Gwasanaeth cyn cyflwyno cais

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/09/2023

Os oes angen caniatâd cynllunio, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth cyngor cyn gwneud cais cyn cyflwyno eich cais i ni.

Mae'r ffioedd y gellir eu codi am wasanaethau cyn-ymgeisio statudol yn gyson drwy Gymru, er eu bod yn amrywio a dibynnu ar faint a graddfa'r datblygiad arfaethedig.

Mae'r rheoliadau'n mynnu ein bod ni'n ymateb yn ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod i bob deisyfiad cyn-ymgeisio, os na fydd yr awdurdod a'r ceisydd yn cytuno i estyn y cyfnod hwnnw.

Dylai datblygiadau gan ddeiliaid tai fan leiaf ddisgwyl cael y wybodaeth a ganlyn yn eu hymateb ysgrifenedig:

  • Hanes cynllunio perthnasol y safle
  • Polisïau'r cynllun datblygu perthnasol a ddefnyddir wrth asesu'r cynnig datblygu
  • Canllawiau cynlluniau atodol perthnasol (h.y. dylunio, cadwraeth ac ati)
  • Unrhyw ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill
  • Asesiad cychwynnol o'r datblygiad arfaethedig, ar sail y wybodaeth uchod

Ar gyfer pob cynnig datblygu arall, dylai ceiswyr gael yr holl wybodaeth a restrir uchod, yn ogystal ag a yw'n debygol y gofynnir am unrhyw gyfraniadau Adran 106 neu Ardoll Seilwaith Cymunedol ac amcangyfrif o hyd a lled a swm y cyfraniadau hyn.  Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr gyflwyno adroddiad ymgynghori cyn ymgeisio ar gyfer yr holl geisiadau llawn neu amlinellol am gynigion 'mawr'.

Os na fydd y ceisydd wedi talu'r ffi briodol, ni fydd yn rhaid i'r Awdurdod Cynllunio Lleol dderbyn ffurflen deisyfu gwasanaeth cyn-ymgeisio.

Os, yn ein barn ni, y cyflwynir ffurflen deisyfu gwasanaeth cyn-ymgeisio heb y ffi gywir, byddwn yn esbonio i'r ymgeisydd cyn gynted ag sy'n bosibl, ar ffurf ysgrifenedig, na all y gwasanaeth cyn-ymgeisio ddechrau nes bod y ffi gywir wedi'i derbyn a nodi faint sy'n ddyledus.

Os telir ffi i ni ond bod y deisyfiad cyn-ymgeisio wedyn yn cael ei wrthod am ei fod yn annilys am ryw reswm ac eithrio bod y ffi anghywir wedi'i thalu, rhaid ad-dalu'r ffi honno.

gwneud cais ar-lein Ffioedd

 

Mae'n rhaid cyflwyno'r ffi gywir gyda'ch cais neu fel arall ni fydd yn ddilys ac ni chaiff unrhyw waith ei wneud o ran prosesu ac asesu eich cais.

Dulliau talu

Bydd angen i chi ddarparu'r manylion canlynol wrth dalu - math o gais, cyfeirnod y cais neu enw a lleoliad y cais os nad oes cyfeirnod gennych eto, a'r ffi gywir.

  • Ar-lein - Talu ar-lein ar yr un pryd ag y byddwch yn cyflwyno eich ffurflen gais, dyma'r ffordd fwyaf effeithlon o dalu a bydd yn osgoi unrhyw oedi wrth brosesu eich cais.
  • Dros y ffôn - Rydym yn derbyn cardiau debyd Maestro neu Visa. Os hoffech siarad ag aelod o staff o'r tîm arianwyr, ffoniwch 01267 228686 yn ystod oriau swyddfa, 9 o'r gloch - 5 or'gloch.
  • Drwy'r post - Gwnewch eich siec yn daladwy i 'Cyngor Sir Caerfyrddin' a'i phostio i'r cyfeiriad isod: Y Gwasanaethau Cynllunio, Swyddfeydd y Cyngor, Heol Cilgant, Llandeilo, SA19 6HW.
  • Yn bersonol - Gallwch dalu ag arian parod, cerdyn credyd/debyd neu siec yn eich hwb gwasanaeth cwsmeriaid yn Rhydaman, Caerfyrddin neu Lanelli.
  • Taliad BACS - anfonwch neges e-bost at planningregistrations@sirgar.gov.uk i gael rhagor o fanylion a sefydlu taliad BACS.

Os byddwch yn dewis talu dros y ffôn, drwy'r post, yn bersonol neu drwy BACS, ni fydd eich cais yn cael ei brosesu nes bod y taliad wedi'i gysoni a fydd yn achosi ychydig o oedi.

Cynllunio