Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin
3 Heol Spilman, Caerfyrddin, SA31 3LE
- 01267 234567
- galw@sirgar.gov.uk
Gwybodaeth Ychwanegol
Cadwch bellter cymdeithasol
Er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid a staff yn ddiogel, bydd rhai newidiadau i'r canolfannau Hwb yn awr yn achos y rheiny sydd angen cyngor wyneb yn wyneb:
- Dim ond un cwsmer all fod yn bresennol ar gyfer pob ymweliad (dau os ydynt yn dod o'r un cartref ac angen cymorth yn ystod yr ymholiad.)
- Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb y tu mewn i'r adeilad bob amser.
- Er mwyn cadw pellter cymdeithasol, bydd nifer y cwsmeriaid a ganiateir tu mewn i'r adeilad yn llai a bydd ciwio'n digwydd tu fas i'r adeilad.
- Bydd sgriniau amddiffynnol a phwyntiau diheintio yno.
- Bydd y desgiau arian yn Rhydaman a Llanelli ar agor i gymryd taliadau am y dreth gyngor, ardrethi busnes, rhenti Cyngor, dirwyon parcio, taliadau llety dros dro, ffioedd trwyddedu, rheoliadau adeiladu a ffioedd cynllunio. Cofiwch bydd y desgiau arian ar gau rhwng 1pm a 1.45pm bob dydd.
- Er mwyn lleihau'r posibilrwydd fod y feirws yn lledaenu, ni fydd mynediad at gyfrifiaduron na ffonau yn ystod yr ymweliad.
- Drysau awtomatig yn y fynedfa
- Dolen sain symudol
Y meysydd parcio cyhoeddus agosaf:
- Maes Parcio San Pedr. Arhosiad Hir ac Arhosiad Byr. Lleoedd parcio i bobl anabl ar gael.
- Maes Parcio Heol Ioan. Arhosiad Hir ac Arhosiad Byr. Lleoedd parcio i bobl anabl ar gael.
- Maes Parcio Heol Las. Arhosiad Byr. Lleoedd parcio i bobl anabl ar gael.