Tocynnau Theatr am Ddim

Diweddarwyd y dudalen ar: 22/05/2023

Gall Gofalwyr Di-dâl a Gofalwyr Ifanc hawlio Tocyn Theatr o'u dewis AM DDIM rhwng Mai 2023 a Mawrth 2024

Dilynwch y broses i hawlio tocyn sioe theatr am ddim:

  • Cynghorir Gofalwyr / Gofalwyr Ifanc i gysylltu â'r swyddfa docynnau i ofyn am eu tocynnau am ddim, naill ai drwy fynd i unrhyw un o'n swyddfeydd tocynnau (Y Ffwrnes neu'r Lyric), ar y ffôn 0345 2263510, neu drwy e-bost theatrau@sirgar.gov.uk.
  • Bydd angen i Ofalwyr / Gofalwyr Ifanc ddangos prawf eu bod yn Ofalwr / Gofalwr Ifanc ar adeg archebu (naill ai drwy ddod â'ch Cerdyn Adnabod Gofalwyr i'r swyddfa docynnau neu anfon e-bost atom gyda sgan/llun).
  • Un tocyn am ddim ar gael i bob gofalwr / gofalwr ifanc
  • Wedyn bydd ein swyddfa docynnau yn rhoi eich tocyn am ddim i chi ar gyfer y sioe rydych wedi'i dewis.

Mae cronfa gyfyngedig i gefnogi'r fenter hon felly pan fydd y gronfa wedi'i gwario ni fydd mwy o docynnau am ddim ar gael. (Y cyntaf i’r felin gaiff falu)
Ariannwyd gan Lywodraeth Cymru