Cwynion sŵn
Mae ein tîm bychan o swyddogion sydd â chymwysterau arbenigol cydnabyddedig ym maes acwsteg a rheoli sŵn yn delio â rhyw 1300 o gwynion ynghylch sŵn bob blwyddyn. Mae'r cwynion mwyaf cyffredin ynghylch sŵn yn cynnwys:
- Gweithgareddau crefft cartref
- Cŵn sy'n Cyfarth neu anifeiliaid swnllyd eraill
- Ffermydd Gwynt
- Prosesau masnachol neu ddiwydiannol
- Safleoedd adeiladu / dymchwel
- Tafarnau/clybiau neu fannau adloniant cyhoeddus eraill
- Cerddoriaeth
- Larymau byrgleriaid
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Hefyd mae rhai ffynonellau sŵn na ellir delio â nhw o dan ddeddfwriaeth, gan gynnwys:
- Defnydd arferol o eiddo rhywun, e.e. peiriant golchi, fflysio toiledau, cerdded i fyny ac i lawr grisiau ac ati
- Dadleuon / gweiddi / sgrechian
- Sŵn traffig ar ffyrdd cyhoeddus
- Cyfarth rhesymol gan gŵn
- Plant yn chwarae
Nid oes lefel sefydlog sy'n golygu bod sŵn yn mynd yn niwsans statudol, fel y diffinnir gan a.79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Rhaid rhoi ystyriaeth i nifer o ffactorau, megis pryd mae'r sŵn yn digwydd, hyd y sŵn, angenrheidrwydd y sŵn, lefelau sŵn, natur yr ardal ac ati.
Cwestiynau Cyffredin
Oherwydd niferoedd mawr y cwynion rydym yn eu derbyn, datblygwyd gweithdrefn er mwyn sicrhau bod pob cwyn yn derbyn sylw cyson a theg. Fel arfer, ni fyddwn yn rhoi sylw i gwynion a gyflwynir yn ddienw oherwydd bod angen asesu sut mae'r sŵn y cwynir yn ei gylch yn effeithio ar y person sy'n gwneud cwyn.
Os ydych yn cyflwyno cwyn, ni ddatgelir eich manylion i ffynhonnell y sŵn, ond gall fod rhaid eu darparu os bydd achos niwsans sŵn yn mynd i'r llys.
Byddwn yn asesu'r ffeithiau sy'n hysbys am yr achos, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth a gafwyd trwy fonitro, a byddwn yn dod i ddyfarniad rhesymedig ynghylch a yw'r sŵn y cwynir yn ei gylch yn cyfrif fel niwsans sŵn statudol ai peidio.
Nid yw hyn yn wir o gwbl. Mae barnu Niwsans Sŵn Statudol yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Er mai un ffactor yw amser o'r dydd, gallai sŵn gael ei ystyried yn Niwsans Statudol trwy gydol oriau'r dydd os bernir ei fod yn uchel, yn gyson a/neu'n eithaf aml.
Nid yw hyn yn wir o gwbl. Mae'n anodd iawn i ni brofi bod unrhyw beth y gellid ei ystyried yn ddefnydd rhesymol o eiddo rhywun, fel cau drysau, yn Niwsans Statudol. Fodd bynnag, mae yna amgylchiadau eithafol lle mae'n bosibl y byddwn yn gallu gweithredu, megis cau drysau yn glep neu guro cyson lle mae'n amlwg bod malais yn gysylltiedig.
Na, yn anffodus oherwydd problemau adnoddau nid yw gwasanaeth ‘tu allan i oriau’ pwrpasol yn bosibl.
Mae'n ddyletswydd Statudol ar yr Awdurdod Lleol i ymchwilio i'r holl gwynion sy'n dod i law ynghylch sŵn. Bydd swyddogion yn cynnal ymchwiliad cynhwysfawr, a allai olygu ymweld â'r achwynydd neu osod offer monitro sŵn yng nghartref yr achwynydd i asesu'r sŵn sy'n tarfu cyn penderfynu ar gamau gweithredu priodol, os o gwbl.
Na, nid ydym yn rhoi gwybod iddynt am unrhyw ddyddiadau nac amseroedd o ran monitro. Rydym yn rhoi gwybod i'r sawl y mae'r gŵyn wedi ei gwneud yn ei erbyn am ein hymchwiliad gyda'r nod o ddatrys y mater ar y dechrau, ond ni ddatgelir amserlen fonitro.
