Rheoli plâu
Nid ydym yn cynnig gwasanaeth rheoli plâu, ond rydym yn barod i gynnig cyngor.
Os ydych yn credu bod gennych broblem â phlâu ar eich tir, rydym yn argymell eich bod yn gofyn am gymorth gan arbenigwr rheoli plâu proffesiynol, a hynny am resymau iechyd a diogelwch, gan fod gwenwyn lladd llygod yn gallu bod yn beryglus i blant ac anifeiliaid anwes os nad yw'n cael ei drin yn y modd priodol.
Cysylltwch â ni os ydych chi'n credu bod y broblem yn cael ei hachosi gan eiddo sydd heb fod o dan eich rheolaeth. Byddwn yn ymchwilio i'ch cwyn, ac yn helpu i fynd i wraidd y mater. Gellir cymryd camau priodol i sicrhau bod perchennog y tir yn gwneud unrhyw waith sy'n ofynnol i gadw'r tir yn rhydd rhag plâu.
Mwy ynghylch Iechyd yr Amgylchedd