Gofalwyr ifanc

Diweddarwyd y dudalen ar: 24/01/2018

A oes gan rywun yn eich teulu anabledd corfforol neu anabledd dysgu, salwch angheuol, problem iechyd meddwl, neu a ydynt yn yfed gormod neu’n cymryd cyffuriau?

  • A ydych chi’n pryderu am hyn neu heb fod yn gwybod beth i’w wneud?
  • A ydych chi’n teimlo’n unig, yn ddig, yn isel eich ysbryd, neu wedi danto?
  • A ydych chi’n ei chael yn anodd dal i fyny â’ch gwaith ysgol?
  • A ydych chi’n teimlo bod arnoch angen help?

I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, e-bostiwch Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin neu ffoniwch 01554 742630. Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Sir Gaerfyrddin a leolir yn Llanelli hefyd yn darparu ystod eang o wybodaeth, gallwch ffonio nhw ar 0300 0200 002 neu os byddai'n well gennych, ymweld â nhw yn Uned 3 Y Cledrau, 96 Heol y Frenhines Victoria, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 2TH.