Perthi uchel
Gan ein bod yn Awdurdod Lleol, rydym wedi derbyn pwerau o dan ran 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 i ystyried cwynion ynghylch perthi uchel, ac i gynorthwyo trigolion sy’n pryderu am uchder perth.
Cyn i ni fedru ymwneud ag achos, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod wedi ceisio datrys problem gyda chymydog, er enghraifft, cofnod ysgrifenedig o unrhyw sgyrsiau neu gyfarfodydd.
Gall perth addas fod yn ffin ddelfrydol i ardd a helpu i ddenu bywyd gwyllt newydd yno, ond gall y berth anghywir achosi effeithiau annymunol i chi neu i’ch cymdogion, megis ymsuddiant a cholli golau.
Mae Rhan 8 o’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn galluogi’r Cyngor i chwarae rhan yn y gwaith o farnu a yw ‘mwynhad rhesymol’ o’ch eiddo yn dioddef effaith niweidiol yn sgil uchder perth uchel. Yn y mwyafrif o achosion bydd hynny’n digwydd pan fo perth yn atal golau rhag cyrraedd eich eiddo.
Gall y cyngor chwarae rhan o dan yr amgylchiadau canlynol:
- chi yw perchennog neu feddiannwr cyfredol eiddo domestig
- mae’r berth yn un lled-fythwyrdd neu fythwyrdd
- mae’r pryder ynghylch y berth yn ymwneud â’i huchder
- mae’r berth dros 2 fetr o uchder o’i mesur o’r ddaear
- mae eich ymdrechion i ganfod ateb gyda’ch cymydog wedi methu
Ni all y cyngor wneud y canlynol:
- ymwneud â’r achos os yw eich pryder ynghylch y berth yn gysylltiedig ag ymsuddiant neu faterion eraill nad ydynt yn gysylltiedig â’i huchder;
- gofyn i’r berth gael ei chlirio’n llwyr
- mynnu bod y berth yn cael ei thorri i uchder llai na 2 fetr
- rhoi pwerau i chi dorri perth eich cymydog
Mae gwefan gov.uk yn darparu canllawiau clir ar gyfer dod i gysylltiad â’ch cymydog pan fydd anghydfod.
Cyn cwyno’n ffurfiol am berth, mae’n ofynnol i chi geisio datrys pethau gyda’ch cymydog yn gyntaf.
Dylid cofnodi’r broses hon a rhaid cyflwyno manylion gyda’ch cais cyn i’r cyngor fedru ymwneud â’r achos.
Bydd eich cais yn cael ei ddychwelyd os na wnaed ymdrechion rhesymol i ddatrys y mater gyda’ch cymydog.
Mae’r Dros Berth yr Ardd yn helpu i nodi’r camau y mae angen eu cymryd. Mae’r rhain yn cynnwys ceisio defnyddio cyfryngwr annibynnol.
Mae Perthi Uchel: Cyflwyno Cwyn i’r Cyngor, yn egluro beth fydd yn digwydd os bydd y cyngor yn ymwneud â’r achos.
Mae’r ffurflen gais a’r nodiadau cyfarwyddyd yn cynnwys gwybodaeth am y ffïoedd a’r broses y byddech yn dod yn rhan ohoni petaech yn dymuno i ni ymwneud â’r mater.
Mae gan y naill barti neu’r llall yr hawl i apelio yn erbyn pa benderfyniad a wnawn. Mae gwybodaeth am y broses apelio ar gael ar wefan Gov.uk.
Oes, mae’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn galw am ffi o £120, a fydd yn talu am gost y gwaith gan swyddogion y cyngor.
Nid oes gweithdrefn ar gyfer hawlio’r ffi yn ôl oddi wrth berchennog y berth. Unwaith caiff cais ei dderbyn, ni ellir ad-dalu’r ffi.
Unwaith mae wedi derbyn cwyn ac wedi ystyried a ydyw’n bodloni’r profion cyfreithiol, bydd y cyngor yn ysgrifennu i egluro’r broses.
Byddwn yn cyhoeddi manylion y camau mae’n barnu eu bod yn angenrheidiol mewn ‘rhybudd adfer’ ffurfiol, a all gynnwys:
- y camau i’w cymryd
- amserlen ar gyfer y gwaith
- neu gamau ataliol i sicrhau nad yw’r effaith niweidiol yn digwydd eto.
Tra bod y rhybudd adfer mewn grym bydd yn bridiant tir lleol ac yn rhwymo pob person sy’n berchennog neu feddiannwr presennol ar y tir a bennir yn y rhybudd.
Gall rhybudd adfer gael ei newid, ei dynnu’n ôl, neu gall y cyngor hepgor neu leddfu un o ofynion y rhybudd.
Cynllunio
Chwilio am gais cynllunio
Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
Cyflwyno cais cynllunio
Caniatâd cynllunio i berchnogion tai
Gwasanaeth cyn cyflwyno cais
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Adeiladu tŷ newydd
Sut y gwneir penderfyniadau cynllunio
Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB)
Gorfodi cynllunio
Apeliadau cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Cyngor ecoleg
Adeiladau rhestredig
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
Enwi a rhifo strydoedd
Ynni Adnewyddadwy
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd a Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Adroddiad yr Arolygydd a Mabwysiadu'r Cynllun
- Cyflwyno'r Cynllun, ac Archwiliad Annibynnol
- Cynllun Adnau
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
Caniatâd cynllunio i ddatblygwyr
Canol Tref Llanelli Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Gwnewch gais am arian Adran 106
Cadwraeth a chefn gwlad
Gwastraff
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Cyfeirlyfr bioamrywiaeth
- Map o’r prosiectau bioamrywiaeth
- Clefyd coed ynn
Cwestiynau Cyffredin - Cynllunio
Mwy ynghylch Cynllunio