Mae'r offer fel arfer yn cael ei osod yn yr ystafell y mae'r sŵn yn tarfu fwyaf arnoch chi. Mae'n rhaid dewis ystafell yr ydych yn treulio llawer iawn o amser ynddi, ni fydd ceginau, ystafelloedd ymolchi a chynteddau yn addas. Mae modd hefyd gosod offer monitro yn yr ardd ar adegau, ond dim ond pan fydd y sŵn yn tarfu arnoch chi pan fyddwch y tu allan.
Na, dim ond pan fydd yr achwynydd yn pwyso'r botwm sbardun i nodi bod y sŵn yn tarfu arno y recordir sain, ac mae'n recordio am gyfnod cyn stopio. Gallwn eich sicrhau bod eich preifatrwydd yn ddiogel a dim ond pan fyddwch chi'n pwyso'r botwm sbardun y mae'r offer yn recordio.
Mae pobl yn pryderu weithiau bod angen gosod ein mesuryddion lefel sŵn ar wal neu osodiad mewn ystafell, gan arwain at ddifrodi'r eiddo. Nid yw hyn yn wir o gwbl, mae'r cit wedi'i osod ar drybedd broffesiynol ar ffurf camera a'r unig beth sydd ei angen arnom yw soced drydan ar gyfer cyflenwad pŵer er mwyn pweru'r offer.
Ar rai adegau, er gwaethaf ein hymdrechion gorau, ni ellir cymryd camau pellach ynghylch cwyn am sŵn. Gall hynny fod oherwydd ein bod ni o'r farn nad oes niwsans sŵn yn bodoli, neu oherwydd bod diffyg tystiolaeth i gynnal achos cryf. Rydym yn deall y gallech deimlo eich bod yn cael cam oherwydd nad ydym yn cymryd camau pellach, ond rydym yn eich cynghori, o dan A82 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, y gallwch chi gymryd camau drosoch eich hun mewn perthynas â niwsans sŵn statudol honedig.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael llawer o gwynion bob blwyddyn ynglŷn â cheiliogod yn canu.
Rydym yn deall bod canu yn beth naturiol i geiliog ei wneud, ond os bydd yn digwydd yn ystod oriau mân y bore neu am gyfnodau hir yn ystod y dydd, gallai hynny darfu ar eich cymdogion a chael ei ystyried yn Niwsans Sŵn Statudol fel y'i diffinnir gan adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Gall hyn fod yn arbennig o wir os yw'r ceiliog yn cael ei gadw mewn ardal breswyl adeiledig, lle mae'r achwynwyr yn byw yn agos at y ceiliog.
Bwriad y daflen hon yw darparu camau ymarferol er mwyn sicrhau bod eich ceiliogod yn cadw cyn lleied o sŵn â phosibl.
Clywed bod eich ceiliog yn canu gormod:
Rydym yn sylweddoli efallai y byddwch yn grac a/neu'n ypset pan fyddwch yn clywed i ddechrau fod cwyn wedi'i gwneud mewn perthynas â'ch ceiliog yn canu gormod. Mae'n bosibl y cewch wybod am y gŵyn gan eich cymydog a/neu'r Awdurdod Lleol.
Efallai mai hwn fydd y tro cyntaf y byddwch yn ymwybodol bod eich ceiliog yn canu gormod, felly ceisiwch beidio â chynhyrfu os bydd hyn yn digwydd. Ceisiwch ystyried y sefyllfa o safbwynt yr achwynydd.
Camau i'w cymryd i geisio lleihau'r sŵn gymaint â phosibl....
- Yn gyntaf, ystyriwch a oes angen y ceiliog arnoch ai peidio. Mae’n gamdybiaeth yn aml bod yn rhaid cael ceiliogod er mwyn i ieir allu dodwy wyau, ond nid yw hyn yn wir.
- Gwnewch yn siŵr bod y ceiliog mor bell â phosibl o gymdogion
- Gwnewch yn siŵr bod y cwt mor dywyll â phosibl er mwyn sicrhau bod y ceiliog yn cadw cyn lleied o sŵn â phosibl yn gynnar yn y bore
- Gostyngwch nenfwd y cwt i atal y ceiliog rhag taflu ei ben yn ôl a chanu.
- Gwnewch yn siŵr bod y cwt y mae'r ceiliog yn cael ei gadw ynddo yn seinglos.
- Gall cael mwy nag un ceiliog achosi iddynt gystadlu â'i gilydd a gwneud mwy o sŵn.
- Cadwch y ceiliog yn y cwt yn ystod y nos a hyd amser rhesymol yn ystod y bore, e.e. 7:30am yn ystod yr wythnos ac 8:00am ar y penwythnos.
