Sut y gallai targedau maetholion newydd effeithio ar eich datblygiad
Yn yr adran hon
- Y Camau Nesaf
- Cwestiynau Cyffredin Maetholion
- Prosiect Dalgylch Arddangos Teifi
- Effaith canllawiau CNC ar Asesiadau Amonia
Effaith canllawiau CNC ar Asesiadau Amonia
Sut mae Canllawiau CNC ar Asesiadau Amonia yn effeithio ar ddatblygiadau lle mae caniatâd cynllunio yn ofynnol
Ym mis Chwefror 2024 cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ganllawiau wedi'u diweddaru ar asesiadau amonia ar gyfer allyriadau i'r awyr ar gyfer datblygiadau lle mae trwydded neu ganiatâd cynllunio yn ofynnol.
Daw allyriadau amonia yn yr awyr yn bennaf (>90%) o Amaethyddiaeth a gallant effeithio'n andwyol ar yr amgylchedd a chael effeithiau negyddol ar iechyd pobl. Mae amonia yn nwy adweithiol iawn a all ryngweithio â chyfansoddion eraill i ffurfio llygryddion i ffwrdd o'r ffynhonnell wirioneddol.
Mae canllawiau CNC yn amlinellu pa fath o ddatblygiadau sy'n rhyddhau amonia, ac felly efallai y bydd angen cynnal asesiad amonia. Mae'r datblygiadau y mae hyn yn effeithio arnynt yn cynnwys:
- Datblygiadau amaethyddol sy'n cynnwys cynnydd mewn da byw, treuliad anaerobig neu daenu ar dir.
- Ceisiadau newydd am weithgareddau masnachol y byddai terfyn amonia yn ofynnol yn eu trwydded amgylcheddol.
Os oes disgwyl i'ch datblygiad arfaethedig allyrru amonia, darperir canllawiau ar sut i gynnal asesiad sgrinio gan ddefnyddio offeryn o'r enw SCAIL, ac asesiad modelu manwl os oes angen.
Mae canllawiau CNC yn darparu dolen i wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth am Lygredd Awyr a all roi gwybodaeth i chi am werthoedd cefndir amonia ar eich safle datblygu arfaethedig. Bydd y wybodaeth hon yn hanfodol i'w hystyried, ochr yn ochr â gwybodaeth am ffynonellau amonia cyfagos eraill, wrth gwblhau'r broses asesu amonia ar safleoedd sensitif. Rhaid cynnal asesiad modelu manwl lle mae gwerth cefndir amonia eisoes ar y lefelau neu'n uwch na'r lefelau sy'n achosi niwed i rywogaethau ar safleoedd sensitif.
Mae rhannau o ddalgylch Afonydd Cleddau yn Sir Benfro, un o'n hafonydd Ardal Cadwraeth Arbennig, wedi dangos methiannau cyson o ran ansawdd dŵr ar gyfer amonia, fel y dangosir yn adroddiad cydymffurfio CNC a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024. Mae Cyngor Sir Penfro, fel Awdurdod Lleol, yn gyfrifol am gynnal Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 drwy reoleiddio datblygiad mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig er mwyn peidio ag achosi niwed i safleoedd sydd eisoes yn methu â bodloni safonau ansawdd dŵr. Fodd bynnag, mae CNC wedi cynghori nad oes angen Niwtraliaeth Maetholion mewn perthynas â gollyngiadau amonia o ddatblygiad arfaethedig. Y rheswm am hyn yw bod terfynau amonia tynnach yn cael eu gosod ar ollyngiadau elifiant a ganiateir o Weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff mewn dalgylchoedd sy'n methu yn y Cleddau. Gall datblygiadau gael eu cymeradwyo o ran effeithiau amonia lle mae gan y Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff hyn y gallu i dderbyn cysylltiadau newydd a pharhau i fodloni eu terfynau amonia a ganiateir.
Mae tudalen CNC hefyd yn darparu canllawiau ar beth i'w wneud os bydd eich cynnig yn lleihau allyriadau amonia neu lygredd.