Gwnewch wahaniaeth. Gweithiwch yn Sir Gaerfyrddin.
Mae ein tîm o dros 8,000 o weithwyr yn darparu amrywiaeth o wasanaethau o'r radd flaenaf i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.
Mae Sir Gaerfyrddin yn lle gwych i fyw a gweithio. Mae ei harfordir ysblennydd, ei threfi marchnad hanesyddol a'i phentrefi llai yn cadw diwylliant a thraddodiadau unigryw Sir Gaerfyrddin yn fyw.
P'un a ydych chi'n chwilio am waith hyblyg tra bod y plant yn yr ysgol, rôl reoli, neu i gymryd y cam cyntaf yn eich gyrfa, gallwch ymuno â'n tîm blaengar i helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill.
Yn achos ymgeiswyr sydd angen ein nawdd ar gyfer cais Llwybr Gweithwyr Medrus, rhaid iddynt fodloni’r meini prawf cymhwysedd a bennir gan Lywodraeth y DU o dan y system ar sail pwyntiau. Cyn cyflwyno cais am y swydd wag, dylech wirio a yw’r rôl yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd yn y canllawiau Llwybr Gweithwyr Medrus a ddarperir gan Lywodraeth y DU.
Sylwch fod gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas, felly bydd gweithwyr presennol sydd wedi'u cofrestru ar ein Cronfa Dalent Adleoli yn cael eu hystyried yn gyntaf.
Gofynnir ichi ddarllen y nodiadau ynghylch Sut i ymgeisio ac ar ôl ichi ddod o hyd i’r swydd berffaith, ewch ati i gwblhau a chyflwyno ffurflen gais ar-lein. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ewch i’n tudalen Cwestiynau cyffredin.
PWYSIG: Bydd eich cais yn cau ar ôl 30 munud – mae hyn am resymau diogelwch. Cofiwch gadw eich cais yn rheolaidd er mwyn osgoi colli unrhyw wybodaeth.
Mae gennym gyfleoedd gwaith dros dro ac achlysurol i gyflenwi yn achos absenoldeb o fewn y Gwasanaeth Glanhau dan Gontract i weithio naill ai'n unigol neu fel rhan o dîm. Mae gennym gyfleoedd glanhau mewn gwahanol sefydliadau ledled Sir Gaerfyrddin.
Hyfforddai Graddedig (Strategaeth a Pholisi Gwastraff)
Cyflog: £21,968 - £21,968 (Graddedig)
Swydd dros dro - amser llawn
Dyddiad cau: 12/03/2023
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynaliadwyedd a'r amgylchedd? Yna, beth am edrych ar y cyfleoedd i raddedigion Cyngor Sir Gâr. Mae rôl gyffrous ar gael yn yr is-adran Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff a fydd yn datblygu eich sgiliau a'ch profiad yn y maes hwn.
Mae cyfle cyffrous ar gael i ymuno â'n tîm Perfformiad, Dadansoddi a Systemau sy'n ysgogi perfformiad ym mhob rhan o'r Adran Cymunedau. Byddai sgiliau craidd wrth echdynnu a dadansoddi data (gan ddefnyddio offer fel Microsoft Excel neu Power BI) yn fanteisiol.
Dymunir Pennaeth a Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn i benodi athro/athrawes CPA ymroddgar, brwdfrydig a chymwys i’r swydd uchod. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru cyn cael ei benodi.
Cyflog: £23,301 - £24,158 (Gradd D) yn cynnwys 8% pro-rata
Swydd barhaol - rhan-amser
Dyddiad cau: 24/02/2023
Mae bod yn weithiwr Gofal yn rôl werth chweil ac rydym yn chwilio am unigolion sy'n frwdfrydig, yn angerddol, sydd ag agwedd gadarnhaol ac sydd am wneud gwahaniaeth i fywydau'r bobl rydym yn eu cefnogi. Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Rydym yn bwriadu llenwi swydd o fewn yr adran budd-daliadau, sef gwasanaeth rheng flaen sy'n gyfrifol am anfonebau a chasglu gordaliadau budd-daliadau sy’n dyledus i’r cyngor. Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Ann Thomas - AnThomas@sirgar.gov.uk
Gwaith Dros Dro/Achlysurol Cynorthwy-ydd Arlwyo (Ysgolion)
Cyflog: £20,258 - £21,259 (Gradd A) pro-rata
Cyflog: £10.50 (Gradd A) pro-rata
Achlysurol
Dyddiad cau: 28/02/2023
Mae gennym gyfleoedd am swyddi dros dro ac achlysurol i weithio yn ystod absenoldeb mewn Ysgolion drwy Sir Gaerfyrddin. Mae ein horiau gwaith yn ddelfrydol i gyd-fynd ag ymrwymiadau teuluol a gwyliau ysgol. Nid oes angen profiad blaenorol am ein bod yn darparu hyfforddiant llawn.
Cyflog: £22,438 - £23,263 (Gradd D) yn cynnwys 4% Pro-rata
Swydd dros dro - yn ystod y tymor yn unig
Dyddiad cau: 24/02/2023
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, trefnus ac egniol i ymuno â’n tim gweinyddol. Bydd disgwyl i chi fod yn gyfrifol am Adnoddau Dynol, Data, Absenoldeb Staff a Chyllid.
Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Ceri Hopkins ar 01554759465/ Hopkinsc156@hwbcymru.net