Cofiwch, mewn rhai achosion, y gallai’r man lle mae'r ceiliog yn cael ei gadw fod mor anaddas (h.y. mor agos at eiddo preswyl) fel na fydd yr un o'r mesurau uchod yn ddigonol i leihau sŵn y ceiliogod. Os felly a bod eich ceiliog yn tarfu ar eich cymdogion, yna dylid ystyried cadw eich ceiliog mewn man arall.
Bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl ymgymryd â gwaith DIY o amgylch y tŷ rywbryd. Gallai hynny amrywio o waith ar raddfa fach megis gosod llun ar y wal i waith ar raddfa fwy megis adnewyddu eiddo’n llwyr. Mae pobl yn aml yn gorfod ymgymryd â'r math hwn o waith y tu allan i’w waith o ddydd i ddydd, sy’n golygu bod y gwaith DIY yn aml yn cael ei wneud gyda’r nos neu ar benwythnosau. Gall hyn, ynghyd â'r ffaith bod gwaith o'r math hwn yn gallu bod yn swnllyd, beri i gymdogion gwyno. Bwriad y daflen hon yw darparu rhai camau syml y gellir eu cymryd i geisio sicrhau eich bod yn tarfu cyn lleied â phosibl ar eich cymdogion.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau amser wedi'u nodi yn neddfwriaeth y DU o ran pryd y gellir neu na ellir ymgymryd â gwaith DIY. Nid yw hyn yn golygu bod gan bobl yr hawl i ymgymryd â gwaith o'r fath fel y dymunant, os yw'n debygol o darfu ar eu cymdogion. Wrth ymgymryd â'r gwaith, dylid rhoi ystyriaeth i'r sŵn y gallai’r gwaith ei greu a fydd yn tarfu ar gymdogion, trwy sicrhau bod cymdogion yn cael y seibiant sydd ei angen arnynt.
Amserau rhesymol i ymgymryd â gwaith DIY....
Amlinellir yr hyn y byddem yn ei ystyried yn amseroedd rhesymol i ymgymryd â gwaith DIY yn y rhan fwyaf o amgylchiadau isod:
- Dydd Llun – Dydd Gwener - 08:00 – 20:00
- Dydd Sadwrn - 09:00 – 19:00
- Dydd Sul - 10:00 - 17:00
Beth i'w wneud cyn dechrau gwaith DIY
Siaradwch â'ch cymydog cyn dechrau unrhyw waith DIY. Rhowch wybod iddo beth yr ydych yn bwriadu ei wneud, pa mor hir y bydd y gwaith yn debygol o bara, a'r amserau yr ydych yn bwriadu gweithio. Pan fyddwch wedi cytuno ar yr amserau hyn, peidiwch â'u newid. Rhowch sylw priodol i unrhyw bryderon sydd ganddo a chyfaddawdu lle bo'n bosibl er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn.
Rhowch eich rhif cyswllt iddo fel ei fod yn gallu cysylltu â chi os oes ganddo unrhyw bryderon neu gwynion yr hoffai eu trafod.
Ystyriaethau wrth ymgymryd â gwaith DIY....
- Radio - Mae gwaith DIY a gwrando ar gerddoriaeth/radio fel arfer yn mynd law yn llaw â'i gilydd. Dylech roi ystyriaeth i lefelau sŵn y radio/cerddoriaeth er mwyn sicrhau bod y sŵn yn tarfu cyn lleied â phosibl ar eich cymdogion.
- Waliau Cydrannol - Mae'n bosibl y bydd gwaith ar waliau cydrannol yn swnio'n uchel iawn i'ch cymydog a gall hyd yn oed tasgau tawelach megis llyfnu'r wal swnio'n uchel os cânt eu gwneud ar wal gydrannol. Felly dylech roi ystyriaeth i nifer y weithiau yr ydych yn ymgymryd â'r math hwn o waith er mwyn sicrhau bod y sŵn yn tarfu cyn lleied â phosibl ar eich cymdogion. Mae'n bosibl y bydd angen ichi hefyd fodloni gofynion y Ddeddf Waliau Cydrannol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Rheoliadau Adeiladu.
- Gwaith swnllyd - Ceisiwch ymgymryd â gwaith swnllyd megis drilio a morthwylio rhwng 10am – 4pm er mwyn lleihau tarfu ar eich cymdogion. Hefyd, bydd cael seibiant yn awr ac yn y man yn helpu'r sefyllfa.
- Offer - Gwnewch yn siŵr bod yr offer yr ydych yn eu defnyddio yn cael eu cynnal a'u cadw mewn modd priodol a'u bod yn addas i'r diben. Yn aml, bydd offer anghywir ar gyfer y dasg neu hen offer sydd mewn cyflwr gwael yn creu mwy o sŵn nag sy'n angenrheidiol.
