.
Mae canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru yn nodi, lle y bo'n bosibl, y dylid gollwng dŵr gwastraff brwnt datblygiad newydd i garthffos gyhoeddus.
Os oes modd dangos, oherwydd cost a/neu faterion ymarferol, nad yw cysylltu â charthffos gyhoeddus yn bosibl, yna gellid ystyried gwaith trin dŵr gwastraff preifat - neu system gwaredu carthion nad yw'n cysylltu â phrif garthffos.
Sylwch fod yn rhaid i chi gael trwydded amgylcheddol, neu gofrestru esemptiad gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, i weithredu system ddraenio breifat. Ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru fel arfer yn rhoi trwydded gollwng dŵr ar gyfer system trin carthion breifat lle mae'n rhesymol cysylltu â'r garthffos dŵr brwnt gyhoeddus.
I gael mwy o wybodaeth am ddefnyddio gwaith trin preifat mewn perthynas â chael gwared â ffosffad, cyfeiriwch at Dudalen Cyngor Cynllunio Ffosffad CNC.
Pan fydd newid o ddefnydd masnachol presennol (neu ddefnydd di-breswyl arall) i ddefnydd preswyl, tybir y bydd hyn yn arwain at gynhyrchu mwy o ddŵr gwastraff ac felly bydd mwy o faethynnau yn cael eu gollwng i waith trin dŵr gwastraff.
Mae capasiti gan waith trin dŵr gwastraff o'r fath, a phan gyrhaeddir y capasiti hwn nid oes ffordd hawdd o greu mwy o le. Mae hyn yn creu mwy o risg o orlwytho a allai gynyddu faint o faethynnau sy'n cael eu gollwng i gyrsiau dŵr.
Felly, bydd angen cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a rhoi mesurau lliniaru ar waith ar gyfer y math hwn o newid defnydd.
Mae afonydd iach yn cefnogi cadernid cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a'r gallu i addasu i newid. Rydym am gael atebion sy'n gwella amgylcheddau naturiol bioamrywiol ac yn hyrwyddo ecosystemau iach. Rydym am weithio gyda grwpiau amgylcheddol a grwpiau afonydd i ddod o hyd i atebion a byddem yn croesawu eich cyfranogiad. Cysylltwch â'n Swyddog Rheoli Maetholion drwy anfon e-bost at blaengynllunio@sirgar.gov.uk
Ystyr lliniaru yw dod o hyd i ffordd o atal llygredd ffosffad rhag mynd i mewn i ddyfrffyrdd a warchodir. Gall mesurau gynnwys rheoli ffynonellau llygryddion, adfer ecosystemau sydd wedi'u difrodi, rheoli dalgylchoedd, a nodweddion fel Systemau Draenio Cynaliadwy a chlustogfeydd afonydd y gellir eu defnyddio i hidlo dŵr ffo amaethyddol ac arwain at welliant. Mae mesurau lliniaru sydd agosaf at ffynhonnell llygredd ffosffad yn well.
Ystyr gwrthbwyso yw cymryd camau i leihau faint o ffosfforws sy'n cael ei gynhyrchu er mwyn gwneud iawn am lefelau uwch mewn mannau eraill.
Er enghraifft, ym myd amaeth cynhyrchir ffosffad drwy daenu gwrtaith ac wrth i anifeiliaid bori ar dir amaethyddol. Mae dŵr glaw yn cario'r ffosffadau hyn i gyrsiau dŵr, yn enwedig ar dir sydd ar oleddf. Gallai peidio â defnyddio darn o dir amaethyddol atal ffosffadau rhag cael eu hychwanegu gan greu mesur gwrthbwyso.
Byddai'r arwynebedd o dir sydd ei angen i wrthbwyso cartrefi newydd yn dibynnu ar ddaeareg a graddiant y tir, a pha mor ddwys y cafodd ei ffermio.
Oes, ac maent yn seiliedig ar natur yn bennaf. Gall y mater fod yn gymhleth ac mae amrywiaeth o fesurau (megis cael gwared ar ffosffad yn y ffynhonnell, lliniaru a gwrthbwyso) yn cael sylw ar hyn o bryd yn ôl y dalgylch a'r safle penodol.
