Ein Ffioedd a Thaliadau

Diweddarwyd y dudalen ar: 29/11/2022

Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am archebu a thalu am gopïau, cyhoeddiadau, digwyddiadau a'n gwasanaeth ymchwil.

Rhestr o Ffïoedd a ThaliadauRhestr o ffioedd a thaliadau am y gwahanol wasanaethau yr ydym yn eu cynnig.

Ffurflen Gais YmchwilFfurflen gais i'w hargraffu ar gyfer gwneud cais am wasanaethau ymchwil gan Archifau Sir Gaerfyrddin.

Ffurflen ArchebuPan fyddwch yn archebu copïau ar gyfer astudiaeth breifat neu ymchwil anfasnachol, mae'n rhaid i chi lofnodi datganiad sy'n nodi:

  • Na fyddwch yn torri unrhyw hawlfraint yn y ddogfen/dogfennau a gopïwyd.
  • Na fyddwch yn cyhoeddi dogfen a ddarparwyd yn wreiddiol ar gyfer astudiaeth breifat neu ymchwil anfasnachol heb ganiatâd ysgrifenedig gan Archifau Sir Gaerfyrddin.

Cofiwch fod y cyhoeddiad yn cwmpasu mwy na llyfrau. Mae defnyddio ein lluniau mewn darllediad cyhoeddus neu arddangosfa, ychwanegu ein lluniau at wefan arall neu eu postio ar gyfryngau cymdeithasol yn cyfrif fel cyhoeddiad, ac mae angen i chi wneud cais am ganiatâd a thalu ffi.

Ffurflen archebu ar gyfer atgynhyrchu deunydd archif, ac ar gyfer ffilmio ar eiddo'r Gwasanaeth Archifau: Cyhoeddiad masnachol, gan gynnwys lluniau ar wefannau masnachol.

Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion, ac i ofyn am ddyfynbris.

Ffôn:

Gallwch dalu am ein holl wasanaethau, gan gynnwys archebion am gopïo ac ymchwil dros y ffôn gyda cherdyn credyd neu ddebyd.

Mae'r ddesg dalu ar agor o 9.00am - 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 9.00am - 4.30pm ar ddydd Gwener. Mae ar gau rhwng 1:00pm a 2:00pm.

Ffoniwch: 01267 228686.

Yn anffodus, ni allwn dderbyn eich galwad ar wyliau Banc y DU neu penwythnos wyliau Banc.

Yn Bersonol:

Gallwch hefyd dalu gyda cherdyn credyd neu cerdyn debyd yn yr ystafell chwilio archifau.