Gofalwyr ifanc ac Oedolion Ifan sy'n Ofalwyr
Diweddarwyd y dudalen ar: 21/02/2024
Mae Gofalwyr Ifanc yn blant neu bobl ifanc o dan 18 oed sy’n gofalu am rywun yn eu teulu sydd â salwch, anabledd, iechyd meddwl gwael neu broblemau gyda chyffuriau neu alcohol. Efallai eu bod yn cymryd cyfrifoldebau gofalu ymarferol a/neu emosiynol y byddai oedolyn yn eu cyflawni fel arfer.
Gallai’r person y maent yn gofalu amdano fod yn:
- mam neu dad
- brawd neu chwaer
- taid neu nain neu berthynas arall
Gallai’r cymorth y mae gofalwr ifanc yn ei ddarparu cynnwys:
- gwaith tŷ, coginio a siopa
- gofalu am frodyr a chwiorydd iauhelpu rhywun i ymolchi a gwisgo
- sicrhau bod y person y maent yn gofalu amdano yn ddiogel
- siarad ag asiantaethau eraill (er enghraifft, y meddyg) am y person y maent yn gofalu amdano
- rhoi meddyginiaeth
- rhoi cymorth emosiynol
Nid yw bob amser yn hawdd bod yn ofalwr ifanc. Dyma rai o’r problemau y gallai gofalwyr ifanc eu hwynebu:
- anawsterau gyda'r ysgol a gwneud gwaith cartref
- dim digon o amser i weld ffrindiau
- poeni am y person y maent yn gofalu amdano
- teimlo'n wahanol i eraill
- pobl eraill ddim yn deall sut beth yw bod yn ofalwr ifanc/gofalwr sy'n oedolyn ifanc
Mae oedolion ifanc sy'n gofalu yn ofalwyr rhwng 16 a 25 oed. Efallai eu bod yn jyglo eu cyfrifoldebau gofalu gyda:
- gofynion addysg bellach neu uwch
- chwilio am waith neu lywio'r system budd-daliadau
- dechrau eu bywydau gwaith
- perthynas emosiynol ddifrifol
Mae yna wasanaethau sy'n cefnogi gofalwyr ifanc/oedolion ifanc sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin. Mae pob gwasanaeth yn cynnig cymorth unigol yn seiliedig ar yr anghenion a nodwyd gan y Gofalwr ifanc. Gall hyn gynnwys: cefnogaeth 1-1, cefnogaeth grŵp cyfoedion a/neu eiriolaeth.