Canolfan y Mynydd Du

  • lluniau

Mae Canolfan y Mynydd Du yn ganolfan gymunedol, mae'n hwb cymunedol, mae'n fenter gymdeithasol ac yn sefydliad dielw. Yn 2004 agorwyd y ganolfan gyda 5 neu 6 o wirfoddolwyr, ers hynny mae wedi tyfu'n hwb cymunedol prysur iawn sy'n cynnig cyfoeth o gyfleusterau i ymwelwyr a chwsmeriaid busnes drwy gydol y flwyddyn. Mae'n cynnig canolfan groeso a bwyd cartref blasus, mynediad am ddim i'r rhyngrwyd, arddangosfeydd diddorol ynghylch treftadaeth, oriel ac ystafelloedd cynadledda.

Gwefan Canolfan y Mynydd Du