Amser gyda'n gilydd
Diweddarwyd y dudalen ar: 24/10/2024
Prosiect Amser Gyda'n Gilydd
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Cymru yn cynnig Seibiannau Byr i Gofalwyr - amser gyda'n gilydd. Mae hwn ar gael os ydych yn gofalu am berthynas, cymydog neu ffrind ac yn cael trafferth dod o hyd i amser i chi'ch hun.
Mae y Prosiect Amser Gyda'n Gilydd yn deall y gall cael seibiant o ofalu wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd a lles gofalwyr di-dâl, a’ch gallu a’ch parodrwydd i barhau i ofalu.
Gall y staff arbenigol eich helpu i gael mynediad at amrywiaeth o opsiynau ar gyfer seibiannau byr gyda’r person rydych yn ofalu amdano neu hebddo.
Gall y Prosiect Amser Gyda'n Gilydd helpu i drefnu seibiant byr personol, hyblyg ac ymatebol, i helpu i ailwefru eich batris.
Gall gofalwyr gael mynediad at ystod o grantiau i ariannu cyfleoedd i gael seibiant byr gyda ffrindiau neu aelodau’r teulu, yn ogystal â micro grantiau llai ar gyfer gweithgareddau hunanofal i wella eu hiechyd a’u lles, ac ansawdd eu bywyd
Mae'r proiect yn cynnig rhaglen o Weithgareddau Lles er mwyn i ofalwyr gwrdd â gofalwyr eraill, gyda’r bobl maent yn gofalu amdanynt a hebddynt, er mwyn ymlacio.
Rydych yn gallu gwneud apwyntiad i siarad â’n Swyddog Seibiannau Byr a dechrau trefnu eich seibiant.
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Cymru ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau 9yb-5yh a dydd Gwener 9yb-4.30yh
Am fwy o wybodaeth cysylltwch:
Ffon: 0300 0200 002
E-bost: info@ctcww.org.uk
Wefan CTCWW
Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Camddefnyddio cyffuriau / alcohol
A ydych chi'n poeni am oedolyn/blentyn? (1)
Sut i gysylltu â ni
Cyfleoedd dydd
Dementia
Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid
Anabledd ac Awtistiaeth
Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
Taflenni gwybodaeth
Mynd yma ac acw
Opsiynau Tai
Sut i gael help
Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol
Mwy ynghylch Gofal Cymdeithasol ac Iechyd