Sut y gwneir penderfyniadau cynllunio

Diweddarwyd y dudalen ar: 30/08/2023

Gellir penderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio ar sail y materion hynny sy'n berthnasol i gynllunio yn unig (ystyriaethau perthnasol). Mae'r rhai mwyaf cyffredin o'r rhain yn cynnwys:

  • Effaith ar draffig, mynediad, diogelwch ffyrdd a pharcio
  • Maint, golwg ac effaith ar yr ardal o gwmpas ac ar y cymdogion cyfagos
  • Colli golau
  • Edrych dros eiddo arall a cholli preifatrwydd
  • Effaith ar gadwraeth natur a cholli coed
  • Effaith ar Adeiladau Rhestredig a/neu Ardaloedd Cadwraeth
  • Rhywbeth sy'n groes i bolisi'r Cyngor
  • Sŵn a tharfu'n deillio o'r modd y caiff ei ddefnyddio
  • A fyddai'r defnydd a wneir yn briodol i'r ardal

Yn aml mae pobl yn dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch materion na ellir eu hystyried oherwydd nad ydynt yn cael eu rheoli gan ddeddfwriaeth gynllunio. Mae'r gwrthwynebiadau cyffredin yn cynnwys:

  • Gostwng gwerth eiddo
  • Colli golygfa
  • Materion preifat rhwng cymdogion megis anghydfodau ynghylch waliau cydrannol, difrodi eiddo, hawliau tramwy preifat, cyfamodau neu gyffelyb
  • Problemau sy'n gysylltiedig â gwaith adeiladu megis sŵn, llwch a tharfu gan gerbydau adeiladu (os ydych yn cael y problemau hyn mae'n bosibl y gall Tîm Iechyd yr Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd fod o gymorth)
  • Cystadlu rhwng cwmnïau
  • Materion saernïol a rhagofalon tân (yn cael eu rheoli gan ddeddfwriaeth rheoli adeiladu)
  • Mathau eraill o ddatblygiad y gallech chi fod yn eu ffafrio.

Mae gan reolwyr cynllunio bwerau i benderfynu ynghylch rhai ceisiadau a byddant hwy'n ystyried eich sylwadau ysgrifenedig. Os bydd angen i gais gael ei ystyried gan Bwyllgor, bydd swyddogion cynllunio yn ysgrifennu adroddiad sy'n cynnwys argymhelliad a chrynodeb o'r sylwadau a ddaeth i law. Cyflwynir yr adroddiad i'r Pwyllgor priodol, a fydd yn cynnwys Cynghorwyr wardiau etholedig.

Mewn rhai amgylchiadau mae'n bosibl y cewch gyfle i siarad mewn cyfarfod o'r pwyllgor. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch siarad yn y cyfarfodydd hyn, cysylltwch â'r swyddog cynllunio sy'n ymdrin â'r cais, cyn gynted â phosibl. Bydd y Pwyllgor yn ystyried eich sylwadau ynghyd â'r materion cynllunio eraill sy'n ymwneud â'r achos. Nid oes rheidrwydd ar y Pwyllgor i dderbyn argymhelliad y swyddog cynllunio. Gall roi neu wrthod caniatâd cynllunio. 

Gallwch ddilyn hynt y cais cynllunio ar-lein a gweld dogfennau cysylltiedig, gan gynnwys yr hysbysiad penderfyniad. 

Dod o hyd i gais cynllunio

Cynllunio