Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
Yn yr adran hon
- Rheoli Eiddo a Chyllid
- Eiriolaeth
- Taliadau Gohiriedig
- Anfonebu am Daliadau
- Methu Taliadau a Dyled
- Amddifadu o Asedau
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Parhaol/Dros Dro i Gartref Gofal
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Seibiannol/Byrdymor i Gartref Gofal
- Cymhwyso'r Rheolau i Achosion Unigol
- Adolygiadau a Dulliau Apelio
- Atodiad 1 - Amrywiadau/Addasiadau i Daliadau am Wasanaethau sy'n Deestun Asesiad Ariannol
- Atodiad 2 - Rheolau Gweithredol ar Gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau Gofal a Chymorth
Lleoliadau Preswyl
9. Lleoliadau Preswyl
Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl am bob lleoliad mewn cartref gofal, beth bynnag fo'r gwasanaeth neu hyd y gwasanaeth, onid yw wedi'i ddiffinio yn y ddeddfwriaeth fel un lle na cheir codi tâl amdano.
Y tâl a godir fydd cost lawn cost y lleoliad fesul noson, am leoliadau mewn cartref gofal. Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl am bob noson yr asesir y bydd y person ag anghenion gofal a chymorth i dderbyn y gwasanaeth. Codir y gyfradd diwrnod llawn am ddefnyddio gwasanaeth am ran o ddiwrnod. Codir tâl ar berson ag anghenion gofal a chymorth ar y diwrnod derbyn, ond ni codir tâl arno am y diwrnod rhyddhau.
Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi ffi weinyddol ar breswylwyr y mae eu cyfalaf hylifol yn fwy na’r trothwy cyfalaf ac a allai drefnu eu lleoliad cartref gofal eu hunain (neu fod person sydd ag awdurdod cyfreithiol i weithredu ar ran y person a allai drefnu’r lleoliad).
Bydd Sir Gaerfyrddin yn parhau i godi tâl ar berson ag anghenion gofal a chymorth yn yr amgylchiadau canlynol:
- Derbyn i’r ysbyty – Os bydd person ag anghenion gofal a chymorth yn cael ei dderbyn i'r ysbyty, a'r lleoliad cartref gofal yn cael ei gadw, parheir i godi tâl gan y person ag anghenion gofal a chymorth am eu cyfraniad yn seiliedig ar asesiad ariannol, tra bônt yn absennol o'r cartref gofal.
Os bydd y Cyngor yn lleihau'r taliad i'r cartref gofal i gyfradd sy'n llai na chyfraniad y person yn seiliedig ar asesiad ariannol, bydd y Cyngor yn lleihau cyfraniad y person yn unol â hynny.
Pan fo'r absenoldeb yn hwy na 28 diwrnod, bydd Sir Gaerfyrddin yn cadw'r hawl i ailasesu anghenion y person a/neu derfynu'r lleoliad yn y cartref gofal.
Os oes Cost Ychwanegol am y lleoliad, parheir i godi tâl am hynny tra bo'r person yn absennol o'r cartref gofal.
- Rhyddhau dros dro o gartref gofal, gyda’r bwriad o breswylio’n barhaol yn y gymuned – Pan fydd person y mae ei anghenion gofal a chymorth fel arfer wedi'u bodloni mewn cartref gofal dros dro/parhaol yn cael ei ryddhau dros dro o'r cartref gofal, gyda golwg ar droi'r sefyllfa honno'n sefyllfa barhaol, parheir i godi tâl gan y person am ei leoliad yn y cartref gofal, tra bo'r lleoliad yn cael ei gadw. Gall y swm a godir gan y person am ei leoliad ostwng, i roi ystyriaeth i gostau ychwanegol a ysgwyddir tra bo'n absennol o'r cartref gofal (ee, bwyd, cyfleustodau), lle ceir tystiolaeth o'r costau hynny, a lle nad oes gan y person ddigon o fodd i dalu'r costau ei hun.
Bydd hyn yn weithredol am uchafswm o 4 wythnos, a lle bo Sir Gaerfyrddin wedi cytuno ymlaen llaw i'r absenoldeb o'r cartref gofal. Pan fo'r absenoldeb yn hwy na 28 diwrnod, bydd Sir Gaerfyrddin yn cadw'r hawl i ailasesu anghenion y person a/neu derfynu'r lleoliad yn y cartref gofal.
Os asesir bod angen gofal a chymorth ar y person tra bo'n absennol o'r cartref gofal, ni chodir am y gwasanaethau hynny gan y byddant yn parhau i orfod talu am y lleoliad cartref gofal a gedwir.
Os oes Cost Ychwanegol am y lleoliad, parheir i godi tâl am hynny tra bo'r person yn absennol o'r cartref gofal.