Mae datblygiadau amaethyddol newydd sy'n cynnwys storio, rheoli a gwasgaru deunydd organig, ac sydd o fewn dalgylch Ardal Cadwraeth Arbennig afonol, yn gallu cyfrannu at faint o ffosfforws sy'n mynd i mewn i'r safle dynodedig. Mae'n debygol yr effeithir ar ddatblygiadau o'r fath a bydd angen rhoi mesurau lliniaru ar waith.
Mae mesurau rheoli maethynnau, tir, tail a chynefinoedd y gellir eu rhoi ar waith i leihau faint o ffosffad sy'n mynd i mewn i afonydd o ffynonellau gwasgaredig. Mae newidiadau y gellir eu gwneud ar unwaith hefyd, er enghraifft codi ffensys ar hyd glannau afonydd i atal anifeiliaid rhag mynd i mewn i'r afonydd.
Hoffem archwilio syniadau ynghylch rheoli dalgylchoedd gyda'r gymuned ffermio. Cysylltwch â'n Swyddog Rheoli Maetholion drwy anfon e-bost at blaengynllunio@sirgar.gov.uk
Bydd, yn anffodus. Yn y lle cyntaf, gohiriwyd adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol i ailasesu a mynd i'r afael â goblygiadau dyraniadau o fewn dalgylchoedd sensitif o ran ffosffad.
Yn ddiweddar rydym wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ein hail Gynllun Datblygu Lleol diwygiedig Adneuo ac, yn unol â'r undeb Cyflawni a gadarnCythawyd gan Lywodraeth Cymru, rydym yn gobeithio ei fabwysiadu ddiwedd 2024. Yn ogystal â chanllawiau ffosffad, mae'n adlewyrchu ac yn ymateb i Adferiad Covid-19, yr Argyfyngau Hinsawdd a Natur datganedig, Mapiau Llifogydd Diwygiedig Nodyn Cyngor Technegol newydd 15, a Chymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040.
Mae rhai ardaloedd (a elwir yn safleoedd Ewropeaidd) yn cael eu diogelu gan Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 fel y'u diwygiwyd (a elwir yn Rheoliadau Cynefinoedd). Mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA).
Os cynigir datblygiad mewn ardal o'r fath, rhaid i ni gynnal asesiad o dan y Rheoliadau Cynefinoedd, a elwir yn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, i brofi a allai'r cynnig niweidio nodweddion dynodedig y safle yn sylweddol.
Byddai'r 'asesiad priodol' yn ystyried effeithiau andwyol posibl cynllun neu brosiect (mewn cyfuniad â chynlluniau neu brosiectau eraill).
Cynllunio
Cwestiynau Cyffredin - Cynllunio
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig
Chwilio am gais cynllunio
Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
Cyflwyno cais cynllunio
Gwasanaeth cyn cyflwyno cais
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Sut y gwneir penderfyniadau cynllunio
Systemau Draenio Cynaliadwy
Torri rheolau cynllunio
Adeiladu tŷ newydd
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Brosiectau Cynllunio Mawr
Apeliadau cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Cynllunio Ecoleg
- Canllaw i Ymgynghorwyr Ecolegol
- Budd Net i Fioamrywiaeth
- Rhywogaethau a chynefinoedd a warchodir
- Targedau ffosffad newydd
Adeiladau rhestredig
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
Enwi a rhifo strydoedd
Ynni Adnewyddadwy
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Adroddiad yr Arolygydd a Mabwysiadu'r Cynllun
- Cyflwyno'r Cynllun, ac Archwiliad Annibynnol
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Cyntaf
Caniatâd cynllunio i ddatblygwyr
- Adran 106: Cartrefi Fforddiadwy
- Adran 106: Rhwymedigaethau Cynllunio
- Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Gwnewch gais am arian Adran 106
Cadwraeth a chefn gwlad
Gwastraff
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Clefyd coed ynn
- Bywyd Gwyllt yn eich Ward
Ardaloedd cadwraeth
Mwy ynghylch Cynllunio