Sut y gallai targedau maetholion newydd effeithio ar eich datblygiad
Y Camau Nesaf
- Rôl y Grŵp Cyngor Technegol is-ranbarthol yw casglu, coladu a dadansoddi data a ddefnyddir i gyflwyno opsiynau i'w cymeradwyo gan y Byrddau. Mae'r Grŵp Cyngor Technegol yn cydweithio i greu Cynllun Rheoli Maetholion ar gyfer pob dalgylch. Y tri gweithgor gweithredol â ffocws yw Gweithgor Amaethyddol TAG, Gweithgor Gwyddoniaeth Amaeth TAG, Gweithgor Gwyddoniaeth Dinasyddion TAG a Gweithgor Monitro TAG. I gael rhagor o wybodaeth ac am aelodaeth, cysylltwch â chrichards@sirgar.gov.uk
-
Mae Grŵp Rhanddeiliaid Afonydd hefyd wedi cael ei sefydlu drwy Fyrddau Rheoli Maetholion Gorllewin Cymru ar y cyd. Bydd yn gweithredu fel un grŵp traws-ranbarthol. Mae aelodaeth o'r grŵp hwn yn agored, ac rydym yn croesawu pob cyfraniad i helpu i hwyluso newid adeiladol a pharhaol ar gyfer iechyd afonydd. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r grŵp hwn, cysylltwch â Swyddog Cymorth y Bwrdd Rheoli Maetholion drwy e-bost - chrichards@sirgar.gov.uk am ragor o wybodaeth.
-
Mae'r heriau sydd ynghlwm wrth fynd i'r afael â llygredd maetholion yn gymhleth, a does dim ateb hawdd. I gael atebion fydd yn para, bydd angen cydweithio ag Awdurdodau Lleol cyfagos, Dŵr Cymru, y sector ffermio, CNC, Llywodraeth Cymru a chyrff amgylcheddol. Bydd cydweithio a rhannu gwybodaeth â phawb yn digwydd yn rheolaidd drwy gyfarfodydd rhanbarthol a chyfarfodydd Cymru gyfan.
- Rydym yn gweithio gyda'r Byrddau Rheoli Maetholion i gynhyrchu fideo addysgol byr ar reoli maetholion mewn lleoliad defnydd tir gwledig a monitro a gwyddoniaeth dinasyddion.
- Rydym wedi cynorthwyo'r Byrddau Rheoli Maetholion i lunio tri Chynllun Rheoli Maetholion, un ar gyfer pob dalgylch afon. Nod Cynllun Rheoli Maetholion yw nodi ffynonellau maetholion gormodol mewn afonydd, cyfrifo'r maetholion sydd angen eu tynnu, awgrymu ffyrdd o leihau'r llygredd hwn, gydag allbynnau clir a fframiau amser penodol wedi'u dyrannu i bob rhanddeiliad. Bydd Cynllun Rheoli Maetholion hefyd yn nodi unrhyw fylchau mewn gwybodaeth. Bydd y Cynlluniau Rheoli Maetholion yn darparu meysydd cyfle strategol i alinio â faint o dynnu maetholion sydd ei angen ynghyd â'r manteision ehangach posibl y gellid eu darparu. Bydd yn ddogfen fyw sy'n cael ei diweddaru wrth i wybodaeth newydd gael ei darparu. Bydd technoleg platfform yn cael ei chroesawu i dargedu buddsoddiadau, ysgogi newid ymddygiad a chasglu data gwirioneddol wedi'i ddilysu.
- Ymchwilio i lwyfan masnachu credydau maethynnau, talu am wasanaethau ecosystem a masnachu cyfalaf naturiol. Bydd hyn yn cael gwared ar lawer o'r rhwystrau lliniaru y mae datblygwyr yn gorfod mynd i'r afael â nhw.
- Ceisio cymorth gan fanwerthwyr a'r diwydiant am eu rôl mewn rheoli a lliniaru maetholion a sut y gallant ddylanwadu ar newid ymddygiad a llwyddiant strategaethau lliniaru. Bydd amcanion cynaliadwyedd corfforaethau o fudd i ffermwyr, ac mae ffermwyr yn hanfodol i'r corfforaethau sy'n cyflawni'r amcanion hyn. Byddai buddsoddi ar y cyd mewn technoleg platfform yn datgloi'r anghymesuredd rhwng data a gedwir ar ffermydd a chyllidebau a ddelir gan gorfforaethau. Rydym o'r farn mai hwn yw'r cyfrwng gorau ar gyfer cyflawni newid system a arweinir gan ffermwyr, a gefnogir yn ariannol gan y corfforaethau wrth fodloni gofynion adrodd meintiol.
- Ymgysylltu â gweithredwyr, hyrwyddwyr a llunwyr polisi’r farchnad i weld sut y gellir ysgogi a hysbysebu strategaethau lliniaru maetholion o ran marchnata cynnyrch. Mae'n rhaid i unrhyw ymyrraeth gorfforaethol ar fferm ystyried cyd-destun unigryw pob fferm a chefnogi newid gyda buddsoddiad priodol a rhannu risg.
Rydym yn cydnabod bod y sefyllfa hon yn rhwystredig i ddatblygwyr - rydym am weithio gyda chi i ddod o hyd i atebion sy'n gwella cyflwr ein hafonydd, sy'n ddichonadwy ac y gellir eu rhoi ar waith yn gyflym ac yn llwyddiannus. Rydym am ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl sy'n cynrychioli adeiladwyr tai, cyflogwyr, y gymuned ffermio, preswylwyr, grwpiau amgylcheddol a mwy i drafod y materion hyn.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio'n rhagweithiol i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl ac i ganfod ateb i'r broblem hon. Rydym yn flaenllaw wrth gynllunio'n strategol a chydnabod yr angen am weithredu'n gyflym ac effeithiol, gan osod esiampl i weddill Cymru.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dechrau cyhoeddi eu hadolygiad o drwyddedau gwaith trin dŵr gwastraff (GTDG). Mae cyfyngiad Ff yn cael ei gymhwyso i safleoedd nad oedd ganddynt unrhyw yn y gorffennol. Gellir gosod cyfyngiadau Ff tynnach ar drwyddedau GTDG lle mae cyfyngiad eisoes yn bresennol. Efallai na fydd unrhyw newid i cyfyngiadau Ff presennol mewn rhai safleoedd. Mae'r cyfyngiad newydd o 5mg/l yn berthnasol i safleoedd sydd â llif tywydd sych o <20m3/dydd.