Wythnos y Gofalwyr: 8 - 14 Mehefin 2026
Diweddarwyd y dudalen ar: 08/06/2026
Wythnos y Gofalwyr yw ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu, a chydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau ledled y DU.
Thema Wythnos y Gofalwyr 2026 yw ‘Adeiladu Cymunedau Cyfeillgar i Ofalwyr’. Bydd hyn yn amlygu’r effaith y gall cymunedau sy’n gyfeillgar i ofalwyr ei chael wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i fywydau gofalwyr ym mhobman.
Bydd amrywiaeth o weithgareddau’n cael eu cynnal yn Sir Gâr yn ystod Wythnos Gofalwyr 2026. Gweler y tabl isod am fanylion.
Am ragor o wybodaeth:
📞 Ffôniwch: 03000 200 002
📧 E-bost: info@ctcww.org.uk
| Dyddiad ac Amser | Gweithgaredd | Cyfarwyddiadau Archebu |
| Llun 8 Mehefin | Bore Coffi i Ofalwyr yn Neuadd Gymunedol Eglwys y Drindod Sanctaidd, Church Lane, Castell Newydd Emlyn – 10.00yb – 12.00yp | Galw heibio – nid oes angen archebu lle |
| Taith Dywys o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, wedi’i dilyn gan luniaeth – 11.30yb – 2.00yp | Archebu’n ofynnol – neu ffôn: 0300 0200 002 |
|
| Sesiwn Cyflwyniad a Chyfeiriadedd Grŵp Parkinson yn y Ganolfan Living Well, Caerfyrddin – 2.00yp – 4.00yp | Galw heibio – nid oes angen archebu lle | |
| Stondin Swyddog Gofalwyr Rhyddhau o’r Ysbyty @ Ysbyty Llanymddyfri, rhwng 2.30yp – 5.00yp (prif fynedfa’r ward) | Galw heibio – nid oes angen archebu lle | |
| Mawrth 9 Mehefin | Egwyl Traeth a BBQ ym Mae St. Elli, Llanelli / Doc y Gogledd – 6.00yp – 8.00yp (cyfarfod anffurfiol i ofalwyr, BBQ a gemau traeth hwyl) | Archebu’n ofynnol – neu ffôn: 0300 0200 002 |
| Stondin Gwybodaeth Gwasanaeth Rhyddhau o’r Ysbyty @ Ysbyty Glangwili – 10.00yb – 3.00yp | Galw heibio – nid oes angen archebu lle | |
| Gweithdy Argraffu Botanegol i Ofalwyr yn y Lantern Centre, Llanelli – 10.00yb – 12.00yp | Archebu’n ofynnol - 0333 121 1332 or via email - carersincarms@adferiad.org |
|
| Mercher 10 Mehefin | Parc Dinefwr – taith gerdded dan arweiniad Ceidwad, 1.00yp – 3.00yp, gan gynnwys pwll y felin i weld gweision y neidr a thaith o Dŷ Dinefwr, wedi’i dilyn gan luniaeth | Archebu drwy Adferiad – 0333 121 1332 neu carersincarms@adferiad.org |
| Stondin Gwybodaeth Gwasanaeth Rhyddhau o’r Ysbyty tu allan i Costa @ Ysbyty Tywysog Philip – 9.30yb – 2.30yp | Galw heibio – nid oes angen archebu lle | |
| Iau 11 Mehefin | Gofalu mewn Byd Digidol i Ddechreuwyr – trosolwg o dechnoleg i gefnogi eich rôl ofalu. Hyfforddwr Digidol ar gael i helpu gyda chwestiynau technoleg – 10.30yb – 12.30yp, Neuadd Pensiynwyr Rhydaman (gyda lluniaeth) | Cofrestru neu alw heibio |
| Materion Ariannol – MOT i Ofalwyr: cyngor arbenigol ar gymorth ariannol, grantiau, gostyngiadau a budd-daliadau – 1.00yp – 3.00yp, Neuadd Pensiynwyr Rhydaman (gyda lluniaeth) | Cofrestru neu alw heibio | |
| Crafty Crusaders yng Ngerddi Botaneg Genedlaethol Cymru – sesiwn greadigol gyda Arts Care Gofal Celf – 1.30yp | Archebu’n ofynnol - 01267 243815 | |
| Gwener 12 Mehefin | Bore Coffi i Ofalwyr a Chwrdd â Thimau Gwaith Cymdeithasol Lleol – Llyfrgell Llanelli – 11.00yb – 3.00yp | Galw heibio – nid oes angen archebu lle |
| Stondin Gwybodaeth CCISS yn Waterstones, Caerfyrddin (yn ddibynnol ar y tywydd) | Galw heibio – nid oes angen archebu lle |
|
| Iau 18 Mehefin | Digwyddiad Stand Together – tu allan i Gapel Seion, Island Place, Llanelli – Côr PSU, Drymio Affricanaidd, stondinau gwybodaeth a siaradwyr | Galw heibio – nid oes angen archebu lle |