Gwneud cwyn ynghylch sŵn...
Os bydd gwaith DIY yn tarfu arnoch, rydym yn eich cynghori, os yw'n ddiogel gwneud hynny, i fynd at eich cymydog a thrafod eich cwyn gyda nhw yn gyntaf. Os na fydd y mater yn cael ei ddatrys, mae croeso ichi gysylltu â ni ar 01558 825340, neu gallwch cyflwyno cwyn ar-lein ynghylch sŵn neu e-bostio diogelurcyhoedd@sirgar.gov.uk. Byddwn yn ymchwilio i'ch cwyn yn unol â'n gweithdrefn cwynion sŵn. Ein nod yw datrys cwynion yn anffurfiol lle bo hynny'n bosibl, ond mae gennym bwerau cyfreithiol pe bai'r sŵn yn ormodol ac yn Niwsans Statudol. Yn yr achosion hyn, byddwn yn ystyried cyflwyno rhybudd cyfreithiol i'r person sy'n gyfrifol, gan ofyn iddo gymryd mesurau i leihau'r sŵn, megis cyfyngu ar yr amseroedd y caniateir iddynt ymgymryd â'r gwaith.
- Lawrlwythwch y 'Noise App' ar iPhone / Android: Lawrlwythwch y canllaw i ddefnyddio'r 'Noise App' (.pdf)
- Cyflwyno cwyn ar-lein ynghylch sŵn
- E-bost: diogelurcyhoedd@sirgar.gov.uk
- Ffôn: 01267 234567
- Ysgrifennwch atom: Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, Ty Parc-Yr-Hun, Ffordd Y Rhyd, Rhydamman, Sir Gaerfyrddin, SA18 3FB
Rydym yn delio â chwynion sŵn sy'n deillio o leoliadau adloniant cyhoeddus, yn cynnwys tafarnau, clybiau, digwyddiadau awyr agored, ac achlysuron cysylltiedig â chwaraeon.
Mae gofyn bod gan fwyafrif y lleoliadau sy'n darparu adloniant drwydded i wneud hynny.
Rydym yn delio â llawer o faterion ac ymholiadau ynghylch ffermydd gwynt. Gall y rhain amrywio o generadur tyrbin gwynt bach domestig ar gyfer un eiddo, i ddatblygu fferm wynt ar raddfa fawr, sy'n cynhyrchu digon o ynni i fod o arwyddocâd cenedlaethol.
Datblygwyd gweithdrefn benodol i ymchwilio i gwynion ynghylch sŵn tyrbinau gwynt:
Ceir darpariaethau yn adrannau 60 a 61 o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974 er mwyn rheoli sŵn o safleoedd adeiladu neu ddymchwel.
Mae Adran 61 o'r Ddeddf yn galluogi person sy'n bwriadu gwneud gwaith ar safle adeiladu i wneud cais am ganiatâd ymlaen llaw. Mae camau y mae'n rhaid eu dilyn wrth ystyried cais am ganiatâd ymlaen llaw, a rhaid sicrhau bod digon o amser cyn cychwyn y gwaith er mwyn i ganiatâd gael ei roi. Os rhoddir caniatâd, bydd fel arfer yn cynnwys amodau y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn cyfyngu gymaint ag sy'n rhesymol bosibl ar y sŵn.
Ceir rhagor o wybodaeth am y broses hon ac amlinelliad o'r math o wybodaeth sydd angen arnom yn y ddogfen hon:
Mae llawer o gwynion ynghylch sŵn yn ymwneud â larymau byrgleriaid sy'n ddiffygiol neu'n seinio heb angen. Mewn achosion lle mae'r ffaith bod larwm yn seinio'n barhaus yn creu niwsans sŵn statudol, mae gennym bŵer i sicrhau gwarant er mwyn mynd i mewn i eiddo ac atal y larwm rhag seinio. Os cymerir y cam hwnnw, fe'i gwneir fel arfer yng nghwmni heddwas, ac arbenigwr ar larymau.
Er mwyn osgoi gorfod cael gwarant a mynd i mewn i eiddo trwy rym i ddelio â larwm diffygiol, rydym yn cadw cofrestr o ddeiliaid allweddi a enwebwyd ar gyfer eiddo sydd â larymau. Cofrestr gyfrinachol yw hon, ac mae'n golygu mai proses syml yw cysylltu â rhywun a all gynorthwyo gyda larwm diffygiol os yw perchennog y tŷ i ffwrdd.
Mwy ynghylch Iechyd yr Amgylchedd