Menter Cymdeithasol

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/09/2023

Mae mentrau cymdeithasol yn fusnesau sy'n rhoi buddiannau pobl a'r blaned o flaen elw neu eu budd eu hunain, gyda'i gilydd yn ceisio gwella amcanion cymdeithasol neu amgylcheddol. Mae nhw'n creu cyflogaeth ac yn ail-fuddsoddi eu helw yn ôl i'w busnes neu i'r gymuned leol.  Mae mentrau cymdeithasol yn ein cymunedau ac ar ein strydoedd mawr – o siopau coffi a sinemâu i dafarndai a chanolfannau hamdden, banciau ac ymddiriedolaethau.  Maent yn gweithredu dros ystod o sectorau gan gynnwys addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, chwaraeon a hamdden ac adloniant.

Mae mentrau cymdeithasol wedi, ac yn parhau i wneud cyfraniad mawr iawn i sicrhau cymunedau cynaliadwy a chydlynol yn Sir Gaerfyrddin.  Ar draws y Sir mae gennym amrywiaeth o Fentrau Cymdeithasol yr ydym yn gweithio ochr yn ochr â nhw, pob un â gwahanol wasanaethau a chynhyrchion i'w cynnig.  Mae'r grwpiau hyn i'w gweld isod, ynghyd â rhai sefydliadau defnyddiol sy'n rhoi cyngor a chymorth i fusnesau cymdeithasol.