Arwyddion hawliau tramwy cyhoeddus
Y gwahaniaeth rhwng llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd
Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn agored i bawb. Gallant fod yn ffyrdd, yn llwybrau neu'n draciau a gallant fynd drwy drefi, cefn gwlad a thros eiddo preifat. Mae gennym dros 3100 o hawliau tramwy cyhoeddus unigol ac mae llawer ohonynt yn cael eu ddefnyddio at ddibenion hamdden - yn enwedig cerdded, beicio a marchogaeth.
Dewch i adnabod yr arwyddion a'r symbolau sy'n cael eu defnyddio yng nghefn gwlad...
Llwybrau Troed Cyhoeddus
Gall llwybrau troed cyhoeddus gael eu defnyddio gan:
- Cerddwyr, gan gynnwys y rhai sy'n gwthio pram/cadair wthio
- Defnyddwyr cadeiriau olwyn
- Sgwteri symudedd
Nid yw hyn yn golygu bod pob llwybr yn hygyrch i bob defnyddiwr o reidrwydd. Mae'r rhain wedi'u marcio â saeth felen.
Llwybrau Ceffylau
Gall llwybrau ceffylau gael eu defnyddio gan:
- Cerddwyr
- Marchogion
- Beicwyr
Mae'r rhain wedi'u marcio â saeth las.

Cilffyrdd
Mae cilffyrdd ar agor i unrhyw draffig. Cyfeirir at y rhain yn aml fel BOAT neu gilffyrdd. Gall y rhain gael eu defnyddio gan:
- Cerddwyr
- Beicwyr
- Marchogion
- Cerbydau – rhai sy'n cael eu tynnu gan geffylau a rhai modur, gan gynnwys beiciau modur.
Mae cilffyrdd yn cael eu defnyddio'n bennaf at yr un dibenion â llwybrau troed cyhoeddus a llwybrau ceffylau cyhoeddus, h.y. cerdded a marchogaeth. Er bod gan aelodau o'r cyhoedd hawliau cerbydol ar gilffordd, ni ddylent fel arfer ddisgwyl i'r llwybr gael arwyneb wedi'i selio (tarmac). Mae'r rhain wedi'u marcio â saeth goch.
Cilffyrdd cyfyngedig
Mae cilffordd gyfyngedig yn gategori cymharol newydd o Hawl Dramwy Gyhoeddus sy'n gallu cael ei defnyddio gan:
- Cerddwyr
- Marchogion
- Beicwyr
- Cerbydau difodur/cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau
Dim ond un gilffordd gyfyngedig sydd yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd. Mae Cilffyrdd Cyfyngedig wedi'u marcio â saeth borffor.

Chwilio am eich hawl dramwy gyhoeddus agosaf
Mae gennym ddyletswydd i osod arwyddbyst ar bob Hawl Dramwy Gyhoeddus lle mae'n gadael ffordd darmac. Mae gan yr arwyddbyst hyn, sy'n cael eu galw'n fynegbyst yn aml, faneri gwyrdd â llun gwyn. Rydym yn ceisio gosod arwyddbyst ar bob un o'n llwybrau mwyaf poblogaidd a hyrwyddo llwybrau. Fodd bynnag, oherwydd hyd y rhwydwaith ac, mewn rhai achosion, anghysondebau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r Map Diffiniol, nid oes arwyddbyst ar bob hawl dramwy.
Defnyddiwch ein map i chwilio am eich hawl dramwy gyhoeddus agosaf. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw nodi eich côd post, a dewis pa hawl dramwy rydych chi'n chwilio amdani, e.e. llwybr troed cyhoeddus, llwybr ceffylau.
Os ydych yn gwybod am lwybr lleol nad oes arwyddbyst wedi'u gosod arno, rhowch wybod i ni fel y gallwn ei gynnwys yn ein cylch gosod arwyddbyst nesaf. Gallwch wneud hyn drwy anfon e-bost at prow@sirgar.gov.uk.
EICH HAWL DRAMWY GYHOEDDUS AGOSAF
Parchu, Diogelu, Mwynhau!
Cofiwch barchu, diogelu a mwynhau cefn gwlad a dilyn y côd cefn gwlad.